Trethi Annomestig Cenedlaethol

Mae sicrhau bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir yn bwysig iawn o ran darparu ein gwasanaethau a chadw hyder y cyhoedd.

Ystyr data personol yw unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson y mae modd adnabod pwy ydyw yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy ddefnyddio'r wybodaeth. Defnyddir y termau 'gwybodaeth' a 'data personol' yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn drwyddo draw ac maent yn gyfystyr.

Er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir, rydym yn ceisio cydymffurfio'n llwyr â gofynion deddfwriaeth Diogelu Data.

Felly, mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn wedi'i lunio i esbonio mor glir â phosibl beth rydym yn ei wneud â'ch data personol.

1. Y dibenion o ran defnyddio eich data personol

Bydd y wybodaeth rydym yn ei chasglu amdanoch yn cael ei defnyddio at ddibenion gweinyddu a chasglu Trethi Annomestig Cenedlaethol (sydd hefyd yn cael eu hadnabod fel Ardrethi Busnes).

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich gwybodaeth yw er mwyn cydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol o dan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988.

Os nad ydych yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnom pan fyddwn yn gofyn amdani, gallai hyn olygu bod yn rhaid i ni wneud penderfyniadau gan ddefnyddio'r ychydig wybodaeth sydd gennym a chyflwyno hysbysiad cosb i gael gwybodaeth bellach neu wneud parti arall yn atebol.

2. Pa fath o wybodaeth ydym yn ei defnyddio?

Rydym yn casglu'r mathau canlynol o ddata personol amdanoch er mwyn darparu'r gwasanaeth hwn:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Rhif Ffôn
  • Cyfeiriad E-bost
  • Manylion Banc/Talu
  • Eich Amgylchiadau Ariannol
  • Manylion Cyflogaeth ac Addysg
  • Gwybodaeth am eich Iechyd

3. A ydym yn defnyddio gwybodaeth a gafwyd o ffynonellau eraill?

I ddarparu'r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu gwybodaeth yn uniongyrchol wrthych ond hefyd yn derbyn gwybodaeth o'r ffynonellau canlynol:

  • Swyddfa Brisio
  • Cofrestrfa Tir EM
  • Asiantaethau Gosod Preifat
  • Is-adran Gwasanaethau Eiddo'r Cyngor
  • Asiantiaid Gorfodi
  • Cofrestru Etholiadol
  • Cofrestryddion  

Gellir cael y mathau canlynol o ddata personol, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Dyddiad Geni
  • Rhyw
  • Rhif Cyfeirnod Unigryw
  • Rhif Ffôn
  • Cyfeiriad E-bost
  • Manylion Banc/Talu
  • Eich Amgylchiadau Ariannol
  • Manylion Cyflogaeth ac Addysg
  • Rhif Cofrestru'r Cerbyd
  • Gwybodaeth am eich Iechyd

4. Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor

Rydym yn defnyddio Microsoft Office 365 i brosesu ein dogfennau electronig o dan delerau cytundeb caeth, sy'n diogelu'ch gwybodaeth. Mae'r data personol hwn yn cael ei letya ar weinyddion y tu allan i'r DU, ond dim ond yng ngwledydd yr UE o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol.

Nid ydym yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth arall amdanoch chi y tu allan i'r DU.

5. Pwy all weld eich gwybodaeth?

Mae'n bosibl y byddwn yn rhannu'ch gwybodaeth â'r canlynol, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:

  • Is-adran Gwasanaethau Eiddo'r Cyngor
  • Asiantiaid Gorfodi
  • Rheoli Adeiladu a Gwasanaethau Cynllunio, Iechyd Anifeiliaid, ein Adran Amgylchedd a Materion Defnyddwyr a Busnes, pan fydd angen i'r gwasanaethau hyn sefydlu enwau preswylwyr 

Yn ogystal, mae rhai sefyllfaoedd penodol eraill lle mae'n bosibl y bydd yn rhaid i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch, er enghraifft:

  • Pan fo'r gyfraith yn mynnu bod y Cyngor yn rhoi'r wybodaeth
  • Pan fo angen datgelu'r wybodaeth i atal neu ddatrys trosedd
  • Pan fo datgelu er budd pennaf y person dan sylw

6. Am ba hyd y byddwn yn cadw'ch gwybodaeth

Byddwn yn cadw'ch gwybodaeth cyhyd ag yr ydych yn atebol am Ardrethi Busnes a 7 mlynedd o ddiwedd y flwyddyn unwaith y mae'r atebolrwydd wedi dod i ben. Mae hyn yn unol â Chanllawiau'r Cyngor ar gyfer Cadw Gwybodaeth.

7. Eich hawliau o ran Diogelu Data

Mae gennych hawl i:

  • Weld y data personol y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ei brosesu amdanoch
  • Mynnu bod unrhyw wybodaeth anghywir neu anghyflawn yn cael ei chywiro
  • Tynnu eich caniatâd i brosesu'r data yn ôl, lle mai dyna'r unig sail ar gyfer prosesu'r data
  • Cyflwyno cŵyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y corff annibynnol yn y Deyrnas Unedig sy'n diogelu hawliau o ran gwybodaeth

Mewn rhai amgylchiadau, gall fod gennych hawl i:

  • Wrthwynebu bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu
  • Dileu eich data personol
  • Rhoi cyfyngiadau ar brosesu eich gwybodaeth bersonol
  • Hygludedd data

8. Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn a'ch hawliau, cysylltwch â'r:

Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Caerfyrddin
Neuadd y Sir
Caerfyrddin
SA31 1JP

E-bost: dataprotection@sirgar.gov.uk

Mae'r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, ynghyd ag arweiniad pellach ynghylch deddfwriaeth Diogelu Data, ar gael ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Cyngor a Democratiaeth