Gwasanaeth Iechyd Anifeiliaid

Mae sicrhau bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir yn bwysig iawn o ran darparu ein gwasanaethau a chadw hyder y cyhoedd.

Ystyr data personol yw unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson y mae modd adnabod pwy ydyw yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy ddefnyddio'r wybodaeth. Defnyddir y termau 'gwybodaeth' a 'data personol' yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn drwyddo draw ac maent yn gyfystyr.

Er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir, rydym yn ceisio cydymffurfio'n llwyr â gofynion deddfwriaeth Diogelu Data.

Felly, mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn wedi'i lunio i esbonio mor glir â phosibl beth rydym yn ei wneud â'ch data personol.

1. Y dibenion o ran defnyddio eich data personol

Bydd y wybodaeth rydym yn ei chasglu amdanoch yn cael ei defnyddio at y diben(ion) canlynol:

  • Trwyddedu sefydliadau magu cŵn, lletya anifeiliaid a marchogaeth
  • Gorfodi'r holl swyddogaethau statudol o ran iechyd anifeiliaid

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich gwybodaeth yw cydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol i drwyddedu a gorfodi deddfwriaeth ynghylch iechyd a lles anifeiliaid.  Rydym yn prosesu data personol ynghylch collfarnau a thramgwyddau troseddol gan fod hynny o gryn fudd i'r cyhoedd, ar sail y ddeddfwriaeth ynghylch iechyd anifeiliaid rydym yn ei gorfodi.

Mae rhwymedigaeth gyfreithiol arnoch i roi'r wybodaeth sydd ei hangen arnom pan fyddwn yn gofyn amdani. Gallai hyn arwain at beidio â chyhoeddi'r drwydded briodol at y diben arfaethedig, torri deddfwriaeth droseddol ac erlyniad posibl.

2. Pa fath o wybodaeth ydym yn ei defnyddio?

Rydym yn casglu'r mathau canlynol o ddata personol amdanoch er mwyn darparu'r gwasanaeth hwn:

Ymgeiswyr am drwydded:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Dyddiad geni
  • Cyfeirnod unigryw
  • Manylion cyswllt
  • Manylion banc/talu pan fyddwch yn talu ffi i ni
  • Gwybodaeth am eich busnes

Unigolion rydym yn ymchwilio iddynt dan ein swyddogaeth gorfodi:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Dyddiad geni
  • Rhyw
  • Cyfeirnod unigryw
  • Manylion banc/talu
  • Eich amgylchiadau ariannol
  • Delweddau/ffotograffau
  • Rhif cofrestru'r cerbyd

Rydym hefyd yn prosesu data personol ynghylch collfarnau a thramgwyddau troseddol pan fyddwn yn erlyn unigolyn.  Rydym yn gwneud hyn gan fod hynny o gryn fudd i'r cyhoedd, ar sail y ddeddfwriaeth ynghylch iechyd anifeiliaid rydym yn ei gorfodi.

3. A ydym yn defnyddio gwybodaeth a gafwyd o ffynonellau eraill?

I ddarparu'r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu gwybodaeth oddi wrthych chi'n uniongyrchol ond rydym hefyd yn cael gwybodaeth o'r ffynonellau canlynol mewn achosion lle mae'n rhaid inni gynnal ymchwiliad troseddol:

  •  Adain Treth Gyngor y Cyngor
  • Adain Ardrethi Busnes (ardrethi annomestig cenedlaethol) y Cyngor
  • Gwasanaethau Cynllunio
  • Heddlu Dyfed-Powys
  • Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion
  • Sefydliadau ariannol megis banciau
  • Llywodraeth Cymru
  • Awdurdodau Lleol Eraill

Ceir y mathau canlynol o ddata personol, yn dibynnu ar amgylchiadau'r achos:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Dyddiad geni
  • Rhyw
  • Cyfeirnod unigryw
  • Rhif Ffôn
  • Cyfeiriad E-bost
  • Manylion banc/talu
  • Eich amgylchiadau ariannol
  • Manylion cyflogaeth ac addysg
  • Eich anghenion tai
  • Delweddau/ffotograffau
  • Rhif cofrestru'r cerbyd
  • Collfarnau a thramgwyddau troseddol

4. Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor

Rydym yn defnyddio Microsoft Office 365 i brosesu ein dogfennau electronig o dan delerau cytundeb caeth, sy'n diogelu'ch gwybodaeth. Mae'r data personol hwn yn cael ei letya ar weinyddion y tu allan i'r DU, ond dim ond yng ngwledydd yr UE o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol.

Nid ydym yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth arall amdanoch chi y tu allan i'r DU.

5. Pwy all weld eich gwybodaeth?

Rydym yn rhannu eich gwybodaeth pan fydd angen i ni wneud hynny yn unig.  Pan fyddwn ni'n rhannu gwybodaeth, rydym ym mhob achos yn darparu cyn lleied ag sydd ei angen i'r canlynol:

  • Adain Treth Gyngor y Cyngor
  • Adain Ardrethi Busnes y Cyngor
  • Gwasanaethau Cynllunio
  • Heddlu Dyfed-Powys
  • Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion
  • Sefydliadau ariannol megis banciau
  • Llywodraeth Cymru
  • Awdurdodau Lleol Eraill

Mae rhai sefyllfaoedd penodol eraill lle mae'n bosibl y bydd yn rhaid i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch, er enghraifft:

  • Pan fo'r gyfraith yn mynnu bod y Cyngor yn rhoi'r wybodaeth
  • Pan fo angen datgelu'r wybodaeth i atal neu ddatrys trosedd
  • Pan fo datgelu er budd pennaf y person dan sylw

6. Am ba hyd y byddwn yn cadw'ch gwybodaeth

Byddwn yn cadw'ch gwybodaeth am chwe blynedd ar ôl i drwydded neu achos ddod i ben, yn unol â Chanllawiau Cadw'r Cyngor.

7. Eich hawliau o ran Diogelu Data

Mae gennych hawl i:

  • Weld y data personol y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ei brosesu amdanoch
  • Mynnu bod unrhyw wybodaeth anghywir neu anghyflawn yn cael ei chywiro
  • Tynnu eich caniatâd i brosesu'r data yn ôl, lle mai dyna'r unig sail ar gyfer prosesu'r data
  • Cyflwyno cŵyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y corff annibynnol yn y Deyrnas Unedig sy'n diogelu hawliau o ran gwybodaeth

Mewn rhai amgylchiadau, gall fod gennych hawl i:

  • Wrthwynebu bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu
  • Dileu eich data personol
  • Rhoi cyfyngiadau ar brosesu eich gwybodaeth bersonol
  • Hygludedd data

8. Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn a'ch hawliau, cysylltwch â'r:

Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Caerfyrddin
Neuadd y Sir
Caerfyrddin
SA31 1JP

E-bost: dataprotection@sirgar.gov.uk

Mae'r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, ynghyd ag arweiniad pellach ynghylch deddfwriaeth Diogelu Data, ar gael ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Cyngor a Democratiaeth