Cynllun Blaendaliadau Tenantiaeth

Diweddarwyd y dudalen ar: 15/12/2023

Mae’n rhaid i chi, fel landlord, roi blaendal eich tenant mewn cynllun diogelu blaendaliadau tenantiaeth a gefnogir gan y llywodraeth, a hynny o fewn 30 diwrnod i’w dderbyn. Yng Nghymru a Lloegr gall y blaendal gael ei gofrestru gyda’r:

Cyn belled â bod eich tenant yn cydymffurfio ag amodau’r cytundeb tenantiaeth, yn gadael eich eiddo mewn cyflwr da, ac yn talu’r rhent a’r biliau, mae’n rhaid i chi ddychwelyd ei flaendal cyn pen 10 diwrnod ar ôl i chi eich dau gytuno ar faint y bydd yn ei gael yn ôl. Os bydd anghydfod, caiff y blaendal ei ddal yn y cynllun blaendaliadau hyd nes bod y mater yn cael ei unioni.

Nid oes yn rhaid i chi ddiogelu blaendal daliannol (sef arian y gallai darpar denant ei dalu i ‘gadw’ eiddo cyn bod cytundeb wedi’i lofnodi gyda chi) ond ar ôl iddo ddod yn denant, mae’r blaendal daliannol yn troi’n flaendal y mae’n rhaid i chi ei ddiogelu.

Mae’n rhaid i chi ddefnyddio cynllun diogelu blaendaliadau hyd yn oed os yw’r blaendal yn cael ei dalu gan rywun heblaw am y tenant, er enghraifft, ei rieni. Unwaith y byddwch wedi derbyn eich blaendal mae’n rhaid i chi, a hynny o fewn 30 diwrnod, roi’r wybodaeth ganlynol i’ch tenant:

  • Cyfeiriad yr eiddo sy’n cael ei rentu
  • Cadarnhad ynghylch faint o flaendal y mae wedi’i dalu
  • Sut y mae’r blaendal yn cael ei ddiogelu
  • Enw a manylion cyswllt y cynllun diogelu blaendaliadau tenantiaeth a’i wasanaeth datrys anghydfodau
  • Eich enw (neu enw’r asiant gosod) a’ch manylion cyswllt
  • Cadarnhad ynghylch enw a manylion cyswllt unrhyw drydydd parti sydd wedi talu’r blaendal
  • Unrhyw resymau pam y byddech yn cadw’r blaendal i gyd neu rywfaint ohono
  • Sut y gall eich tenant wneud cais i gael y blaendal yn ôl
  • Beth y dylai eich tenant ei wneud os na all gael gafael arnoch ar ddiwedd y denantiaeth
  • Beth i’w wneud os oes anghydfod ynghylch y blaendal

Gall eich tenant wneud cais i’r Llys Sirol os yw’n credu nad ydych wedi defnyddio cynllun blaendaliadau tenantiaeth. Os bydd y llys yn dod i’r casgliad nad ydych wedi diogelu blaendal eich tenant gall orchymyn eich bod yn ei:

  • Ad-dalu i’r tenant
  • Talu i gyfrif banc cynllun diogelu blaendaliadau tenantiaeth gwarchodol o fewn 14 diwrnod

Gall y llys hefyd eich gorchymyn i dalu hyd at deirgwaith y blaendal o fewn 14 diwrnod ar ôl gwneud y gorchymyn. Hefyd gall y llys benderfynu nad oes yn rhaid i’ch tenant adael yr eiddo pan fydd y denantiaeth yn dod i ben os nad ydych wedi defnyddio cynllun blaendaliadau tenantiaeth pryd y dylech fod wedi gwneud hynny.

Datrys anghydfod

Bydd y cynllun diogelu blaendaliadau tenantiaeth y byddwch yn ei ddefnyddio yn cynnig gwasanaeth datrys anghydfodau am ddim os byddwch chi a’ch tenant yn anghytuno ynghylch faint o’r blaendal y dylid ei ddychwelyd.

Nid oes yn rhaid i chi ddefnyddio’r gwasanaeth ond os byddwch chi’n gwneud mae’n rhaid i chi a’ch tenant gytuno ar hynny. Bydd gofyn i’r ddau ohonoch ddarparu tystiolaeth, a bydd y penderfyniad a wneir ynghylch y blaendal yn un terfynol. Bydd y cynllun diogelu blaendaliadau tenantiaeth yn ad-dalu’r blaendal os bydd y gwasanaeth datrys anghydfodau yn cytuno ar hynny. Gall eich tenant ‘godi anghydfod’ er mwyn cael ei flaendal yn ôl os na all gysylltu â chi.