Tai amlfeddiannaeth (HMOs)

Diweddarwyd y dudalen ar: 12/10/2023

Caiff tŷ amlfeddiannaeth ei ddiffinio fel eiddo lle y mae tri neu fwy o bobl yn byw ac sy’n ffurfio dwy neu fwy o aelwydydd, er enghraifft:

  • Tŷ myfyrwyr sydd â phum ystafell wely
  • Fflat un ystafell lle y mae tri pherson unigol yn byw
  • Cwpwl a ffrind yn rhannu
  • Rhai blociau o fflatiau nad ydynt wedi’u haddasu cyn 1991 gyda rheoliadau adeiladu neu ar ôl 1991 heb reoliadau adeiladu

Nid yw tŷ yn dŷ amlfeddiannaeth o dan yr amodau canlynol:

  • Lle y mae dau ffrind yn rhannu
  • Lle y mae dau fflat gyda pherson unigol ymhob un
  • Lle y mae’r tenantiaid yn uned deuluol

Os ydych yn landlord sy’n gosod Tŷ Amlfeddiannaeth ar rent mae’n rhaid i chi sicrhau bod y rhagofalon cywir o ran tân a diogelwch yn eu lle a bod nifer cywir o amwynderau. Mae gwahanol safonau ynghlwm wrth wahanol sefyllfaoedd. Rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â ni i gael rhagor o gyngor os ydych yn ansicr ynghylch diogelu rhag tân neu ynghylch amwynderau cyffredinol yr eiddo yr ydych yn ei osod neu’n bwriadu ei osod.

Nifer o bobl Safonau amwynderau - ystafelloedd ymolchi/toiledau mewn perthynas â nifer y bobl

1 – 4

Does dim gofyn darparu basnau ymolchi mewn ystafelloedd cysgu
AMae angen o leiaf 1 ystafell ymolchi ac 1 toiled (gallant fod yn yr un ystafell)
Nid oes gofyn darparu basnau ymolchi mewn ystafelloedd gwely

5

Mae angen 1 basn ymolchi ymhob ystafell gysgu a hefyd
1 ystafell ymolchi AC
1 toiled ar wahân gyda basn ymolchi (ond gall y toiled fod yn rhan o ail ystafell ymolchi)

6 – 10

Mae angen 1 basn ymolchi ymhob ystafell gysgu a hefyd
2 ystafell ymolchi A HEFYD
2 doiled ar wahân gyda basnau ymolchi (ond gall un o’r toiledau fod yn rhan o un o’r ystafelloedd ymolchi)
Mae angen 3 rhan ar wahân

11 – 15

Mae angen 1 basn ymolchi ymhob ystafell gysgu a hefyd
3 ystafell ymolchi A HEFYD
3 thoiled ar wahân gyda basnau ymolchi (ond gall dau o’r toiledau fod yn rhan o 2 o’r ystafelloedd ymolchi).
Mae angen 4 rhan ar wahân