Canolfan Tywi
Mae sicrhau bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir yn bwysig iawn o ran darparu ein gwasanaethau a chadw hyder y cyhoedd.
Ystyr data personol yw unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson y mae modd adnabod pwy ydyw yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy ddefnyddio'r wybodaeth. Defnyddir y termau 'gwybodaeth' a 'data personol' yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn drwyddo draw ac maent yn gyfystyr.
Er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir, rydym yn ceisio cydymffurfio'n llwyr â gofynion deddfwriaeth Diogelu Data.
Felly, mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn wedi'i lunio i esbonio mor glir â phosibl beth rydym yn ei wneud â'ch data personol.
1. Y dibenion o ran defnyddio eich data personol
Y 'Specialist Applied-skills Programme' (SAP)
Bydd y wybodaeth rydym yn ei chasglu amdanoch yn cael ei defnyddio ar gyfer:
- Gwirio cymhwysedd ar gyfer cyrsiau sy'n cael eu hariannu gan Fwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu
- Cofrestru unigolion ar y cwrs NVQ Lefel 3 mewn Treftadaeth
- Cadw mewn cysylltiad â myfyrwyr a chyflogwyr yn ystod yr hyfforddiant ac ar ôl iddo gael ei gwblhau
Contractwyr allanol
Bydd y wybodaeth rydym yn ei chasglu amdanoch yn cael ei defnyddio i wneud taliadau ac at ddibenion archwilio.
Rhestr bostio/cyrsiau byr
Bydd y wybodaeth rydym yn ei chasglu amdanoch yn cael ei defnyddio i'ch cofrestru ar gyrsiau hyfforddiant byr a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi am hyfforddiant a digwyddiadau sy'n ymwneud â Threftadaeth Adeiledig.
2. Pa fath o wybodaeth ydym yn ei defnyddio?
Rydym yn casglu'r mathau canlynol o ddata personol amdanoch:
- Enw
- Manylion cyswllt
- Dyddiad geni
Os ydych yn gontractwr allanol, rydym hefyd yn casglu ac yn defnyddio manylion banc/talu.
Os ydych yn fyfyriwr SAP, mae angen inni brosesu rhagor o ddata personol. Mae hyn yn cynnwys:
- Eich Rhif Yswiriant Gwladol
- Rhif unigryw'r dysgwr
- Rhif y Garden Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu
- Manylion cyflogaeth ac addysg
- Eich hil neu darddiad ethnig, eich rhyw ac os oes gennych anabledd – defnyddir y wybodaeth hon ar gyfer monitro cyfle cyfartal yn unig
Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich gwybodaeth yw arfer ein hawdurdod swyddogol, neu gyflawni tasg benodol er budd y cyhoedd a nodir yn y gyfraith, sef Deddf Llywodraeth Leol 1972 a Deddf Llywodraeth Leol 2000.
Rydym yn prosesu categorïau data personol arbennig sydd eu hangen ar gyfer monitro cyfle cyfartal ar sail budd sylweddol y cyhoedd.
3. A ydym yn defnyddio gwybodaeth a gafwyd o ffynonellau eraill?
I ddarparu'r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu data personol yn uniongyrchol wrthych chi yn unig ac nid ydym yn cael gwybodaeth amdanoch o unrhyw ffynhonnell arall.
4. Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor
Rydym yn defnyddio Microsoft Office 365 i brosesu ein dogfennau electronig o dan delerau cytundeb caeth, sy'n diogelu'ch gwybodaeth. Mae'r data personol hwn yn cael ei letya ar weinyddion y tu allan i'r DU, ond dim ond yng ngwledydd yr UE o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol.
Nid ydym yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth arall amdanoch chi y tu allan i'r DU.
5. Pwy all weld eich gwybodaeth?
Rydym ond yn rhannu data personol pan fo angen gwneud hynny ac rydym yn darparu'r isafswm sy'n ofynnol ym mhob achos.
Myfyrwyr SAP:
Rydym yn rhannu'ch gwybodaeth â'r canlynol:
- Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu – mae hyn yn cynnwys monitro gwybodaeth ynghylch cyfle cyfartal.
- Yr Asesydd sydd wedi cael ei ddyrannu ar eich cyfer ar y Cwrs NVQ Lefel 3 mewn Treftadaeth
Contractwyr allanol
Rydym yn rhannu eich gwybodaeth â thîm Cyllid y Cyngor i wneud taliadau yn ogystal â Swyddogion Archwilio a Darparwyr Grant.
Mae rhai sefyllfaoedd penodol eraill lle mae'n bosibl y bydd yn rhaid i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch, er enghraifft:
- Pan fo'r gyfraith yn mynnu bod y Cyngor yn rhoi'r wybodaeth
- Pan fo angen datgelu'r wybodaeth i atal neu ddatrys trosedd
- Pan fo datgelu er budd pennaf y person dan sylw
6. Am ba hyd y byddwn yn cadw'ch gwybodaeth
Byddwn yn cadw eich gwybodaeth am chwe blynedd ar ôl i'ch cwrs hyfforddiant gael ei gwblhau. Byddwn yn cadw gwybodaeth ariannol yn ymwneud â chontractwyr allanol am chwe blynedd o ddiwedd y flwyddyn ariannol.
7. Eich hawliau o ran Diogelu Data
Mae gennych hawl i:
- Weld y data personol y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ei brosesu amdanoch
- Mynnu bod unrhyw wybodaeth anghywir neu anghyflawn yn cael ei chywiro
- Tynnu eich caniatâd i brosesu'r data yn ôl, lle mai dyna'r unig sail ar gyfer prosesu'r data
- Cyflwyno cŵyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y corff annibynnol yn y Deyrnas Unedig sy'n diogelu hawliau o ran gwybodaeth
Mewn rhai amgylchiadau, gall fod gennych hawl i:
- Wrthwynebu bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu
- Dileu eich data personol
- Rhoi cyfyngiadau ar brosesu eich gwybodaeth bersonol
- Hygludedd data
8. Manylion cyswllt
I gael rhagor o wybodaeth ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn a'ch hawliau, cysylltwch â'r:
Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Caerfyrddin
Neuadd y Sir
Caerfyrddin
SA31 1JP
E-bost: dataprotection@sirgar.gov.uk
Mae'r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, ynghyd ag arweiniad pellach ynghylch deddfwriaeth Diogelu Data, ar gael ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
Cyngor a Democratiaeth
Y Cyngor
Cynghorwyr, ACau ac ASau
- Eich Cynghorydd Sir
- Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd a'r Cynllun Deiseb
- Lwfansau a buddiannau cynghorwyr
- Cynghorwyr Tref a Chymuned
- Aelodau Senedd Cymru
- Aelodau Seneddol
- Sut mae bod yn Gynghorydd
Adrannau'r Cyngor
Pwyllgorau a Chyfarfodydd
- Agendâu a chofnodion
- Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
- Dyddiadur y Cyngor
- Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
- Y Cabinet
- Penderfyniadau swyddogion
- Cynlluniau gwaith i'r dyfodol
- Pwyllgor Cynllunio
- Craffu
- Pwyllgor Safonau
- Cyngor Ymgynghorol Sefydlog dros Addysg Grefyddol (CYSAG)
Strategaethau a chynlluniau
Cyllideb y Cyngor
- Crynhoad Cyllideb
- Datganiad Cyfrifon
- Cronfa Bensiwn Dyfed
- Ein Rhanbarth ar Waith (ERW)
- Bargen Ddinesig Bae Abertawe
- Ffyrdd syml i arbed arian i'r Cyngor
Ymgynghori a Pherfformiad
- Ymgynghoriadau actif
- Rheoli Perfformiad
- Archwiliadau, Arolygiadau ac Adroddiadau
- Y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
- Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2022-23
Hysbysiadau cyhoeddus
Canllawiau Brexit
Iaith Gymraeg
Carbon Sero-net
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Cyfamod Lluoedd Arfog
Etholiadau a Phleidleisio
- Etholiadau Lleol 2022
- Bod yn gymwys i bleidleisio
- Sut mae pleidleisio?
- Newidiadau i bleidleisio drwy'r post a phleidleisio drwy ddirprwy
- Cofrestru i bleidleisio
- Diweddaru eich manylion ar y Gofrestr Etholiadol
- Diweddariad blynyddol o'r gofrestr pleidleiswyr
- Sut i optio allan o'r gofrestr agored
- Gweld y Gofrestr Etholiadol
- Is-etholiadau
- Fy Un Agosaf - Gwybodaeth etholiadol
- Etholiadau Senedd Cymru
- Etholiadau'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu 2021
- Etholiad Cyffredinol Seneddol 2019
- Help i Bleidleiswyr Anabl
- Adolygiad o Ffiniau Seneddol
- Deddf Etholiadau 2022 ac ID Pleidleisiwr
- Adolygiad Cymunedol 2023
- Adolygiad o Ddosbarthau Pleidleisio a Mannau Pleidleisio
Diogelu Data
Mwy ynghylch Cyngor a Democratiaeth