Canolfan Awyr Agored Pentywyn

Mae sicrhau bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir yn bwysig iawn o ran darparu ein gwasanaethau a chadw hyder y cyhoedd.

Ystyr data personol yw unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson y mae modd adnabod pwy ydyw yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy ddefnyddio'r wybodaeth. Defnyddir y termau 'gwybodaeth' a 'data personol' yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn drwyddo draw ac maent yn gyfystyr.

Er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir, rydym yn ceisio cydymffurfio'n llwyr â gofynion deddfwriaeth Diogelu Data.

Felly, mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn wedi'i lunio i esbonio mor glir â phosibl beth rydym yn ei wneud â'ch data personol.

1. Y dibenion o ran defnyddio eich data personol

Bydd y wybodaeth a gesglir gan y Ganolfan amdanoch chi a'ch plentyn yn cael ei defnyddio at ddibenion:

  • Cymryd archebion grŵp a threfnu llety yn y Ganolfan
  • Ymarfer ein dyletswydd gofal i ofalu am blant a phobl ifanc sy'n mynychu'r Ganolfan
  • Tynnu ffotograffau a'u defnyddio nhw ar gyfer deunydd hyrwyddo, gwefannau a'r cyfryngau cymdeithasol

Y sail gyfreithiol rydym yn dibynnu arni i brosesu data personol ar gyfer y dibenion hyn yw ein bod ni'n ymarfer ein hawdurdod swyddogol i gynnal cyfleusterau hamdden o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 a Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae hyn yn golygu nad ydym yn dibynnu ar eich caniatâd i ddefnyddio data personol.

2. Pa fath o wybodaeth ydym yn ei defnyddio?

Rydym yn gofyn ichi lenwi ffurflen pan fydd eich plentyn yn mynychu'r Ganolfan ac rydym yn casglu'r mathau canlynol o ddata personol er mwyn darparu'r gwasanaeth hwn:

  • Eich Enw
  • Enw eich Plentyn
  • Eich Cyfeiriad Cartref
  • Dyddiad Geni eich Plentyn
  • Rhyw
  • Ysgol eich Plentyn
  • Rhif Ffôn Cyswllt
  • Eich Cyfeiriad E-bost
  • Manylion eich Meddyg

Rydym yn tynnu ffotograffau a recordiadau fideo o blant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n cael eu cyhoeddi yn bennaf ar y cyfryngau cymdeithasol.  Mae'n bosibl y bydd y rhain hefyd yn cael eu defnyddio mewn deunyddiau print a digidol gan gynnwys cyhoeddiadau wedi'u hargraffu, gwefannau, deunydd e-farchnata, posteri, baneri a deunydd hysbysebu.

Yn ogystal, rydym yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth berthnasol am iechyd eich plant, megis anghenion deietegol, alergeddau, cyflyrau iechyd a meddyginiaethau maent yn eu cymryd er mwyn i ni sicrhau eu bod yn ddiogel yn ystod eu hamser yn y Ganolfan.

Y sail gyfreithiol dros brosesu data personol am iechyd plant yw yn syml, er eu budd nhw, er mwyn gofalu amdanynt.

3. A ydym yn defnyddio gwybodaeth a gafwyd o ffynonellau eraill?

I ddarparu'r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu gwybodaeth yn uniongyrchol wrthych chi mewn ffurflen ond hefyd mae'n bosibl y byddwn ni'n derbyn gwybodaeth o ysgol eich plentyn.

Fel arfer, ceir y mathau canlynol o ddata personol:

  • Enw
  • Dyddiad Geni
  • Rhyw
  • Cynlluniau gofal mewn perthynas ag anghenion iechyd penodol y mae'r ysgol wedi bod yn rhan o'u creu neu eu gweithredu.

4. Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor

Rydym yn defnyddio Microsoft Office 365 i brosesu ein dogfennau electronig o dan delerau cytundeb caeth, sy'n diogelu'ch gwybodaeth. Mae'r data personol hwn yn cael ei letya ar weinyddion y tu allan i'r DU, ond dim ond yng ngwledydd yr UE o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol.

Nid ydym yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth arall amdanoch chi y tu allan i'r DU. Ni fydd y data personol a gesglir yn cael ei drosglwyddo y tu allan i'r Deyrnas Unedig, ac eithrio ffotograffau a fideos sy'n cael eu llwytho ar y cyfryngau cymdeithasol a gwefannau, y mae modd cael mynediad iddynt ledled y byd.

5. Pwy all weld eich gwybodaeth?

Fel arfer ni chaiff y data personol rydych yn ei ddarparu i ni ei rannu ag unrhyw wasanaeth arall o fewn Cyngor Sir Caerfyrddin, nac ychwaith ag unrhyw drydydd parti y tu allan i'r sefydliad. Fodd bynnag, mae'r Ganolfan yn rhannu gwybodaeth â'r canlynol:

  • Mewn achos o ddamwain neu ddigwyddiad, mae'n ofynnol i ni roi gwybod am y rhain i Uned Iechyd Galwedigaethol a Diogelwch y Cyngor.
  • Mae'n bosibl y bydd ffotograffau a delweddau'n cael eu rhannu â chysylltiadau cyfryngau lleol a rhanbarthol.

Mae rhai sefyllfaoedd penodol lle mae'n bosibl y bydd yn rhaid i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch, er enghraifft:

  • Pan fo'r gyfraith yn mynnu bod y Cyngor yn rhoi'r wybodaeth
  • Pan fo angen datgelu'r wybodaeth i atal neu ddatrys trosedd
  • Pan fo datgelu er budd pennaf y person dan sylw

6. Am ba hyd y byddwn yn cadw'ch gwybodaeth

Rydym yn cadw'r data personol rydym yn ei gasglu cyhyd ag y mae eich plentyn yn mynychu'r Ganolfan.  Yna, rydym yn gwaredu'r wybodaeth yn ddiogel.

Fodd bynnag, mae'n bosibl y bydd delweddau a gymerir yn y Ganolfan yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol fel archif.

Caiff cofnodion o ddamweiniau mewn perthynas â phlant eu cadw gan ein Huned Iechyd Galwedigaethol a Diogelwch am 25 o flynyddoedd.

 

7. Eich hawliau o ran Diogelu Data

Mae gennych hawl i:

  • Weld y data personol y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ei brosesu amdanoch
  • Mynnu bod unrhyw wybodaeth anghywir neu anghyflawn yn cael ei chywiro
  • Tynnu eich caniatâd i brosesu'r data yn ôl, lle mai dyna'r unig sail ar gyfer prosesu'r data
  • Cyflwyno cŵyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y corff annibynnol yn y Deyrnas Unedig sy'n diogelu hawliau o ran gwybodaeth

Mewn rhai amgylchiadau, gall fod gennych hawl i:

  • Wrthwynebu bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu
  • Dileu eich data personol
  • Rhoi cyfyngiadau ar brosesu eich gwybodaeth bersonol
  • Hygludedd data

8. Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn a'ch hawliau, cysylltwch â'r:

Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Caerfyrddin
Neuadd y Sir
Caerfyrddin
SA31 1JP

E-bost: dataprotection@sirgar.gov.uk

Mae'r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, ynghyd ag arweiniad pellach ynghylch deddfwriaeth Diogelu Data, ar gael ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Cyngor a Democratiaeth