Y Gwasanaeth Theatrau

Mae sicrhau bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir yn bwysig iawn o ran darparu ein gwasanaethau a chadw hyder y cyhoedd.

Ystyr data personol yw unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson y mae modd adnabod pwy ydyw yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy ddefnyddio'r wybodaeth. Defnyddir y termau 'gwybodaeth' a 'data personol' yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn drwyddo draw ac maent yn gyfystyr.

Er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir, rydym yn ceisio cydymffurfio'n llwyr â gofynion deddfwriaeth Diogelu Data.

Felly, mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn wedi'i lunio i esbonio mor glir â phosibl beth rydym yn ei wneud â'ch data personol.

1. Y dibenion o ran defnyddio eich data personol

Bydd y wybodaeth rydym yn ei chasglu amdanoch yn cael ei defnyddio at ddibenion:

  • Prosesu eich archebion
  • Rhoi gwybod ichi am newidiadau i'n gwasanaeth
  • Os ydych wedi dewis derbyn gwybodaeth farchnata, rydym yn defnyddio data personol i roi gwybod ichi am newyddion, digwyddiadau a gweithgareddau wedi'u trefnu gan ein gwasanaeth.
  • Rydym hefyd yn rhannu eich gwybodaeth â sefydliadau celfyddydau eraill er mwyn iddynt gysylltu â chi am ddigwyddiadau a pherfformiadau, ond dim ond pan fyddwch yn caniatáu i ni wneud hyn.
  • Cynnal ymchwil i'r farchnad a dadansoddi'r wybodaeth honno.

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich gwybodaeth yw er mwyn ymarfer awdurdod swyddogol o dan Adran 145 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, pŵer disgresiynol i ddarparu theatrau ac adloniant arall.

Fel y nodwyd uchod, rydym yn darparu gwybodaeth farchnata ichi yn seiliedig ar eich caniatâd.

2. Pa fath o wybodaeth ydym yn ei defnyddio?

Rydym yn casglu'r mathau canlynol o ddata personol amdanoch er mwyn darparu'r gwasanaeth hwn:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Rhif Ffôn
  • Cyfeiriad E-bost
  • Manylion Banc/Talu

3. A ydym yn defnyddio gwybodaeth a gafwyd o ffynonellau eraill?

Nac ydyn. I ddarparu'r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu data personol yn uniongyrchol wrthych chi yn unig ac nid ydym yn cael gwybodaeth amdanoch o unrhyw ffynhonnell arall.

4. Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor

Rydym yn defnyddio trydydd parti o'r enw MailChimp, sydd wedi'i leoli yn Unol Daleithiau America, er mwyn anfon negeseuon e-bost marchnata atoch.  

Mae'r cwmni yn rhan o'r fframwaith Privacy Shield ac wedi ardystio ei fod yn cydymffurfio ag ef yn ogystal ag ymrwymo i ymdrin â'r holl ddata personol sy'n dod i law o wledydd sy'n aelod o'r Undeb Ewropeaidd yn unol ag egwyddorion y fframwaith Privacy Shield.

Mae Ticketsolve yn darparu cyfleuster prynu tocynnau i ni ar gyfer holl ddigwyddiadau Theatrau Sir Gâr y mae angen tocynnau ar eu cyfer. Mae Ticketsolve yn prosesu eich data personol yn Iwerddon a'r Deyrnas Unedig.

Rydym yn defnyddio Microsoft Office 365 i brosesu ein dogfennau electronig o dan delerau cytundeb caeth, sy'n diogelu'ch gwybodaeth. Mae'r data personol hwn yn cael ei letya ar weinyddion y tu allan i'r DU, ond dim ond yng ngwledydd yr UE o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol.

Nid ydym yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth arall amdanoch chi y tu allan i'r DU.

5. Pwy all weld eich gwybodaeth?

Pan fyddwch yn prynu tocynnau, tocynnau rhodd neu nwyddau drwy ein Swyddfa Docynnau, bydd eich enw a'ch manylion cyswllt yn cael eu storio gan ein partner tocynnau sef Ticketsolve.

Pan fyddwch yn archebu tocynnau ar-lein, rhennir gwybodaeth rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin, Realex (cyfleuster talu) a Ticketsolve (cyfleuster tocynnau) er mwyn prosesu'r trafodiad.  

Os ydych wedi dewis derbyn negeseuon marchnata, rhennir eich data personol â MailChimp.

Rydym yn rhannu eich manylion cyswllt â sefydliadau celfyddydau eraill, pan fyddwch yn caniatáu i ni wneud hyn.

Mae rhai sefyllfaoedd penodol eraill lle mae'n bosibl y bydd yn rhaid i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch, er enghraifft:

  • Pan fo'r gyfraith yn mynnu bod y Cyngor yn rhoi'r wybodaeth
  • Pan fo angen datgelu'r wybodaeth i atal neu ddatrys trosedd
  • Pan fo datgelu er budd pennaf y person dan sylw

6. Am ba hyd y byddwn yn cadw'ch gwybodaeth

Byddwn yn cadw'ch gwybodaeth am flwyddyn ar ôl ichi archebu tocynnau yn unol â Chanllawiau'r Cyngor ar gyfer Cadw  Gwybodaeth.

7. Eich hawliau o ran Diogelu Data

Mae gennych hawl i:

  • Weld y data personol y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ei brosesu amdanoch
  • Mynnu bod unrhyw wybodaeth anghywir neu anghyflawn yn cael ei chywiro
  • Tynnu eich caniatâd i brosesu'r data yn ôl, lle mai dyna'r unig sail ar gyfer prosesu'r data
  • Cyflwyno cŵyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y corff annibynnol yn y Deyrnas Unedig sy'n diogelu hawliau o ran gwybodaeth

Mewn rhai amgylchiadau, gall fod gennych hawl i:

  • Wrthwynebu bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu
  • Dileu eich data personol
  • Rhoi cyfyngiadau ar brosesu eich gwybodaeth bersonol
  • Hygludedd data

8. Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn a'ch hawliau, cysylltwch â'r:

Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Caerfyrddin
Neuadd y Sir
Caerfyrddin
SA31 1JP

E-bost: dataprotection@sirgar.gov.uk

Mae'r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, ynghyd ag arweiniad pellach ynghylch deddfwriaeth Diogelu Data, ar gael ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Cyngor a Democratiaeth