Gwasanaeth Llesiant Gweithwyr

Mae sicrhau bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir yn bwysig iawn o ran darparu ein gwasanaethau a chadw hyder y cyhoedd.

Ystyr data personol yw unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson y mae modd adnabod pwy ydyw yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy ddefnyddio'r wybodaeth. Defnyddir y termau 'gwybodaeth' a 'data personol' yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn drwyddo draw ac maent yn gyfystyr.

Er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir, rydym yn ceisio cydymffurfio'n llwyr â gofynion deddfwriaeth Diogelu Data.

Felly, mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn wedi'i lunio i esbonio mor glir â phosibl beth rydym yn ei wneud â'ch data personol.

1. Y dibenion o ran defnyddio eich data personol

Fel arfer ni chaiff y data personol rydych yn ei ddarparu i ni ei rannu ag unrhyw wasanaeth arall o fewn Cyngor Sir Caerfyrddin, nac ychwaith ag unrhyw drydydd parti y tu allan i'r sefydliad.

Rydym yn darparu copïau o adroddiadau meddygol amdanoch i'ch rheolwr, ond dim ond gyda'ch caniatâd ac yn unol â Deddf Mynediad at Gofnodion Meddygol 1988.

Mae eich data personol hefyd yn cael ei gadw'n ddiogel ar ein rhan gan Cority Cohort Ltd, sy'n cynnal ein System Iechyd Galwedigaethol fel ein 'prosesydd data’.

Mae'n ofynnol i ni rannu data personol mewn argyfwng iechyd meddwl neu gorfforol, fel a ganlyn:

Gwybodaeth a rennir â'r Gwasanaethau Brys:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Dyddiad geni
  • Gwybodaeth am unrhyw broblemau iechyd meddwl
  • Manylion cyswllt perthynas agosaf

Gwybodaeth a rennir â'r perthynas agosaf:

  • Beth yw'r pryderon am lesiant gweithiwr a rhoi gwybod y cysylltwyd â'r gwasanaethau brys
  • Manylion y gwasanaethau brys fel y gall y perthynas agosaf gysylltu â nhw i gael rhagor o wybodaeth

(Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar gael ar y ddolen ganlynol - Rhannu gwybodaeth mewn argyfyngau iechyd meddwl yn y gwaith | ICO)

Mae rhai sefyllfaoedd penodol eraill lle mae'n bosibl y bydd yn rhaid i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch, er enghraifft:

  • Pan fo'r gyfraith yn mynnu bod y Cyngor yn rhoi'r wybodaeth
  • Pan fo angen datgelu'r wybodaeth i atal neu ddatrys trosedd

2. Pa fath o wybodaeth ydym yn ei defnyddio?

Rydym yn casglu'r mathau canlynol o ddata personol amdanoch er mwyn darparu'r gwasanaeth hwn, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Dyddiad Geni
  • Rhyw
  • Rhif Cyfeirnod Unigryw
  • Rhif Ffôn
  • Eich Teulu
  • Manylion Cyflogaeth ac Addysg
  • Delweddau/Ffotograffau
  • Gwybodaeth am eich Iechyd

3. A ydym yn defnyddio gwybodaeth a gafwyd o ffynonellau eraill?

I ddarparu'r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu gwybodaeth yn uniongyrchol wrthych ond hefyd yn derbyn gwybodaeth o'r ffynonellau canlynol:

  • Ymarferwyr Cyffredinol
  • Arbenigwr Iechyd Galwedigaethol

Ceir y mathau canlynol o ddata personol:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Dyddiad Geni
  • Gwybodaeth am eich Iechyd

4. Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor

Rydym yn defnyddio Microsoft Office 365 i brosesu ein dogfennau electronig o dan delerau cytundeb caeth, sy'n diogelu'ch gwybodaeth. Mae'r data personol hwn yn cael ei letya ar weinyddion y tu allan i'r DU, ond dim ond yng ngwledydd yr UE o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol.

Nid ydym yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth arall amdanoch chi y tu allan i'r DU.

5. Pwy all weld eich gwybodaeth?

Fel arfer ni chaiff y data personol rydych yn ei ddarparu i ni ei rannu ag unrhyw wasanaeth arall o fewn Cyngor Sir Caerfyrddin, nac ychwaith ag unrhyw drydydd parti y tu allan i'r sefydliad.

Rydym yn darparu copïau o adroddiadau meddygol amdanoch chi i'ch rheolwr, ond dim ond gyda'ch caniatâd, yn unol â'r Ddeddf Mynediad i Adroddiadau Meddygol 1988.

Fodd bynnag, mae rhai sefyllfaoedd penodol lle mae'n bosibl y bydd yn rhaid i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch, er enghraifft:

  • Pan fo'r gyfraith yn mynnu bod y Cyngor yn rhoi'r wybodaeth
  • Pan fo angen datgelu'r wybodaeth i atal neu ddatrys trosedd
  • Pan fo datgelu er budd pennaf y person dan sylw

6. Am ba hyd y byddwn yn cadw'ch gwybodaeth

Byddwn yn cadw'ch gwybodaeth am 75 mlynedd o'ch dyddiad geni yn unol â Chanllawiau'r Cyngor ar gyfer Cadw Gwybodaeth.

7. Eich hawliau o ran Diogelu Data

Mae gennych hawl i:

  • Weld y data personol y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ei brosesu amdanoch
  • Mynnu bod unrhyw wybodaeth anghywir neu anghyflawn yn cael ei chywiro
  • Tynnu eich caniatâd i brosesu'r data yn ôl, lle mai dyna'r unig sail ar gyfer prosesu'r data
  • Cyflwyno cŵyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y corff annibynnol yn y Deyrnas Unedig sy'n diogelu hawliau o ran gwybodaeth

Mewn rhai amgylchiadau, gall fod gennych hawl i:

  • Wrthwynebu bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu
  • Dileu eich data personol
  • Rhoi cyfyngiadau ar brosesu eich gwybodaeth bersonol
  • Hygludedd data

8. Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn a'ch hawliau, cysylltwch â'r:

Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Caerfyrddin
Neuadd y Sir
Caerfyrddin
SA31 1JP

E-bost: dataprotection@sirgar.gov.uk

Mae'r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, ynghyd ag arweiniad pellach ynghylch deddfwriaeth Diogelu Data, ar gael ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Cyngor a Democratiaeth