Gwasanaethau Cynllunio - Rheoli Datblygu

Mae sicrhau bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir yn bwysig iawn o ran darparu ein gwasanaethau a chadw hyder y cyhoedd.

Ystyr data personol yw unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson y mae modd adnabod pwy ydyw yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy ddefnyddio'r wybodaeth. Defnyddir y termau 'gwybodaeth' a 'data personol' yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn drwyddo draw ac maent yn gyfystyr.

Er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir, rydym yn ceisio cydymffurfio'n llwyr â gofynion deddfwriaeth Diogelu Data.

Felly, mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn wedi'i lunio i esbonio mor glir â phosibl beth rydym yn ei wneud â'ch data personol.

1. Y dibenion o ran defnyddio eich data personol

Bydd y wybodaeth rydym yn ei chasglu amdanoch yn cael ei defnyddio at y dibenion canlynol:

  • Ymholiadau gan ddeiliaid tai ynghylch yr angen am ganiatâd cynllunio
  • Cyngor cyn cyflwyno cais
  • Delio â cheisiadau cynllunio
  • Derbyn

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich gwybodaeth yw er mwyn cydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a deddfwriaeth gynllunio eilaidd arall.

Os nad ydych yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnom pan fyddwn yn gofyn amdani, gallai hyn olygu na fyddwn yn gallu helpu â'ch ymholiad a delio â'ch cais.

2. Pa fath o wybodaeth ydym yn ei defnyddio?

Rydym yn casglu'r mathau canlynol o ddata personol amdanoch er mwyn darparu'r gwasanaeth hwn:

  • Enw
  • Eich cyfeiriad, eich rhif ffôn a'ch cyfeiriad e-bost, oni bai eich bod yn defnyddio asiant ac yn dewis peidio â darparu'r wybodaeth hon
  • Manylion ariannol ar gyfer ffioedd cynllunio
  • Gwybodaeth am eich cartref neu'ch datblygiad arfaethedig
  • Derbyn gwrthwynebiadau a sylwadau ynglŷn â cheisiadau cynllunio

3. A ydym yn defnyddio gwybodaeth a gafwyd o ffynonellau eraill?

I ddarparu'r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu data personol yn uniongyrchol wrthych chi neu'ch asiant yn unig ac nid ydym yn cael gwybodaeth amdanoch o unrhyw ffynhonnell arall.

4. Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor

Rydym yn defnyddio Microsoft Office 365 i brosesu ein dogfennau electronig o dan delerau cytundeb caeth, sy'n diogelu'ch gwybodaeth. Mae'r data personol hwn yn cael ei letya ar weinyddion y tu allan i'r DU, ond dim ond yng ngwledydd yr UE o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol.

Nid ydym yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth arall amdanoch chi y tu allan i'r DU. Ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo y tu allan i'r Deyrnas Unedig er mae'n bosibl y bydd ychydig wybodaeth amdanoch yn cael ei chyhoeddi ar-lein, fel yr esbonnir isod.

5. Pwy all weld eich gwybodaeth?

Os byddwch yn gwneud ymholiad fel deiliad tŷ, ni chaiff eich data personol ei rannu ag unrhyw wasanaeth arall o fewn Cyngor Sir Caerfyrddin, nac ychwaith ag unrhyw drydydd parti y tu allan i'r sefydliad.

Pan fyddwch yn cysylltu â ni am gyngor cyn cyflwyno cais cynllunio, mae'n bosibl y byddwn yn rhannu eich enw a'ch cyfeiriad gyda'r canlynol er mwyn cael sylwadau, yn dibynnu ar eich ymholiad:

  • Gwasanaethau perthnasol yn y Cyngor e.e. Priffyrdd ac Iechyd y Cyhoedd
  • Cynghorau Tref a Chymuned
  • Aelodau Etholedig Lleol
  • CADW ac Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed
  • Llywodraeth Cymru
  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Dŵr Cymru
  • Parth Hedfan Sifil
  • Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
  • Gwasanaeth Cynghori ar Ansawdd Tir
  • Grid Cenedlaethol
  • Network Rail
  • Yr Heddlu
  • Yr Awdurdod Glo

Ar ôl ichi gyflwyno cais cynllunio, yn ôl y ddeddfwriaeth gynllunio mae'n ofynnol i ni sicrhau bod cofrestr ar gael i'r cyhoedd fwrw golwg arni. Bydd y gofrestr hon yn cynnwys eich enw, eich cyfeiriad a gwybodaeth am eich datblygiad ond nid unrhyw ddata personol arall amdanoch. Mae'r wybodaeth hon ar gael i'r cyhoedd ar ein gwefan.

Os byddwch yn cyflwyno gwrthwynebiad i gais cynllunio a darparu eich enw a'ch cyfeiriad, caiff y manylion hyn eu cynnwys gyda'r wybodaeth sy'n cael ei chyhoeddi ar ein gwefan.

Yn ogystal, mae rhai sefyllfaoedd penodol lle mae'n bosibl y bydd yn rhaid i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch, er enghraifft:

  • Pan fo'r gyfraith yn mynnu bod y Cyngor yn rhoi'r wybodaeth
  • Pan fo angen datgelu'r wybodaeth i atal neu ddatrys trosedd
  • Pan fo datgelu er budd pennaf y person dan sylw

6. Am ba hyd y byddwn yn cadw'ch gwybodaeth

Byddwn yn cadw'ch gwybodaeth am 15 blynedd ar ôl gwneud penderfyniad, yn unol â Chanllawiau'r Cyngor ar gyfer Cadw Gwybodaeth.

7. Eich hawliau o ran Diogelu Data

Mae gennych hawl i:

  • Weld y data personol y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ei brosesu amdanoch
  • Mynnu bod unrhyw wybodaeth anghywir neu anghyflawn yn cael ei chywiro
  • Tynnu eich caniatâd i brosesu'r data yn ôl, lle mai dyna'r unig sail ar gyfer prosesu'r data
  • Cyflwyno cŵyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y corff annibynnol yn y Deyrnas Unedig sy'n diogelu hawliau o ran gwybodaeth

Mewn rhai amgylchiadau, gall fod gennych hawl i:

  • Wrthwynebu bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu
  • Dileu eich data personol
  • Rhoi cyfyngiadau ar brosesu eich gwybodaeth bersonol
  • Hygludedd data

8. Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn a'ch hawliau, cysylltwch â'r:

Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Caerfyrddin
Neuadd y Sir
Caerfyrddin
SA31 1JP

E-bost: dataprotection@sirgar.gov.uk

Mae'r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, ynghyd ag arweiniad pellach ynghylch deddfwriaeth Diogelu Data, ar gael ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Cyngor a Democratiaeth