Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Mae sicrhau bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir yn bwysig iawn o ran darparu ein gwasanaethau a chadw hyder y cyhoedd.

Ystyr data personol yw unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson y mae modd adnabod pwy ydyw yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy ddefnyddio'r wybodaeth. Defnyddir y termau 'gwybodaeth' a 'data personol' yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn drwyddo draw ac maent yn gyfystyr.

Er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir, rydym yn ceisio cydymffurfio'n llwyr â gofynion deddfwriaeth Diogelu Data.

Felly, mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn wedi'i lunio i esbonio mor glir â phosibl beth rydym yn ei wneud â'ch data personol.

1. Y dibenion o ran defnyddio eich data personol

Bydd y wybodaeth rydym yn ei chasglu amdanoch yn cael ei defnyddio at ddibenion:

  • Cynllunio, paratoi a darparu gwasanaethau er mwyn eich helpu chi i barhau'n annibynnol ac i sicrhau dewis a rheolaeth dros eich bywyd
  • Adolygu'r gofal a roddir i chi er mwyn sicrhau ei fod o'r safon uchaf posibl
  • Ymchwilio i gwynion, hawliadau cyfreithiol neu ddigwyddiadau

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich gwybodaeth yw er mwyn darparu swyddogaeth statudol o dan ddeddfwriaeth. Yn benodol yn unol â:

  • Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014
  • Deddf Iechyd Meddwl 1983
  • Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021
  • Deddf Galluedd Meddyliol 2005
  • Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016
  • Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Os nad ydych yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnom pan fyddwn yn gofyn amdani, gallai hyn olygu bod ein gwasanaethau'n cael eu cynllunio a'u darparu'n llai effeithiol er mwyn diwallu eich anghenion.

2. Pa fath o wybodaeth ydym yn ei defnyddio?

Mae'n bosibl y byddwn ni'n casglu'r mathau canlynol o ddata personol amdanoch er mwyn darparu'r gwasanaeth hwn, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Dyddiad Geni
  • Rhyw
  • Rhif Cyfeirnod Unigryw
  • Rhif Ffôn
  • Cyfeiriad E-bost
  • Manylion Banc/Talu
  • Eich Teulu
  • Eich Amgylchiadau Cymdeithasol
  • Eich Amgylchiadau Ariannol
  • Manylion Cyflogaeth ac Addysg
  • Eich Anghenion Tai
  • Delweddau/ffotograffau
  • Gwybodaeth am eich Iechyd
  • Eich Hil neu Gefndir Ethnig
  • Cred Grefyddol neu Athronyddol
  • Gwybodaeth am eich bywyd rhywiol neu'ch cyfeiriadedd rhywiol
  • Collfarnau Troseddol a Throseddau

3. A ydym yn defnyddio gwybodaeth a gafwyd o ffynonellau eraill?

I ddarparu'r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu gwybodaeth yn uniongyrchol wrthych ond hefyd yn derbyn gwybodaeth o'r ffynonellau canlynol:

  • Byrddau Iechyd Lleol
  • Adrannau Eraill Cyngor Sir Caerfyrddin (e.e. Gwasanaethau Tai, y Dreth Gyngor)
  • Awdurdodau Lleol Eraill
  • Heddluoedd Rhanbarthol (e.e. Heddlu Dyfed-Powys, Heddlu De Cymru)
  • Y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol
  • Meddygfeydd
  • Yr Adran Gwaith a Phensiynau
  • Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

Gellir cael y mathau canlynol o ddata personol, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Dyddiad Geni
  • Rhyw
  • Rhif Cyfeirnod Unigryw
  • Rhif Ffôn
  • Cyfeiriad E-bost
  • Eich Teulu
  • Eich Amgylchiadau Cymdeithasol
  • Eich Amgylchiadau Ariannol
  • Manylion Cyflogaeth ac Addysg
  • Eich Anghenion Tai
  • Delweddau/Ffotograffau
  • Gwybodaeth am eich Iechyd
  • Eich Hil neu Gefndir Ethnig
  • Cred Grefyddol neu Athronyddol
  • Gwybodaeth am eich bywyd rhywiol neu'ch cyfeiriadedd rhywiol
  • Collfarnau Troseddol a Throseddau.

4. Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor

Rydym yn defnyddio Microsoft Office 365 i brosesu ein dogfennau electronig o dan delerau cytundeb caeth, sy'n diogelu'ch gwybodaeth. Mae'r data personol hwn yn cael ei letya ar weinyddion y tu allan i'r DU, ond dim ond yng ngwledydd yr UE o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol.

Nid ydym yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth arall amdanoch chi y tu allan i'r DU.

5. Pwy all weld eich gwybodaeth?

Mae'n bosibl y byddwn yn rhannu'ch gwybodaeth â'r canlynol, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:

  • Byrddau Iechyd Lleol
  • Adrannau Eraill Cyngor Sir Caerfyrddin (e.e. Gwasanaethau Tai, y Dreth Gyngor)
  • Awdurdodau Lleol Eraill
  • Heddluoedd Rhanbarthol (e.e. Heddlu Dyfed-Powys, Heddlu De Cymru)
  • Y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol
  • Ysgolion ac Awdurdodau Addysg Lleol Eraill
  • Meddygfeydd
  • Yr Adran Gwaith a Phensiynau

Mae rhai sefyllfaoedd penodol lle mae'n bosibl y bydd yn rhaid i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch, er enghraifft:

  • Pan fo'r gyfraith yn mynnu bod y Cyngor yn rhoi'r wybodaeth
  • Pan fo angen datgelu'r wybodaeth i atal neu ddatrys trosedd
  • Pan fo datgelu er budd pennaf y person dan sylw

6. Am ba hyd y byddwn yn cadw'ch gwybodaeth

Bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw yn unol â Chanllawiau'r Cyngor ar gyfer Cadw Gwybodaeth.

  • Iechyd Meddwl:  10 mlynedd ar ôl y cyswllt olaf neu farwolaeth
  • Darpariaeth Gwasanaeth Dydd:  6 mlynedd ar ôl y cyswllt olaf neu farwolaeth
  • Anabledd Dysgu:  6 mlynedd ar ôl y cyswllt olaf neu farwolaeth
  • Anableddau Corfforol:  6 mlynedd ar ôl y cyswllt olaf neu farwolaeth
  • Anabledd Synhwyraidd:  6 mlynedd ar ôl y cyswllt olaf neu farwolaeth
  • Adsefydlu a Rhyddhau:  6 mlynedd ar ôl y cyswllt olaf neu farwolaeth
  • Therapi Galwedigaethol:  6 mlynedd ar ôl y cyswllt olaf neu farwolaeth
  • Gofal Cartref:  6 mlynedd ar ôl y cyswllt olaf neu farwolaeth
  • Camddefnyddio Sylweddau:  10 mlynedd ar ôl y cyswllt olaf neu farwolaeth
  • Darpariaeth Gwasanaethau:  7 mlynedd
  • Cartrefi Preswyl:  Cofrestrau Parhaol
  • Cartrefi Preswyl:  Dyddiaduron 25 mlynedd
  • Cartrefi Preswyl:  Nodiadau Trosglwyddo 25 mlynedd
  • Amserlenni:  6 mlynedd
  • Trwyddedau Bathodyn Glas:  2 mlynedd ar ôl y cyswllt olaf neu farwolaeth

7. Eich hawliau o ran Diogelu Data

Mae gennych hawl i:

  • Weld y data personol y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ei brosesu amdanoch
  • Mynnu bod unrhyw wybodaeth anghywir neu anghyflawn yn cael ei chywiro
  • Tynnu eich caniatâd i brosesu'r data yn ôl, lle mai dyna'r unig sail ar gyfer prosesu'r data
  • Cyflwyno cŵyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y corff annibynnol yn y Deyrnas Unedig sy'n diogelu hawliau o ran gwybodaeth

Mewn rhai amgylchiadau, gall fod gennych hawl i:

  • Wrthwynebu bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu
  • Dileu eich data personol
  • Rhoi cyfyngiadau ar brosesu eich gwybodaeth bersonol
  • Hygludedd data

8. Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn a'ch hawliau, cysylltwch â'r:

Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Caerfyrddin
Neuadd y Sir
Caerfyrddin
SA31 1JP

E-bost: dataprotection@sirgar.gov.uk

Mae'r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, ynghyd ag arweiniad pellach ynghylch deddfwriaeth Diogelu Data, ar gael ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Cyngor a Democratiaeth