Beth i'w gynnwys ar eich anfoneb

Diweddarwyd y dudalen ar: 16/08/2023

Mae'n well gennym anfonebau a anfonir yn electronig. Mae hyn yn helpu cefnogi ein nod i leihau costau drwy ddefnyddio a storio llai o bapur.

I sicrhau ein bod yn eich talu'n brydlon, sicrhewch nad oes modd golygu eich anfonebau e.e.pdf (dim fformatau Word neu Excel) a chofiwch gynnwys y canlynol:

  • Y gair 'Anfoneb/Nodyn Credyd' ar y ddogfen
  • Enw'r Cwmni, cyfeiriad, a gwybodaeth gyswllt gan gynnwys cyfeiriad e-bost
  • Rhif cofrestru'r cwmni
  • Wedi ei gyfeirio at Gyngor Sir Caerfyrddin (CSC)
  • Dyddiad yr Anfoneb
  • Rhif Anfoneb unigryw
  • Disgrifiad o'r Nwyddau/Gwasanaeth
  • Y swm sy'n cael ei godi (ynghyd â TAW os yn berthnasol)
  • Rhif cofrestru TAW (os yw'n berthnasol)
  • Manylion talu (Enw, Côd Didoli a Chyfrif Banc)
  • Os contractiwyd i wneud gwaith yng nghwmpas cynllun treth diwydiant adeiladu Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, dadansoddiad clir o ddeunyddiau a llafur a'ch rhif Cyfeirnod Treth Unigryw.
  • Rhif archeb brynu CSC dilys

Dylai'r rhif archeb brynu fod wedi cael ei ddarparu i chi gan y swyddog(ion) sy'n caffael eich nwyddau/gwasanaethau.

Isod mae enghraifft o'r hyn y dylai anfoneb electronig ei gynnwys.

Anfoneb enghreifftiol