Gwasanaeth Seicoleg Addysg a Phlant

Mae sicrhau bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir yn bwysig iawn o ran darparu ein gwasanaethau a chadw hyder y cyhoedd.

Ystyr data personol yw unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson y mae modd adnabod pwy ydyw yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy ddefnyddio'r wybodaeth. Defnyddir y termau 'gwybodaeth' a 'data personol' yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn drwyddo draw ac maent yn gyfystyr.

Er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir, rydym yn ceisio cydymffurfio'n llwyr â gofynion deddfwriaeth Diogelu Data.

Felly, mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn wedi'i lunio i esbonio mor glir â phosibl beth rydym yn ei wneud â'ch data personol.

1. Y dibenion o ran defnyddio eich data personol

Bydd y wybodaeth rydym yn ei chasglu yn cael ei defnyddio at ddibenion cefnogi datblygiad ac iechyd a lles emosiynol plant a phobl ifanc.  

Rydym yn gwneud hyn drwy ddefnyddio seicoleg mewn ysgolion a lleoliadau cyn-ysgol yn bennaf.  Rydym yn darparu gwasanaethau datrys problemau ar y cyd, arsylwi, asesu, ymyrraeth ac ymchwil i helpu unigolion pan fydd angen ein gwasanaeth arnynt.

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol yw bod angen inni wneud hynny er mwyn cydymffurfio â dyletswyddau statudol o dan Bennod 1 Deddf Addysg 1996. Yn ogystal, mae'n ddyletswydd statudol arnom i gydweithredu ag adrannau gwasanaethau cymdeithasol o dan adrannau 27 a 47 o Ddeddf Plant 1989.

Mae'n ofynnol o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 2010 fod y Cyngor yn cydlynu Cynlluniau Gofal a Thriniaeth Iechyd Meddwl ar gyfer disgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol ac anghenion iechyd meddwl sylweddol. Mae'r Gwasanaeth Seicoleg Addysg a Phlant yn cyflawni'r rôl hon ar gyfer disgyblion sydd â datganiadau o anghenion addysgol arbennig.

Rydym yn casglu ac yn defnyddio data personol (sensitif) categori arbennig ynghylch iechyd corfforol ac iechyd meddwl am resymau sydd o fudd sylweddol i'r cyhoedd, ar sail y ddeddfwriaeth y cyfeiriwyd ati uchod.

2. Pa fath o wybodaeth ydym yn ei defnyddio?

Rydym yn casglu'r mathau canlynol o ddata personol er mwyn darparu'r gwasanaeth hwn:

Rhieni:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Dyddiad Geni
  • Rhif Ffôn
  • Cyfeiriad E-bost
  • Eich Teulu
  • Eich Amgylchiadau Cymdeithasol
  • Iaith eich Cartref
  • Gwybodaeth am eich iechyd corfforol a'ch iechyd meddwl, ond dim ond pan fydd hyn yn berthnasol i'r gwaith rydym yn ei wneud â phlentyn

Plant a Phobl ifanc:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Rhyw
  • Dyddiad Geni
  • Teulu
  • Amgylchiadau Cymdeithasol
  • Cofnod Addysgol, gan gynnwys presenoldeb, cyraeddiadau ac unrhyw waharddiadau lle bo'n berthnasol
  • Gwybodaeth ynghylch unrhyw wasanaethau cymorth a ddefnyddir
  • Ieithoedd a siaredir
  • Gwybodaeth am iechyd corfforol a meddyliol

3. A ydym yn defnyddio gwybodaeth a gafwyd o ffynonellau eraill?

Ydyn. I ddarparu'r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu'r wybodaeth yn uniongyrchol wrth yr unigolion rydym yn eu cefnogi ond hefyd yn derbyn gwybodaeth o'r ffynonellau canlynol:

  • Ysgolion
  • Lleoliadau cyn-ysgol
  • Gwasanaethau Plant
  • Gwasanaethau Addysg
  • Gweithwyr proffesiynol eraill ym maes iechyd neu seicoleg
  • Sefydliadau Gwirfoddol

Ceir y mathau canlynol o ddata personol:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Rhyw
  • Dyddiad Geni
  • Teulu
  • Amgylchiadau Cymdeithasol
  • Cofnod Addysgol, gan gynnwys presenoldeb, cyraeddiadau ac unrhyw waharddiadau lle bo'n berthnasol
  • Gwybodaeth ynghylch unrhyw wasanaethau cymorth a ddefnyddir
  • Ieithoedd a siaredir
  • Gwybodaeth am iechyd corfforol a meddyliol
  • Cofnod Datblygiadol

4. Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor

Rydym yn defnyddio Microsoft Office 365 i brosesu ein dogfennau electronig o dan delerau cytundeb caeth, sy'n diogelu'ch gwybodaeth. Mae'r data personol hwn yn cael ei letya ar weinyddion y tu allan i'r DU, ond dim ond yng ngwledydd yr UE o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol.

Nid ydym yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth arall amdanoch chi y tu allan i'r DU.

5. Pwy all weld eich gwybodaeth?

Rydym yn rhannu gwybodaeth â'r un sefydliadau sy'n darparu data personol am blant a phobl ifanc inni, ond dim ond pan fydd angen inni wneud hynny.  Pan fyddwn ni'n rhannu gwybodaeth, rydym yn darparu cyn lleied ag sydd ei angen ym mhob achos.

Rydym yn rhannu data personol â'r canlynol:

  • Ysgolion
  • Lleoliadau cyn-ysgol
  • Gwasanaethau Plant
  • Gwasanaethau Addysg
  • Gweithwyr proffesiynol eraill ym maes iechyd neu seicoleg
  • Sefydliadau Gwirfoddol

Mae rhai sefyllfaoedd penodol eraill lle mae'n bosibl y bydd yn rhaid i ni ddatgelu gwybodaeth, er enghraifft:

  • Pan fo'r gyfraith yn mynnu bod y Cyngor yn rhoi'r wybodaeth
  • Pan fo angen datgelu'r wybodaeth i atal neu ddatrys trosedd
  • Pan fo datgelu er budd pennaf y person dan sylw

6. Am ba hyd y byddwn yn cadw'ch gwybodaeth

Byddwn ni'n cadw data personol am yr unigolion rydym yn gweithio â nhw am 35 mlynedd ar ôl cau achos.

7. Eich hawliau o ran Diogelu Data

Mae gennych hawl i:

  • Weld y data personol y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ei brosesu amdanoch
  • Mynnu bod unrhyw wybodaeth anghywir neu anghyflawn yn cael ei chywiro
  • Tynnu eich caniatâd i brosesu'r data yn ôl, lle mai dyna'r unig sail ar gyfer prosesu'r data
  • Cyflwyno cŵyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y corff annibynnol yn y Deyrnas Unedig sy'n diogelu hawliau o ran gwybodaeth

Mewn rhai amgylchiadau, gall fod gennych hawl i:

  • Wrthwynebu bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu
  • Dileu eich data personol
  • Rhoi cyfyngiadau ar brosesu eich gwybodaeth bersonol
  • Hygludedd data

8. Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn a'ch hawliau, cysylltwch â'r:

Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Caerfyrddin
Neuadd y Sir
Caerfyrddin
SA31 1JP

E-bost: dataprotection@sirgar.gov.uk

Mae'r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, ynghyd ag arweiniad pellach ynghylch deddfwriaeth Diogelu Data, ar gael ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Cyngor a Democratiaeth