Rheoli Adeiladu

Mae sicrhau bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir yn bwysig iawn o ran darparu ein gwasanaethau a chadw hyder y cyhoedd.

Ystyr data personol yw unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson y mae modd adnabod pwy ydyw yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy ddefnyddio'r wybodaeth. Defnyddir y termau 'gwybodaeth' a 'data personol' yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn drwyddo draw ac maent yn gyfystyr.

Er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir, rydym yn ceisio cydymffurfio'n llwyr â gofynion deddfwriaeth Diogelu Data.

Felly, mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn wedi'i lunio i esbonio mor glir â phosibl beth rydym yn ei wneud â'ch data personol.

1. Y dibenion o ran defnyddio eich data personol

Bydd y wybodaeth rydym yn ei chasglu amdanoch yn cael ei defnyddio at ddibenion:

  • Prosesu a phenderfynu ynghylch eich cais Rheoliadau Adeiladu, gan gynnwys archwilio gwaith pan fydd y gwaith datblygu'n dechrau. 
  • Gorfodi gofynion perthnasol Rheoliadau Adeiladu 2010 a Deddf Adeiladu 1984

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich gwybodaeth yw er mwyn cydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol o dan y ddeddfwriaeth uchod.

Pan fyddwn yn cyflwyno hysbysiad ynghylch strwythur peryglus neu hysbysiad gorfodi, mae'n ofynnol ichi, yn ôl y gyfraith, ddarparu gwybodaeth i ni.  Os nad ydych yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnom pan fyddwn yn gofyn amdani, gallai hyn arwain at gymryd camau cyfreithiol o dan Adrannau 35, 36, 77 a 78 o'r Ddeddf Adeiladu.

2. Pa fath o wybodaeth ydym yn ei defnyddio?

Rydym yn casglu'r mathau canlynol o ddata personol amdanoch er mwyn darparu'r gwasanaeth hwn:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Rhif Ffôn
  • Cyfeiriad E-bost
  • Rhifau cyfeirnod ceisiadau a gohebiaeth
  • Manylion ariannol, pan fyddwch yn talu ffi i ni
  • Gwybodaeth am eich datblygiad/eiddo

3. A ydym yn defnyddio gwybodaeth a gafwyd o ffynonellau eraill?

I ddarparu'r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu'r wybodaeth yn uniongyrchol wrthych chi ond hefyd yn derbyn gwybodaeth o'r ffynonellau canlynol:

  • Y Dreth Gyngor, pan fydd angen i ni wybod enw preswylydd eiddo
  • Y Gofrestrfa Tir, pan fydd angen i ni wybod pwy sy'n berchen ar eiddo

Ceir y mathau canlynol o ddata personol:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Gwybodaeth am eich perchenogaeth tir/eiddo

4. Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor

Rydym yn defnyddio Microsoft Office 365 i brosesu ein dogfennau electronig o dan delerau cytundeb caeth, sy'n diogelu'ch gwybodaeth. Mae'r data personol hwn yn cael ei letya ar weinyddion y tu allan i'r DU, ond dim ond yng ngwledydd yr UE o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol.

Nid ydym yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth arall amdanoch chi y tu allan i'r DU.

5. Pwy all weld eich gwybodaeth?

Rydym yn rhannu eich gwybodaeth â'r canlynol y mae'n rhaid i ni gysylltu â nhw yn ôl y gyfraith pan fyddwch yn cyflwyno cais inni:

  • Dŵr Cymru
  • Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru

Yn ogystal, rydym yn rhannu eich data personol â gwasanaethau canlynol y Cyngor:

  • Gwasanaethau Ariannol, at ddibenion anfonebu
  • Gwasanaethau Cyfreithiol a'n Hadain Dyledwyr os bydd camau adennill dyledion yn cael eu gweithredu
  • Gwasanaethau Cynllunio o ran caniatâd cynllunio a lle bo angen cyfeiriad newydd ar yr eiddo
  • Ein Gweithlu (DLO), lle mae angen eu gwasanaethau er mwyn asesu strwythur peryglus neu ei wneud yn ddiogel
  • Gwasanaethau Eiddo er mwyn cael gwybod ai'r Cyngor sy'n berchen ar eiddo penodol
  • Y Dreth Gyngor, pan fydd angen i ni wybod manylion ynghylch pwy sy'n byw yn yr eiddo
  • Y Gofrestrfa Tir, pan fydd angen i ni wybod pwy sy'n berchen ar eiddo penodol
  • Peirianwyr strwythurol y Cyngor ac allanol, pan fydd angen i ni wirio cyfrifiadau

Rydym yn darparu rhestr o geisiadau sy'n cynnwys datblygiadau sydd wedi'u dechrau i'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Rydym yn rhannu gwybodaeth ynghylch ceisiadau newydd gyda'n Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff a'n Tîm Mabwysiadu Priffyrdd.

Yn ogystal, darperir adroddiad ynghylch eiddo sydd wedi cael eu dymchwel i'n tîm sy'n delio â'r Rhestr o Eiddo a Thir Lleol.

Mae rhai sefyllfaoedd penodol eraill lle mae'n bosibl y bydd yn rhaid i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch, er enghraifft:

  • Pan fo'r gyfraith yn mynnu bod y Cyngor yn rhoi'r wybodaeth
  • Pan fo angen datgelu'r wybodaeth i atal neu ddatrys trosedd
  • Pan fo datgelu er budd pennaf y person dan sylw

6. Am ba hyd y byddwn yn cadw'ch gwybodaeth

Rydym yn cadw data personol ynghylch ceisiadau Rheoliadau Adeiladu am 10 mlynedd ar ôl i ni gyflwyno tystysgrif cwblhau gwaith neu gynnal yr archwiliad terfynol.

Caiff gwybodaeth ynghylch gorfodi Rheoliadau Adeiladu ei chadw am 3 blynedd ar ôl cydymffurfio â hysbysiad neu ar ôl cau'r achos.

7. Eich hawliau o ran Diogelu Data

Mae gennych hawl i:

  • Weld y data personol y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ei brosesu amdanoch
  • Mynnu bod unrhyw wybodaeth anghywir neu anghyflawn yn cael ei chywiro
  • Tynnu eich caniatâd i brosesu'r data yn ôl, lle mai dyna'r unig sail ar gyfer prosesu'r data
  • Cyflwyno cŵyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y corff annibynnol yn y Deyrnas Unedig sy'n diogelu hawliau o ran gwybodaeth

Mewn rhai amgylchiadau, gall fod gennych hawl i:

  • Wrthwynebu bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu
  • Dileu eich data personol
  • Rhoi cyfyngiadau ar brosesu eich gwybodaeth bersonol
  • Hygludedd data

8. Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn a'ch hawliau, cysylltwch â'r:

Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Caerfyrddin
Neuadd y Sir
Caerfyrddin
SA31 1JP

E-bost: dataprotection@sirgar.gov.uk

Mae'r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, ynghyd ag arweiniad pellach ynghylch deddfwriaeth Diogelu Data, ar gael ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Cyngor a Democratiaeth