Pa mor ymarferol yw'r digwyddiad?

Diweddarwyd y dudalen ar: 26/10/2023

Ar ôl nodi a diffinio holl elfennau'r digwyddiad, mae angen ystyried dichonoldeb y digwyddiad arfaethedig. Yn fras, mae tri maes sy'n effeithio ar ddichonoldeb digwyddiadau, ac fe'i rhestrir isod:

  • Ffactorau'r farchnad sy'n effeithio ar ddichonoldeb: Marchnad darged, y galw, cyflenwad, cystadleuaeth, ac ati.
  • Ffactorau gweithredol sy'n effeithio ar ddichonoldeb: Argaeledd lleoliad, sgiliau sy'n ofynnol, adnoddau, trwyddedau a hawlenni, ac ati.
  • Ffactorau ariannol sy'n effeithio ar ddichonoldeb: Costau a refeniw a ragwelir, ffynonellau cyllid, ac ati.

Ar ôl ystyried y meysydd uchod, mae'n arfer cyffredin cynnal dadansoddiad SWOT sy'n nodi Cryfderau, Gwendidau, Cyfleoedd a Bygythiadau. Mae cryfderau a gwendidau yn faterion sy'n ymwneud â chysyniad y digwyddiad a'r sefydliad sy'n ei gynnal. Mae cyfleoedd a bygythiadau yn faterion sy'n ymwneud â'r amgylchedd allanol yr ydych chi'n byw ynddo. Mae modd chwilio ar-lein, a chewch hyd i ystod o dempledi ar gyfer cynnal dadansoddiad SWOT.

Yn dilyn eich dadansoddiad SWOT, y canlyniadau fyddai bwrw ymlaen â'r cysyniad fel y'i diffiniwyd, gohirio'r digwyddiad i ddyddiad hwyrach pan fydd yn ymarferol, rhoi'r gorau i gynllunio'r digwyddiad neu newid y digwyddiad ar sail marchnad, gweithredol neu ariannol.