Taliadau Wasanaethau

Diweddarwyd y dudalen ar: 29/02/2024

Mae'r holl daliadau am wasanaethau yr ydym yn gofyn amdanynt gan lesddeiliaid yn cael eu gwneud yn unol â'r brydles.

Taliadau am wasanaethau yw eich cyfran chi fel lesddeiliad o'r costau ar gyfer rheoli, atgyweirio, cynnal a gwella ardaloedd cymunedol a'r adeiladwaith allanol a'r strwythur adeiladu, a darparu yswiriant adeiladau a gwasanaethau i'r eiddo.

Rhestrir enghreifftiau o'r hyn y gallwn godi tâl amdano isod (nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr):

  • Mân atgyweiriadau a chynnal a chadw y bloc o ddydd i ddydd
  • Costau gweinyddol
  • Costau trydan cymunedol
  • Yswiriant adeiladau
  • Cynnal a chadw'r lifft lle bo'n berthnasol;
  • Gwaith mawr a rheolaidd
  • Rhent tir £10 y flwyddyn (codir gan yr Adain Mân Ddyledwyr)
  • Paentio allanol

 

  • Cyfrifir Taliadau am Wasanaethau drwy ddefnyddio costau gwariant cywir o'r flwyddyn ariannol flaenorol. Bydd cost darparu Gwasanaeth yn cael ei ddosbarthu'n gyfartal rhwng yr holl lesddeiliaid sydd wedi elwa o ddarparu'r gwasanaeth penodol hwnnw.
  • Bydd yr hyn yr ydym yn ei wario ar wasanaethau y llynedd wedi'i gynnwys yn y taliadau am wasanaethau ar gyfer y flwyddyn nesaf/ganlynol.

Tai