Trwyddedu

Mae sicrhau bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir yn bwysig iawn o ran darparu ein gwasanaethau a chadw hyder y cyhoedd.

Ystyr data personol yw unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson y mae modd adnabod pwy ydyw yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy ddefnyddio'r wybodaeth. Defnyddir y termau 'gwybodaeth' a 'data personol' yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn drwyddo draw ac maent yn gyfystyr.

Er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir, rydym yn ceisio cydymffurfio'n llwyr â gofynion deddfwriaeth Diogelu Data.

Felly, mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn wedi'i lunio i esbonio mor glir â phosibl beth rydym yn ei wneud â'ch data personol.

1. Y dibenion o ran defnyddio eich data personol

Bydd y wybodaeth rydym yn ei chasglu amdanoch yn cael ei defnyddio ar gyfer:

  • Prosesu a phenderfynu ynghylch ceisiadau am drwydded/hawlen
  • Prosesu hysbysiadau
  • Darparu gwybodaeth o ran y gofrestr gyhoeddus
  • Ymchwilio i gwynion
  • Cynnal gweithgaredd gorfodi rheoliadau gan gynnwys ag asiantaethau sy'n bartneriaid

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich gwybodaeth yw er mwyn cydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol o dan y canlynol:

  • Deddf Trwyddedu 2003
  • Deddf Hapchwarae 2005
  • Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976
  • Deddfau Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol 1847
  • Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982
  • Deddf Casgliadau o Dŷ i Dŷ 1939
  • Deddf yr Heddlu, Ffatrïoedd, ac ati (Amrywiol Ddarpariaethau) 1916
  • Deddf Hypnotiaeth 1952

Rydym yn casglu a defnyddio gwybodaeth am eich iechyd a data personol categori arbennig (sensitif) arall oherwydd ei bod yn angenrheidiol at ddibenion cyflawni swyddogaethau o dan y ddeddfwriaeth y cyfeirir ato uchod. Rydym yn prosesu gwybodaeth am euogfarnau troseddol am resymau o fudd sylweddol i'r cyhoedd, hefyd ar sail y ddeddfwriaeth hon.

Os nad ydych yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnom pan fyddwn yn gofyn amdani, gallai hyn olygu na fydd y Cyngor yn gallu penderfynu ynghylch eich cais am drwydded neu hawlen, prosesu eich hysbysiad na chydymffurfio â'n rhwymedigaethau statudol.

2. Pa fath o wybodaeth ydym yn ei defnyddio?

Rydym yn casglu'r mathau canlynol o ddata personol amdanoch er mwyn darparu'r gwasanaeth hwn, yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Dyddiad Geni
  • Rhyw
  • Rhif Cyfeirnod Unigryw
  • Rhif Ffôn
  • Cyfeiriad E-bost
  • Manylion Banc/Talu
  • Manylion Cyflogaeth ac Addysg
  • Delweddau/Ffotograffau
  • Rhif Cofrestru'r Cerbyd
  • Gwybodaeth am Iechyd
  • Eich Hil neu Gefndir Ethnig
  • Collfarnau Troseddol a Throseddau

3. A ydym yn defnyddio gwybodaeth a gafwyd o ffynonellau eraill?

I ddarparu'r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu gwybodaeth yn uniongyrchol wrthych ond hefyd yn derbyn gwybodaeth o'r ffynonellau allanol canlynol, yn dibynnu ar y math o drwydded:

  • Y Gwasanaeth Tân ac Achub
  • Yr Heddlu
  • Gwasanaethau Datgelu a Gwahardd
  • Byrddau Iechyd Lleol y GIG
  • Gwasanaethau Mewnfudo
  • Llysgenadaethau tramor os ydych yn wladolyn tramor neu wedi byw dramor
  • Menter Twyll Genedlaethol
  • Adran Gwaith a Phensiynau
  • Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi
  • Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA)
  • Awdurdodau lleol eraill

Rydym hefyd yn cael gwybodaeth gan y gwasanaethau Cyngor canlynol:

  • Iechyd yr Amgylchedd
  • Safonau Masnach
  • Cynllunio
  • Gwasanaethau Plant
  • Adnoddau
  • Priffyrdd
  • Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch Digwyddiadau
  • Adran y Prif Weithredwr

Ceir y mathau canlynol o ddata personol, yn dibynnu ar y gweithgaredd trwyddedu:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Dyddiad Geni
  • Rhyw
  • Manylion Cyflogaeth ac Addysg
  • Delweddau/Ffotograffau
  • Rhif Cofrestru'r Cerbyd

Yn ogystal, rydym yn cael data personol gan y Gwasanaethau Datgelu a Gwahardd a'r Heddlu ynghylch collfarnau troseddol a throseddau. Mae'r Heddlu hefyd yn darparu gwybodaeth berthnasol arall megis cofnodion am ddigwyddiadau.

Yn ogystal, cysylltir â byrddau iechyd lleol y GIG ynghylch trwyddedau gyrwyr ac mae'n bosibl y byddant yn darparu gwybodaeth am eich iechyd i ni.

4. Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor

Rydym yn defnyddio Microsoft Office 365 i brosesu ein dogfennau electronig o dan delerau cytundeb caeth, sy'n diogelu'ch gwybodaeth. Mae'r data personol hwn yn cael ei letya ar weinyddion y tu allan i'r DU, ond dim ond yng ngwledydd yr UE o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol.

Nid ydym yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth arall amdanoch chi y tu allan i'r DU.

5. Pwy all weld eich gwybodaeth?

Rydym yn rhannu'ch gwybodaeth â'r canlynol, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:

  • Y Gwasanaeth Tân ac Achub
  • Yr Heddlu
  • Gwasanaethau Datgelu a Gwahardd
  • Byrddau Iechyd Lleol y GIG
  • Gwasanaethau Mewnfudo
  • Llysgenadaethau tramor os ydych yn wladolyn tramor neu wedi byw dramor
  • Menter Twyll Genedlaethol
  • Adran Gwaith a Phensiynau
  • Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi
  • Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA)
  • Awdurdodau lleol eraill

Mewn achos lle mae angen i Bwyllgor Trwyddedu neu Is-bwyllgor Trwyddedu'r Cyngor ystyried cais neu fater, bydd gwybodaeth amdanoch yn cael ei chlywed yn gyhoeddus.

Mae rhai sefyllfaoedd penodol eraill lle mae'n bosibl y bydd yn rhaid i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch, er enghraifft:

  • Pan fo'r gyfraith yn mynnu bod y Cyngor yn rhoi'r wybodaeth
  • Pan fo angen datgelu'r wybodaeth i atal neu ddatrys trosedd
  • Pan fo datgelu er budd pennaf y person dan sylw

6. Am ba hyd y byddwn yn cadw'ch gwybodaeth

Byddwn yn cadw'ch gwybodaeth am hyd y drwydded neu 6 blynedd ar ôl i'r cyfnod cofrestru neu hawl ddod i ben, neu yn achos awdurdodiadau ar gyfer digwyddiadau mwy yr ydym ni neu yn achos awdurdodiadau ar gyfer digwyddiadau mwy, gallwn gadw'r wybodaeth am hyd at 20 mlynedd, yn unol â Chanllawiau'r Cyngor ar gyfer Cadw Gwybodaeth.

7. Eich hawliau o ran Diogelu Data

Mae gennych hawl i:

  • Weld y data personol y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ei brosesu amdanoch
  • Mynnu bod unrhyw wybodaeth anghywir neu anghyflawn yn cael ei chywiro
  • Tynnu eich caniatâd i brosesu'r data yn ôl, lle mai dyna'r unig sail ar gyfer prosesu'r data
  • Cyflwyno cŵyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y corff annibynnol yn y Deyrnas Unedig sy'n diogelu hawliau o ran gwybodaeth

Mewn rhai amgylchiadau, gall fod gennych hawl i:

  • Wrthwynebu bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu
  • Dileu eich data personol
  • Rhoi cyfyngiadau ar brosesu eich gwybodaeth bersonol
  • Hygludedd data

8. Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn a'ch hawliau, cysylltwch â'r:

Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Caerfyrddin
Neuadd y Sir
Caerfyrddin
SA31 1JP

E-bost: dataprotection@sirgar.gov.uk

Mae'r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, ynghyd ag arweiniad pellach ynghylch deddfwriaeth Diogelu Data, ar gael ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Cyngor a Democratiaeth