Sicrhau Cydymffurfiaeth â'r Gorchymyn Brynu

Diweddarwyd y dudalen ar: 16/08/2023

O Awst 1 2022 byddwn yn gwneud rhai newidiadau i'r ffordd rydym yn ymdrin ag anfonebau.

Rydym yn cyflwyno polisi archeb brynu gorfodol a fydd yn helpu i brosesu anfonebau'n gyflymach ac sy'n fesur rheoli ariannol allweddol i'r Cyngor. Bydd hyn yn sicrhau bod y Cyngor dim ond yn talu am nwyddau, gwasanaethau a gwaith pan fyddant wedi'u hawdurdodi'n briodol yn unol â fframwaith llywodraethu ariannol y Cyngor.

Mae'r polisi hwn yn golygu na fyddwn yn gallu talu anfonebau sy'n dod i law heb nodi rhif archeb brynu cywir a dilys (mae eithriadau'n berthnasol). Bydd anfonebau sy'n dod i law heb archeb brynu ddilys yn cael eu dychwelyd i'r person a gymerodd yr archeb i gael rhif archeb brynu dilys. Bydd yn cysylltu â chi a bydd yn ofynnol i chi ailgyflwyno'r anfoneb gan nodi'r rhif archeb brynu.

Er mwyn osgoi unrhyw oedi diangen o ran eich taliad, ni ddylech gyflenwi nwyddau/gwasanaethau i'r Cyngor hyd nes y byddwch wedi derbyn rhif archeb brynu dilys sy'n dilyn y fformat 1nnnnnnn. Ni ddylech, o dan unrhyw amgylchiadau, dderbyn unrhyw archeb ar lafar neu'n ysgrifenedig gan un o swyddogion y Cyngor oni bai bod rhif archeb brynu dilys yn cael ei roi, neu fod eithriad yn berthnasol fel y nodwyd yn y Cwestiynau Cyffredin amgaeedig neu ei bod yn archeb frys.

Os ydych yn cyflenwi nwyddau/gwasanaethau'n rheolaidd i'r Cyngor, efallai y byddwch yn dymuno cysylltu â'ch cyswllt arferol ar gyfer archebion os oes gennych unrhyw gwestiynau neu i gadarnhau eich statws.

Os yw eich nwyddau/gwasanaethau eisoes wedi eu darparu i'r Cyngor, ac nad ydych wedi derbyn archeb brynu rhaid i chi gysylltu â'r aelod o staff y Cyngor a roddodd y cyfarwyddyd gwreiddiol i gyflenwi'r nwyddau/gwasanaethau a gofyn iddo ddarparu rhif archeb brynu dilys.

Rhaid nodi'r rhif archeb brynu ar yr anfoneb cyn ei chyflwyno i'r Cyngor i gael taliad. Bydd unrhyw anfoneb sy'n dod i law heb archeb brynu ddilys yn cael ei dychwelyd i chi a gofynnir i chi ailgyflwyno'r anfoneb gan nodi rhif archeb brynu'r Cyngor.

Telerau talu safonol y Cyngor yw 30 diwrnod ar ôl derbyn anfoneb ddilys.

Eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybod i'r Cyngor am unrhyw newidiadau i wybodaeth am eich busnes, gan gynnwys manylion o ran cyfrif banc, TAW a Thŷ'r Cwmnïau.

Mae cyfres o gwestiynau cyffredin ar gael.

Nid oes angen archebion prynu o dan yr amgylchiadau hyn:

Biliau Cyfleustodau

  • Gwasanaethau post
  • Gwasanaethau llungopïo
  • Talu unigolion (e.e. Taliadau Maeth, Gwirfoddolwyr, Treuliau, Gwobrau, ac ati)
  • Rhenti
  • Adroddiadau Meddygol Iechyd Galwedigaethol
  • Tanysgrifiadau i gymdeithasau
  • Taliadau ar ran cyrff cyhoeddus
  • Trwyddedau Teledu
  • Darpariaethau Cyffredinol (Bwyd a Diodydd) - Arlwyo yn unig
  • Taliadau brys