Trwyddedu
Ar hyn o bryd rydym yn gweithredu dau gynllun trwyddedu ar gyfer eiddo a gaiff eu rhentu’n breifat yn Sir Gaerfyrddin – sef cynllun trwyddedu gorfodol ar gyfer tai amlfeddiannaeth a chynllun trwyddedu dethol sy’n benodol ar gyfer Ward Tŷ-isa yn Llanelli.
I fod yn landlord trwyddedig mae’n rhaid i chi basio prawf ‘person addas a phriodol’. Ni fydd modd i landlordiaid sydd â rhai euogfarnau feddu ar drwydded ac mae’n rhaid iddynt enwebu rhywun arall syn addas ac yn briodol i reoli’r eiddo ar eu rhan.
Trwyddedu gorfodol Tai Amlfeddiannaeth (HMO)
Mae hyn yn berthnasol i Dai Amlfeddiannaeth sy’n cynnwys tair neu fwy o loriau ac sydd â phump neu fwy o feddianwyr nad ydynt yn ffurfio aelwyd unigol. Mae nifer y lloriau’n cynnwys isloriau y gellir byw ynddynt ac atigau a hefyd yn cynnwys llawr gwaelod masnachol â thŷ amlfeddiannaeth uwch ei ben ee mae siop llawr gwaelod â thŷ dau lawr a rennir uwch ei phen yn cyfrif fel eiddo tri llawr. Mae trwyddedu gorfodol yn berthnasol i’r Sir gyfan.
Ffioedd trwydded ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth (HMO)
Nifer o bobl | Ffi (£) | Ffi Ostyngol i Aelodau Cyswllt LAW (£) | Ffi Amrywio (£) |
---|---|---|---|
3 | 380 | 300 | 40 |
4-6 | 520 | 440 | 60 |
7-10 | 660 | 580 | 80 |
11 + | 800 | 720 | 100 |
Cynllun Trwyddedu Dethol
Nid yw trwyddedu dethol yn uniongyrchol gysylltiedig â thai amlfeddiannaeth. Gallai cynlluniau gael eu cyflwyno mewn ardaloedd lle nad oes galw mawr am dai neu mewn ardaloedd lle y ceir llawer iawn o broblemau yn sgil ymddygiad gwrthgymdeithasol. Gall problemau o’r fath, sy’n aml yn cael eu creu gan nifer bach iawn o landlordiaid neu denantiaid, gael effaith sylweddol mewn ardal. Diben trwyddedu dethol, o’r herwydd, yw helpu i wella ardaloedd o’r fath. Mae’n rhaid i bob eiddo a gaiff ei rentu’n breifat o fewn ardal trwyddedu dethol fod wedi’i drwyddedu, os yw’n dŷ amlfeddiannaeth ai peidio.
Mae un Cynllun Trwyddedu Dethol ar waith gennym ar hyn o bryd yn ward Tŷ-isa yn Llanelli. Bydd y cynllun hwn yn parhau hyd 2 Gorffennaf 2019, ac mae’n ategu Polisi Gosodiadau Lleol sydd hefyd yn bodoli ar gyfer tai cyngor yn Nhy-isa. Cyn cyflwyno Cynllun Trwyddedu Dethol mae’n rhaid ymgynghori â landlordiaid lleol ac yna cyhoeddi’r wybodaeth ar ôl i benderfyniad gael ei wneud.
Os ydych yn ddeiliad trwydded o fewn Cynllun Trwyddedu Dethol mae cyfrifoldeb arnoch i sicrhau nad yw eich tenantiaid yn achosi problemau o fewn ffiniau eich eiddo yn sgil ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Os ydych yn ddeiliad trwydded o fewn Cynllun Trwyddedu Dethol mae cyfrifoldeb arnoch i sicrhau nad yw eich tenantiaid yn achosi problemau o fewn ffiniau eich eiddo yn sgil ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Gall ymddygiad gwrthgymdeithasol gynnwys cerddoriaeth uchel a phartïon neu sbwriel nad yw’n cael ei roi allan yn briodol i’w gasglu. Er mai chi fydd yn gyfrifol yn y lle cyntaf am geisio ymdrin â materion o’r fath, byddwn ni, yr heddlu ac asiantaethau eraill yn gallu eich helpu i ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Ffioedd ar gyfer trwyddedau o fewn ardal Cynllun Trwyddedu Dethol
Math o Eiddo | Ffi (£) | Ffi Ostyngol i Aelodau Cyswllt LAW (£) | Ffi Amrywio (£) |
---|---|---|---|
Meddiannaeth Unigol (1 Adeilad yn cynnwys teulu neu unigolyn) | 240 | 180 | 20 |
2 Fflat | 360 | 280 | 20 |
3 Fflat | 480 | 400 | 40 |
4 Fflat | 600 | 520 | 60 |
5 Fflat | 720 | 640 | 80 |
6 Fflat neu fwy | 840 | 760 | 100 |
Eithriadau
Mae rhai mathau o eiddo wedi’u heithrio rhag trwyddedu, gan gynnwys llety prifysgol. Efallai y byddwn hefyd yn arfer ein disgresiwn er mwyn rhoi hysbysiad eithrio dros dro. Gall eithriadau dros dro gael eu caniatáu os ydych chi, fel landlord eiddo a gaiff ei rentu’n breifat, yn cymryd camau i newid y sefyllfa fel na fydd bellach angen i’r eiddo gael ei drwyddedu.
Mwy ynghylch Landlordiaid