Datblygu Economaidd

Mae sicrhau bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir yn bwysig iawn o ran darparu ein gwasanaethau a chadw hyder y cyhoedd.

Ystyr data personol yw unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson y mae modd adnabod pwy ydyw yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy ddefnyddio'r wybodaeth. Defnyddir y termau 'gwybodaeth' a 'data personol' yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn drwyddo draw ac maent yn gyfystyr.

Er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir, rydym yn ceisio cydymffurfio'n llwyr â gofynion deddfwriaeth Diogelu Data.

Felly, mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn wedi'i lunio i esbonio mor glir â phosibl beth rydym yn ei wneud â'ch data personol.

1. Y dibenion o ran defnyddio eich data personol

Bydd y wybodaeth rydym yn ei chasglu amdanoch yn cael ei defnyddio at ddibenion:

  • Asesu a dyfarnu grantiau a benthyciadau
  • Gweinyddu taliadau a monitro ar ôl i ni roi taliadau
  • Eich cynorthwyo gyda cheisiadau am grantiau a/neu fenthyciadau a ddarperir gan sefydliadau eraill o'r ffynonellau a nodir ym mhwynt 6.

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich gwybodaeth yw ymarfer ein hawdurdod i ddarparu'r gwasanaeth hwn o dan Adran 111 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

Os nad ydych yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnom pan fyddwn yn gofyn amdani, gallai hyn olygu nad ydym yn gallu delio â'ch ymholiad neu'ch cais a gallai effeithio ar ein gallu i wneud penderfyniad ynghylch dyfarniad grant neu fenthyciad.

2. Pa fath o wybodaeth ydym yn ei defnyddio?

Rydym yn casglu'r mathau canlynol o ddata personol amdanoch er mwyn darparu'r gwasanaeth hwn:

  • Eich enw a'ch manylion cyswllt
  • Dyddiad Geni
  • Rhif Cyfeirnod Unigryw
  • Manylion banc/taliadau, er mwyn ad-dalu hawliadau ariannol a gyflwynir
  • Cyfrifon, cynlluniau busnes a llif arian
  • Manylion y Gofrestrfa Tir/gweithredoedd eiddo

3. A ydym yn defnyddio gwybodaeth a gafwyd o ffynonellau eraill?

I ddarparu'r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu data personol yn uniongyrchol wrthych chi, a dim ond o'r ffynonellau a nodir isod yr ydym yn cael gwybodaeth amdanoch:

  • Cwmni gwirio credyd, i gael gwybod am ddichonoldeb ariannol
  • Cwmnïau prisio allanol i ddilysu ac arolygu tir/adeiladau/gwaith adeiladu

4. Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor

Rydym yn defnyddio Microsoft Office 365 i brosesu ein dogfennau electronig o dan delerau cytundeb caeth, sy'n diogelu'ch gwybodaeth. Mae'r data personol hwn yn cael ei letya ar weinyddion y tu allan i'r DU, ond dim ond yng ngwledydd yr UE o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol.

Nid ydym yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth arall amdanoch chi y tu allan i'r DU.

5. Pwy all weld eich gwybodaeth?

Rydym yn rhannu'ch gwybodaeth â'r canlynol:

  • Cyllidwyr grant eraill lle bo'n berthnasol megis Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, Llywodraeth Cymru,  Llywodraeth y DU
  • Gwasanaethau ariannol y Cyngor er mwyn gwneud taliadau/cynnal gwiriadau diwydrwydd dyladwy
  • Y Comisiwn Ewropeaidd (mewn perthynas â chynlluniau a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd)
  • Awdurdodau Lleol Eraill gan gynnwys Cynghorau Cymunedol
  • Tasgluoedd Lleol a Fforymau Trefi
  • Grŵp Cefn Gwlad, Grŵp Gweithredu Lleol Sir Gaerfyrddin a Grwpiau Gweithredu Lleol eraill (Rhaglen LEADER)
  • Adrannau amrywiol y Cyngor y mae angen i ni ymgynghori â hwy lle bo'n berthnasol gan gynnwys y Gwasanaethau Cyfreithiol, Dylunio Eiddo, Eiddo Corfforaethol ac ati.
  • Cofrestrfa Tir EM er mwyn rhoi gwybodaeth sy'n ymwneud â thir ac er mwyn cofrestru pridiannau cyfreithiol neu gyfyngiadau cyfreithiol lle bo hyn yn angenrheidiol
  • Cyllid a Thollau

 Mae rhai sefyllfaoedd penodol eraill lle mae'n bosibl y bydd yn rhaid i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch, er enghraifft:

  • Pan fo'r gyfraith yn mynnu bod y Cyngor yn rhoi'r wybodaeth
  • Pan fo angen datgelu'r wybodaeth i atal neu ddatrys trosedd
  • Pan fo datgelu er budd pennaf y person dan sylw

6. Am ba hyd y byddwn yn cadw'ch gwybodaeth

Yn unol ag Atodlenni'r Cyngor ar gyfer Cadw Gwybodaeth a chyfarwyddiadau gan Lywodraeth Cymru, rydym yn cadw'ch gwybodaeth ar gyfer:

  • Rhaglen Grantiau Cynllun Datblygu Gwledig 2007-13 – y dyddiad cynharaf y gellir gwaredu'r wybodaeth yw Rhagfyr 2024
  • Ffeiliau prosiectau a gyllidir gan y Cynllun Datblygu Gwledig ar gyfer rhaglen 2014-2020 (gan gynnwys LEADER) - y dyddiad cynharaf y gellir gwaredu'r wybodaeth yw Rhagfyr 2030
  • Rhaglenni Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd 2014-20 - 3 blynedd ar ôl cau'r prosiect
  • Grantiau Llywodraeth Cymru - 6 blynedd ar ôl cau'r prosiect
  • Grantiau Covid - 6 blynedd ar ôl y taliad
  • Rhaglenni Grantiau Mewnol Cyngor Sir Caerfyrddin (7 mlynedd ar ôl diwedd y prosiect)
  • Cronfa Benthyciadau Canol Tref (Rhydaman/Llanelli) - y dyddiad cynharaf y gellir gwaredu'r wybodaeth hon yw 2040
  • Prosiect Bucanier – y dyddiad cynharaf y gellir gwaredu'r wybodaeth yw Rhagfyr 2030.

7. Eich hawliau o ran Diogelu Data

Mae gennych hawl i:

  • Weld y data personol y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ei brosesu amdanoch
  • Mynnu bod unrhyw wybodaeth anghywir neu anghyflawn yn cael ei chywiro
  • Tynnu eich caniatâd i brosesu'r data yn ôl, lle mai dyna'r unig sail ar gyfer prosesu'r data
  • Cyflwyno cŵyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y corff annibynnol yn y Deyrnas Unedig sy'n diogelu hawliau o ran gwybodaeth

Mewn rhai amgylchiadau, gall fod gennych hawl i:

  • Wrthwynebu bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu
  • Dileu eich data personol
  • Rhoi cyfyngiadau ar brosesu eich gwybodaeth bersonol
  • Hygludedd data

8. Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn a'ch hawliau, cysylltwch â'r:

Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Caerfyrddin
Neuadd y Sir
Caerfyrddin
SA31 1JP

E-bost: dataprotection@sirgar.gov.uk

Mae'r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, ynghyd ag arweiniad pellach ynghylch deddfwriaeth Diogelu Data, ar gael ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Cyngor a Democratiaeth