Gosod eich eiddo

Diweddarwyd y dudalen ar: 08/08/2023

Mae cyfrifoldebau arnoch fel landlord, gan gynnwys:

  • Sicrhau bod yr eiddo yr ydych yn ei osod ar rent yn lle diogel ac iach i bobl fyw ynddo
  • Sicrhau bod yr holl offer nwy a thrydan yr ydych yn eu darparu wedi’u gosod yn ddiogel a’u bod yn cael eu harchwilio’n rheolaidd
  • Cydymffurfio â rheoliadau ynghylch diogelu rhag tân
  • Darparu Tystysgrif Perfformiad Ynni ar gyfer yr eiddo
  • Diogelu blaendal eich tenant mewn cynllun a gymeradwyir gan y llywodraeth 

Rydym yn defnyddio’r System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai er mwyn sicrhau bod cartrefi’n lleoedd diogel i bobl fyw ynddynt. Mae hyn yn cynnwys archwilio eich eiddo am beryglon posibl – er enghraifft, syrthio ar risiau anwastad neu beryglus.

Os ydych yn berchen ar eiddo ac yn ei osod ar rent efallai y byddwn yn penderfynu cynnal archwiliad o dan y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai oherwydd:

  • Mae eich tenantiaid wedi gofyn am archwiliad
  • Rydym wedi cynnal arolwg o eiddo lleol ac yn amau y gallai eich eiddo fod yn beryglus

Byddwn yn archwilio 29 o faterion iechyd a diogelwch ac yn sgorio’r peryglon. Bydd swyddogion yn cymryd camau er mwyn mynd i’r afael â diffygion a pheryglon sylweddol a gallent gymryd camau i fynd i’r afael â pheryglon sy’n llai o risg.

Yn y dyfodol, ni fydd modd i chi geisio meddiannu eich eiddo er mwyn cynnal gwaith atgyweirio os ydym eisoes wedi cymryd camau yn eich erbyn i fynd i’r afael â’r problemau hyn ar eich rhan. Mewn sefyllfa o’r fath, byddwn yn ceisio cydweithio â chi er mwyn cynnal tenantiaeth y bobl sy’n byw yn eich eiddo.