Cyllido
Cronfa Adnewyddu Canol Trefi - Mae’r cronfeydd wedi’u targedu at ddarparu cyfleoedd i sefydliadau yng nghanol trefi Sir Gaerfyrddin fywiogi blaenau eu siopau. Mae £2,000 ar gael ar gyfer pob eiddo cymwys ac mae'n seiliedig ar 80% o gostau cymwys y prosiect. Mae rhydd-ddeiliaid a lesddeiliaid yn gymwys. Mae’r mathau o wariant cymwys yn cynnwys addurno adeiladau, goleuo, paentio, glanhau cwteri ac ati.
Cychwyn Busnes - Nod y Gronfa Cychwyn Busnes yw cynorthwyo'r gwaith o greu busnesau newydd yn y sir, gan arwain yn uniongyrchol at greu swyddi ac felly gwella'r economi leol. Mae'r grant ar gael ar gyfer busnesau cyn cychwyn yn unig (nad ydynt yn masnachu eto). Bydd pob grant yn seiliedig ar 50% o'r costau cymwys NEU uchafswm o £5,000 ar gyfer pob swydd sy'n cael ei chreu, pa un bynnag yw'r lleiaf.
Tyfu busnes - Bydd y grant yn cefnogi busnesau lleol a mewnfuddsoddwyr i dyfu, ffynnu a bod yn gynaliadwy. Mae grantiau ar gael rhwng £1,000 a £10,000. Bydd pob grant yn seiliedig ar 50% o'r costau cymwys NEU uchafswm o £5,000 ar gyfer pob swydd sy'n cael ei chreu, pa un bynnag yw'r lleiaf.
Cronfa Ynni Adnewyddadwy Busnes - Yn dilyn cynllun peilot Cronfa Ynni Adnewyddadwy Busnes Sir Gaerfyrddin, bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn cyflwyno ail gam o'r cynllun fydd yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU drwy gyfrwng y Gronfa Ffyniant Gyffredin. Bydd y Gronfa yn gynllun grant fusnes, a fydd yn darparu cymorth cyfalaf i fusnesau tuag at brynu systemau ynni adnewyddadwy ar gyfer eu safleoedd busnes. Mae Grantiau rhwng £1,000 (lleiafswm) a £25,000 (uchafswm) ar gael tuag at gost y system ynni adnewyddadwy. Bydd pob dyfarniad grant yn seiliedig ar ddim mwy na 50% o'r gost gymwys.
Benthyciad Canol Tref - Amcan y cynllun Benthyciad Canol Tref yw cymell a galluogi adnewyddu eiddo ac adeiladau newydd yng nghanol trefi Sir Gaerfyrddin. Mae benthyciad di-log rhwng £25,000 a £1,000,000 ar gael.
Gorchymyn Datblygu Lleol (LDO) -mae'r Gorchymyn yn cydnabod rôl newidiol canol y dref yn gyrchfan a lleoliad byw yn ogystal â chanolfan fanwerthu. Mae'n cynnig cyflwyno trefn gynllunio ganiataol a fyddai'n caniatáu newidiadau penodol o ran defnydd heb fod yr ymgeisydd yn gorfod cyflwyno cais am ganiatâd cynllunio.