Pecyn Gosod a Rheoli Platinwm

Gyda'n Pecyn Platinwm gallwn gynnig y canlynol i chi;

  • Dim ffioedd
  • Cynllun dod o hyd i denant am ddim
  • Incwm rhent gwarantedig am gyfnod o dair blynedd o leiaf
  • Dim colli rhent yn ystod cyfnodau gwag
  • Mae’n cynnwys yr holl gyfrifoldebau rheoli
  • Mae'r holl gostau atgyweirio a chynnal a chadw o ddydd i ddydd yn cael eu talu
  • Tystysgrif diogelwch nwy landlordiaid am ddim
  • Gwasanaeth gwres canolog a phlymwaith 24/7 am ddim
  • Adroddiad profi ac arolygu trydan am ddim
  • Tystysgrif perfformiad ynni am ddim
  • Cyngor am ddim gan staff cymwys a rheoledig
  • Rhestr cynnwys eiddo digidol a phroffesiynol
  • Contractau Meddiannaeth am ddim
  • Gwarant hawlildio difrod
  • Dim gofyniad i gael trwydded gyda Rhentu Doeth Cymru
  • Efallai y bydd cymorth ariannol ar gael i uwchraddio eich eiddo

 

Byddwn yn rheoli'r eiddo am gyfnod o dair blynedd o leiaf a bydd y rhent yn cael ei warantu hyd yn oed os yw'r eiddo'n wag. Bydd taliadau rhent yn dechrau o'r adeg y bydd yr eiddo'n barod i'w osod a bydd yr holl gostau atgyweirio a chynnal a chadw o ddydd i ddydd yn cael eu talu.

Yn gyffredinol, telir y rhent yn unol â'r Lwfansau Tai Lleol cyhoeddedig ar gyfer Sir Gaerfyrddin. Bydd swm y rhent y byddwch yn ei dderbyn yn dibynnu ar faint yr eiddo. Mewn rhai achosion, efallai y byddwn yn trafod rhent uwch gyda chi wrth wneud cais.

 

Bydd eich incwm rhent yn cael ei dalu i chi yn uniongyrchol gan Gosod Syml. Mae'r rhent wedi'i warantu drwy gydol y cytundeb p'un a yw'r eiddo'n cael ei feddiannu ai peidio.

Bydd y tenantiaid sy'n byw yn yr eiddo yn gyfrifol am holl filiau'r dreth gyngor, dŵr a thanwydd.

Mae gennym restr helaeth o unigolion, cyplau a theuluoedd sy'n chwilio am gartref. Gwneir pob dyraniad ar gyfer tenantiaethau yn unol â pholisi dyrannu Cyngor Sir Caerfyrddin. Gofynnir i holl ddarpar denantiaid ddarparu dau eirda, gan gynnwys landlordiaid blaenorol os ydynt wedi cael tenantiaeth o’r blaen. Yn ogystal, mae’r holl ddarpar denantiaid yn cael asesiad fforddiadwyedd i sicrhau eu bod yn addas, gwneir hyn gan ymgynghorydd cymwysedig. Mewn rhai achosion, darperir cymorth ychwanegol i sicrhau tenantiaethau cynaliadwy.

Mae gennym ddiddordeb mewn tai heb eu dodrefnu gydag un, dwy, tair a phedair ystafell wely. Fodd bynnag, gall y math o eiddo sydd ei angen arnom a'r ardaloedd lle mae angen cartrefi arnom amrywio dros amser.

Rydym yn chwilio am eiddo yn nhair prif dref Sir Gaerfyrddin - Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli. Efallai y byddwn yn ystyried derbyn eiddo mewn lleoliadau llai lle mae cysylltiadau trafnidiaeth da a mynediad at amwynderau lleol, gan gynnwys ysgolion, meddygfeydd a siopau. Bydd cymryd eiddo mewn ardaloedd mwy gwledig neu bentrefi llai yn dibynnu ar yr angen am dai yn yr ardaloedd hynny.

Cysylltwch â ni i drafod lle mae angen gwaith ar eiddo i ddod ag ef i safon y gellir ei osod. Efallai y byddwn yn gallu cynnig cymhelliant ariannol bach.

Pan fydd eich cytundeb yn dod i ben, gallech ddewis ymrwymo i gytundeb newydd a chofrestru am dair blynedd arall. Fel arall, os hoffech ddod â'ch cytundeb i ben byddwn yn trefnu dychwelyd yr eiddo atoch.

Anfonwch e-bost atom gyda manylion eich eiddo a bydd swyddog yn cysylltu i drafod y cynllun yn fanylach; gosodsyml@sirgar.gov.uk

 

Sylwadau gan Gleientiaid

Mae gennym dawelwch meddwl llwyr gyda'r Cyngor a Gosod Syml”
Mr & Mrs Thomas

Ar ôl delio â Gosod Syml am nifer o flynyddoedd, maen nhw bob amser yn gyfeillgar ac yn hawdd i gyfathrebu â nhw. Rwy'n fwy na hapus â'r ffordd y maent yn rheoli fy eiddo”
Mr Teifi

Yn ystod fy nghyfnod fel Landlord yn gweithio gyda'r tîm Gosod Syml, mae'r tenantiaid y maent wedi eu cael i mi wedi bod yn denantiaid tymor hir a da. Cyn ac yn ystod y tenantiaethau bu cyfathrebu cyson rhwng y tîm a minnau a oedd yn ddefnyddiol iawn os oedd unrhyw broblemau. Rwyf wedi bod yn ymwneud â thîm Gosod Syml ers 2008 a byddwn yn dweud y bu'n brofiad positif iawn.”
Mr Pugh