Gwasanaeth Cynhwysiant

Mae sicrhau bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir yn bwysig iawn o ran darparu ein gwasanaethau a chadw hyder y cyhoedd.

Data personol yw unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson, y mae modd adnabod pwy ydyw yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy ddefnyddio'r wybodaeth. Defnyddir y termau 'gwybodaeth' a 'data personol' drwy'r hysbysiad preifatrwydd hwn a'r un yw eu hystyr.

Er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir, rydym yn ceisio cydymffurfio'n llwyr â gofynion y Ddeddfwriaeth Diogelu Data.

Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn felly wedi cael ei greu er mwyn esbonio mor glir â phosibl beth rydym yn ei wneud â data personol.

Trwy gydol yr hysbysiad preifatrwydd hwn, rydym yn defnyddio'r acronym CYP i gyfeirio at blant a phobl ifanc. At ddibenion y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), mae plentyn wedi'i ddiffinio fel rhywun o dan 16 oed ac mae person ifanc wedi'i ddiffinio fel rhywun rhwng 16 a 25 oed. Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn berthnasol i blant a phobl ifanc sy'n cael eu hasesu ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol.

1. Y dibenion o ran defnyddio eich data personol

Bydd y wybodaeth yr ydym yn ei chasglu yn cael ei defnyddio i asesu a chefnogi Anghenion Dysgu Ychwanegol y plentyn neu'r person ifanc (CYP). Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r wybodaeth hon yw cydymffurfio â'n rhwymedigaethau statudol i asesu Anghenion Dysgu Ychwanegol plant a phobl ifanc o dan y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru). Os ydych chi'n rhiant neu'n warchodwr y plentyn neu'r person ifanc, mae'r wybodaeth hon yn cael ei chasglu a'i phrosesu er mwyn cefnogi addysg a datblygiad eich plentyn.

2. Pa fath o wybodaeth ydym yn ei defnyddio?

Rydym yn casglu'r mathau canlynol o ddata personol er mwyn darparu'r gwasanaeth hwn:

  • Enw'r CYP/rhieni/gwarcheidwaid 
  • Cyfeiriad y CYP/rhieni/gwarcheidwaid
  • Rhif ffôn y person ifanc/rhieni/gwarchodwyr
  • YP/rhieni/gwarcheidwaid cyfeiriad e-bost
  • Dyddiad geni'r CYP
  • Rhywedd y CYP
  • Cyfansoddiad teulu'r CYP
  • Gwybodaeth o ran cyfrifoldeb rhieni
  • Amgylchiadau cymdeithasol megis a yw plentyn yn derbyn gofal
  • Delweddau/Ffotograffau
  • Gwybodaeth am iechyd, gallu a sgiliau'r CYP
  • Cred Grefyddol neu Athronyddol
  • Iaith y cartref

3. A ydym yn defnyddio gwybodaeth a gafwyd o ffynonellau eraill?

I ddarparu'r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu gwybodaeth yn uniongyrchol wrth y CYP/rhieni ond hefyd y wybodaeth ganlynol o ysgol/sefydliad addysg bellach y mae'r CYP yn ei mynychu:

  • Enw'r CYP/rhieni/gwarcheidwaid
  • Cyfeiriad y CYP/rhieni/gwarcheidwaid
  • Rhif ffôn y person ifanc/rhieni/gwarchodwyr
  • YP/rhieni/gwarcheidwaid cyfeiriad e-bost
  • Dyddiad geni'r CYP
  • A yw plentyn yn derbyn gofal
  • Presenoldeb yn yr ysgol a chyrhaeddiad addysgol
  • Gwybodaeth am iechyd, gallu a sgiliau'r CYP
  • Iaith y cartref a'r ysgol
  • Gwybodaeth o ran cyfrifoldeb rhieni

Mae'n bosibl y byddwn yn cael gwybodaeth feddygol gan fyrddau iechyd lleol y GIG fel rhan o'r broses asesu.

Mae'n bosibl y byddwn yn gofyn am gyngor gan wasanaeth Seicoleg Addysgol y Cyngor, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol addysgol preifat a gomisiynir gan rieni, i gefnogi'r broses o wneud penderfyniadau.

Yn ogystal, mae'n bosibl y byddwn yn gofyn i wasanaethau gofal cymdeithasol i blant am gyngor, gan gynnwys eu hymwneud â phlentyn.

Ceir gwybodaeth gyfyngedig am droseddau/euogfarnau hefyd gan dîm Troseddau Ieuenctid y Cyngor, lle mae hyn yn berthnasol ac mae angen rhoi gwybod i'r Awdurdod Lleol os oes dyletswydd arno i benderfynu a oes gan y plentyn neu'r person ifanc ADY neu gynnal eu Cynllun Datblygu Unigol.

4. Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor

Rydym yn defnyddio Microsoft Office 365 i brosesu ein dogfennau electronig o dan delerau cytundeb caeth, sy'n diogelu gwybodaeth. Caiff y data personol hwn ei gadw ar weinyddion y tu allan i'r DU, ond dim ond yng ngwledydd yr UE lle mae'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data yn berthnasol.

Nid ydym yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth arall am y CYP/rhieni/gwarcheidwaid  y tu allan i'r DU.

5. Pwy all weld eich gwybodaeth?

I gael data personol gan y ffynonellau uchod, rydym yn darparu enw, cyfeiriad a dyddiad geni'r CYP iddyn nhw.

Ar ôl i ni gael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnom i gefnogi ein proses o wneud penderfyniad, bydd yn cael ei rhannu ô phanel sy'n cynnwys Rheolwyr Cynhwysiant, Seicolegwyr Addysg a Phlant, Athrawon Ymgynghori Anghenion Dysgu Ychwanegol, Swyddogion Cyswllt â Theuluoedd, penaethiaid ysgolion a Chydlynwyr ADY o ysgolion nad yw'r CYP yn eu mynychu.

Os yw Cynllun Datblygu Unigol (CDU) yn cael ei baratoi, rhennir copi o'r CDU gyda'r CYP, yr ysgol/sefydliad addysg bellach, a rhieni'r plentyn.

Yn ogystal, mae rhai sefyllfaoedd penodol lle mae'n bosibl y bydd yn rhaid i ni ddatgelu gwybodaeth am y CYP neu'r rhieni/gwarcheidwaid, er enghraifft:

  • Pan fo'r gyfraith yn mynnu bod y Cyngor yn rhoi'r wybodaeth
  • Pan fo angen datgelu'r wybodaeth i atal neu ddatrys trosedd
  • Pan fo datgelu er budd pennaf y person dan sylw

6. Am ba hyd y byddwn yn cadw'ch gwybodaeth

Byddwn ni'n cadw data personol ynghylch asesiadau a phenderfyniadau o ran Anghenion Dysgu Ychwanegol am 21 mlynedd ar ôl y tro olaf i ni ymwneud â'r CYP. Mae hyn yn unol â Chanllawiau'r Cyngor ar gyfer Cadw Gwybodaeth.

7. Eich hawliau o ran Diogelu Data

Mae gennych hawl i:

  • Weld y data personol y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ei brosesu amdanoch
  • Mynnu bod unrhyw wybodaeth anghywir neu anghyflawn yn cael ei chywiro
  • Tynnu eich caniatâd i brosesu'r data yn ôl, lle mai dyna'r unig sail ar gyfer prosesu'r data
  • Cyflwyno cŵyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y corff annibynnol yn y Deyrnas Unedig sy'n diogelu hawliau o ran gwybodaeth

Mewn rhai amgylchiadau, gall fod gennych hawl i:

  • Wrthwynebu bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu
  • Dileu eich data personol
  • Rhoi cyfyngiadau ar brosesu eich gwybodaeth bersonol
  • Hygludedd data

8. Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn a'ch hawliau, cysylltwch â'r:

Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Caerfyrddin
Neuadd y Sir
Caerfyrddin
SA31 1JP

E-bost: dataprotection@sirgar.gov.uk

Mae'r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, ynghyd ag arweiniad pellach ynghylch deddfwriaeth Diogelu Data, ar gael ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Cyngor a Democratiaeth