Camerâu a Wisgir ar y Corff (BWCCTV)
Mae sicrhau bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir yn bwysig iawn o ran darparu ein gwasanaethau a chadw hyder y cyhoedd.
Ystyr data personol yw unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson y mae modd adnabod pwy ydyw yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy ddefnyddio'r wybodaeth. Defnyddir y termau 'gwybodaeth' a 'data personol' yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn drwyddo draw ac maent yn gyfystyr.
Er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir, rydym yn ceisio cydymffurfio'n llwyr â gofynion deddfwriaeth Diogelu Data.
Felly, mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn wedi'i lunio i esbonio mor glir â phosibl beth rydym yn ei wneud â'ch data personol.
1. Y dibenion o ran defnyddio eich data personol
Rydym yn casglu data personol gan ddefnyddio Teledu Cylch Cyfyng a Wisgir ar y Corff at ddibenion atal troseddau, darganfyddiadau a diogelwch y cyhoedd.
Defnyddir ffilm o Deledu Cylch Cyfyng a wisgir ar y corff i gadw ein swyddogion yn ddiogel, i leihau'r posibilrwydd o sefyllfaoedd lle bydd swyddogion yn wynebu gwrthdaro, lleihau'r posibilrwydd o ddigwyddiadau'n gwaethygu a chasglu tystiolaeth. Mae gan y Cyngor gyfrifoldeb i atal troseddau ac anrhefn yn ei ardal.
Mae'r Cyngor hefyd wedi ymrwymo i gydymffurfio â Chôd Ymarfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ar gyfer camerâu gwyliadwriaeth a data personol, Côd Ymarfer Camerâu Gwyliadwriaeth y Swyddfa Gartref a pholisi BWCCTV y Cyngor.
Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich gwybodaeth yw ymarfer ein hawdurdod swyddogol neu i berfformio tasg benodol er budd y cyhoedd, a nodir yn y Gyfraith, sef Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 a Deddf Llywodraeth Leol 1972
2. Pa fath o wybodaeth ydym yn ei defnyddio?
Mae'r Teledu Cylch Cyfyng a wisgir ar y corff yn recordio fideos a data sain o aelodau'r cyhoedd yn gyffredinol ac yn benodol, pobl sy'n dod i gysylltiad â'n swyddogion.
Gallai rhywfaint o'r data personol hwn fod yn ddata personol categori arbennig (sensitif). Rydym yn prosesu hyn o dan sail gyfreithlon budd sylweddol y cyhoedd, gan gyfeirio at y ddeddfwriaeth uchod.
3. A ydym yn defnyddio gwybodaeth a gafwyd o ffynonellau eraill?
Nac ydym. Mae Swyddogion Gorfodi'r Cyngor yn defnyddio Teledu Cylch Cyfyng a wisgir ar y corff. Mae hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i'n Swyddogion Gorfodi Materion Amgylcheddol, Cynllunio, Trwyddedu a Gorfodi Rheolau Parcio.
4. Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor
Rydym yn defnyddio Microsoft Office 365 i brosesu ein dogfennau electronig o dan delerau cytundeb caeth, sy'n diogelu eich gwybodaeth. Caiff y data personol hwn ei gadw ar weinyddion y tu allan i'r DU, ond dim ond yng ngwledydd yr UE lle mae'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data yn berthnasol. Nid ydym yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth arall amdanoch chi y tu allan i'r DU.
5. Pwy all weld eich gwybodaeth?
Rydym yn rhannu lluniau teledu cylch cyfyng â'r canlynol:
- Heddlu Dyfed-Powys
- Asiantaethau gorfodi'r gyfraith
- Asiantaethau erlyn
- Cynrychiolwyr cyfreithiol
- Gwasanaethau Cyfreithiol y Cyngor
Gwneir hyn mewn sefyllfaoedd penodol, megis:
- Pan fo'r gyfraith yn mynnu bod y Cyngor yn rhoi'r wybodaeth
- Pan fo angen datgelu'r wybodaeth i atal neu ddatrys trosedd
- Pan fo datgelu er budd pennaf y person dan sylw
6. Am ba hyd y byddwn yn cadw'ch gwybodaeth
Caiff delweddau eu cadw ar ein systemau am 31 diwrnod ac yna maent yn cael eu dileu neu'n cael eu trosysgrifo'n awtomatig. Gallwn gadw recordiad am fwy o amser na hyn os oes ei angen ar gyfer unrhyw un o'r dibenion a nodir uchod.
7. Eich hawliau o ran Diogelu Data
Mae gennych hawl i:
- Weld y data personol y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ei brosesu amdanoch
- Mynnu bod unrhyw wybodaeth anghywir neu anghyflawn yn cael ei chywiro
- Tynnu eich caniatâd i brosesu'r data yn ôl, lle mai dyna'r unig sail ar gyfer prosesu'r data
- Cyflwyno cŵyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y corff annibynnol yn y Deyrnas Unedig sy'n diogelu hawliau o ran gwybodaeth
Mewn rhai amgylchiadau, gall fod gennych hawl i:
- Wrthwynebu bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu
- Dileu eich data personol
- Rhoi cyfyngiadau ar brosesu eich gwybodaeth bersonol
- Hygludedd data
8. Manylion cyswllt
I gael rhagor o wybodaeth ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn a'ch hawliau, cysylltwch â'r:
Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Caerfyrddin
Neuadd y Sir
Caerfyrddin
SA31 1JP
E-bost: dataprotection@sirgar.gov.uk
Mae'r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, ynghyd ag arweiniad pellach ynghylch deddfwriaeth Diogelu Data, ar gael ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
Cyngor a Democratiaeth
Y Cyngor
Cynghorwyr, ACau ac ASau
- Eich Cynghorydd Sir
- Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd a'r Cynllun Deiseb
- Lwfansau a buddiannau cynghorwyr
- Cynghorwyr Tref a Chymuned
- Aelodau Senedd Cymru
- Aelodau Seneddol
- Sut mae bod yn Gynghorydd
Adrannau'r Cyngor
Pwyllgorau a Chyfarfodydd
- Agendâu a chofnodion
- Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
- Dyddiadur y Cyngor
- Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
- Y Cabinet
- Penderfyniadau swyddogion
- Cynlluniau gwaith i'r dyfodol
- Pwyllgor Cynllunio
- Craffu
- Pwyllgor Safonau
- Cyngor Ymgynghorol Sefydlog dros Addysg Grefyddol (CYSAG)
Strategaethau a chynlluniau
Cyllideb y Cyngor
- Crynhoad Cyllideb
- Datganiad Cyfrifon
- Cronfa Bensiwn Dyfed
- Ein Rhanbarth ar Waith (ERW)
- Bargen Ddinesig Bae Abertawe
- Ffyrdd syml i arbed arian i'r Cyngor
Ymgynghori a Pherfformiad
- Ymgynghoriadau actif
- Rheoli Perfformiad
- Archwiliadau, Arolygiadau ac Adroddiadau
- Y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
- Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2022-23
Hysbysiadau cyhoeddus
Canllawiau Brexit
Iaith Gymraeg
Carbon Sero-net
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Cyfamod Lluoedd Arfog
Etholiadau a Phleidleisio
- Etholiadau Lleol 2022
- Bod yn gymwys i bleidleisio
- Sut mae pleidleisio?
- Newidiadau i bleidleisio drwy'r post a phleidleisio drwy ddirprwy
- Cofrestru i bleidleisio
- Diweddaru eich manylion ar y Gofrestr Etholiadol
- Diweddariad blynyddol o'r gofrestr pleidleiswyr
- Sut i optio allan o'r gofrestr agored
- Gweld y Gofrestr Etholiadol
- Is-etholiadau
- Fy Un Agosaf - Gwybodaeth etholiadol
- Etholiadau Senedd Cymru
- Etholiadau'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu 2021
- Etholiad Cyffredinol Seneddol 2019
- Help i Bleidleiswyr Anabl
- Adolygiad o Ffiniau Seneddol
- Deddf Etholiadau 2022 ac ID Pleidleisiwr
- Adolygiad Cymunedol 2023
- Adolygiad o Ddosbarthau Pleidleisio a Mannau Pleidleisio
Diogelu Data
Mwy ynghylch Cyngor a Democratiaeth