Trawsnewid Trefi

3. Cymhwysedd

Gallwch wneud cais am y grant hwn os ydych yn rhentu neu'n berchen ar eiddo yn y canol trefi canlynol:

  • Rhydaman
  • Caerfyrddin
  • Llanelli

Rhaid i chi naill ai:

  • Fod yn berchen ar y rhydd-ddaliad, neu
  • Fod yn dal prydles gydag o leiaf saith mlynedd yn weddill ar ôl dyddiad talu terfynol y grant. Bydd angen i chi gael cydsyniad ysgrifenedig eich landlord ar gyfer y gwaith arfaethedig.

Ni allwch wneud cais am gyllid i gefnogi gwaith yr ydych eisoes wedi'i ddechrau. Rydym yn eich annog i gysylltu â ni yn gynnar i drafod unrhyw gynigion, ebostiwch TrawsnewidTrefi@sirgar.gov.uk

Efallai y bydd angen i chi wneud cais am ganiatâd cynllunio neu reoliadau adeiladu a thrafod ystyriaethau dylunio allweddol.