Atgyweiriadau ac archwiliadau

Diweddarwyd y dudalen ar: 08/08/2023

Mae’n rhaid i chi gadw eich eiddo mewn cyflwr da, ac mae’n rhaid i unrhyw systemau nwy neu drydan gydymffurfio â’r safonau diogelwch cymeradwy. Mae gennych hawl cyfreithiol i fynd i mewn i’ch eiddo er mwyn ei archwilio neu ar gyfer cynnal gwaith atgyweirio, ond mae’n rhaid i chi roi o leiaf 24 awr o rybudd i’ch tenantiaid. Efallai y bydd modd i chi fynd i mewn yn ddirybudd os bydd argyfwng. Mae gan eich tenantiaid hawl i aros yn yr eiddo tra’ch bod yn cynnal y gwaith atgyweirio.

Chi, fel landlord, sy’n gyfrifol gan amlaf am atgyweiriadau i:

  • Strwythur eich eiddo
  • Basnau, sinciau, baddonau a ffitiadau ystafell ymolchi
  • Systemau gwres a dŵr poeth
  • Unrhyw ddifrod yr ydych yn ei achosi drwy geisio cynnal gwaith atgyweirio

Os caiff eich eiddo ei ddifrodi’n sylweddol yn sgil tân, llifogydd neu ddigwyddiad arall tebyg nid oes yn rhaid i chi ei ailadeiladu na’i adnewyddu. Os byddwch yn gwneud hynny, fodd bynnag, ni allwch godi tâl ar eich tenantiaid am unrhyw waith atgyweirio a gaiff ei wneud.

Gallwch ofyn i denantiaid symud allan yn ystod cyfnod o waith atgyweirio sylweddol, ond cyn gwneud hynny dylech gytuno ar y canlynol (a hynny’n ysgrifenedig):

  • Hyd y gwaith
  • Hawl eich tenantiaid i ddychwelyd
  • Manylion unrhyw lety arall

Ni allwch ailfeddiannu eiddo ar gyfer cynnal gwaith atgyweirio. Os ydych yn bwriadu cynnal gwaith sylweddol, fodd bynnag, neu os ydych yn dymuno ailddatblygu’r eiddo, gallwch gyflwyno cais i’r llysoedd am orchymyn er mwyn gofyn i’ch tenantiaid adael. Mae’r llysoedd yn fwy tebygol o gymeradwyo hyn os byddwch yn darparu llety arall i’ch tenantiaid.