Adolygiad Cymunedol 2023
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi penderfynu cynnal Adolygiad Cymunedol o'r holl wardiau Tref a Chymuned o fewn y sir yn ystod 2023.
Mae'r cyngor wedi cyhoeddi ei Gylch Gorchwyl ar gyfer yr adolygiad sy'n nodi'r amserlen adolygu, cwmpas yr adolygiad a sut y gellir cyflwyno sylwadau.
Cael golwg ar y Cylch Gorchwyl.
Mae'r Cylch Gorchwyl hefyd ar gael i'w archwilio yn y Swyddfa Etholiadau, Adeilad 4, Parc Myrddin, Waun Dew, Caerfyrddin, SA31 1HQ.
Beth yw Adolygiad o Gymunedau?
Mae Adolygiad Cymunedol yn broses gyfreithiol lle bydd y cyngor yn ymgynghori â'r rhai sy'n byw yn yr ardal, a phartïon eraill â diddordeb, ar y ffyrdd mwyaf addas o gynrychioli'r bobl yn y Trefi/Cymunedau yn yr adolygiad. Mae hyn yn golygu sicrhau bod gan y rhai sy'n byw yn yr ardal, a grwpiau eraill sydd â diddordeb, lais yn sut mae eu cymunedau lleol yn cael eu cynrychioli.
Ceir dau fath o adolygiad cymunedol y gellir eu cynnal gan brif gyngor, sy'n destun gwahanol adrannau o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (y Ddeddf), sef Adran 25 ac Adran 31.
Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi penderfynu cynnal adolygiad cymunedol o dan Adran 31-adolygiad o drefniadau etholiadol cymuned ("adolygiad etholiadol adran 31").
Beth gall yr adolygiad ei newid:
Gall yr adolygiad ystyried un neu fwy o'r opsiynau canlynol:
- newid nifer y cynghorwyr ar Gynghorau Tref/Cymuned
- dad-greu neu greu wardiau Cynghorau Tref/Cymuned at ddibenion ethol cynghorwyr
- nifer a ffiniau unrhyw wardiau
- nifer yr aelodau i'w hethol ar gyfer unrhyw ward
- enw unrhyw ward
Beth na all yr adolygiad ei newid:
- gwneud newidiadau o ran ffiniau cymunedol
- uno neu ddiddymu Cynghorau Tref/Cymuned
Pwy sy'n cynnal yr adolygiad
Cyngor Sir Caerfyrddin sy'n statudol gyfrifol am gynnal yr Adolygiad Cymunedol hwn. Y Cyngor Llawn fydd yn gwneud penderfyniadau ffurfiol ynglŷn â Chylch Gorchwyl yr Adolygiad ac argymhellion sy'n deillio o'r Adolygiad.
Pam yr ydym ni'n cael adolygiad
O bryd i'w gilydd, efallai y bydd angen gwneud newidiadau i ardaloedd cymunedol oherwydd newidiadau yn y boblogaeth. Gall newidiadau o'r fath gynnwys newidiadau i'r trefniadau etholiadol ar gyfer y cyngor cymuned. Mae'r newidiadau hyn yn cael eu cyflawni'n bennaf drwy adolygiadau cymunedol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (y Ddeddf).
O dan y Ddeddf, mae gan Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (y Comisiwn) ddyletswydd gyffredinol i fonitro'r trefniadau ar gyfer llywodraeth leol ledled Cymru. Mae dyletswydd ar bob prif gyngor, fodd bynnag, i fonitro'r cymunedau yn ei ardal a threfniadau etholiadol y cymunedau hynny at ddibenion ystyried a ddylid gwneud neu argymell newidiadau. Mae'r newidiadau hyn yn cael eu cyflwyno drwy adolygiad ffiniau cymunedol neu adolygiad etholiadol cymunedol. Yn ôl y Ddeddf, mae'n ofynnol i'r Comisiwn a'r prif gynghorau, wrth gyflawni eu dyletswyddau, geisio sicrhau llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.
Sut y bydd yr adolygiad yn cael ei gynnal a sut y gallwch gyflwyno sylwadau
Cyn gwneud unrhyw argymhellion neu gyhoeddi cynigion terfynol, rhaid i'r cyngor ymgynghori ag etholwyr llywodraeth leol ar gyfer yr ardal dan adolygiad ac unrhyw berson neu gorff arall (gan gynnwys awdurdod lleol) y mae'n ymddangos i'r cyngor bod ganddo ddiddordeb yn yr Adolygiad.
Felly bydd y Cyngor yn:
- cyhoeddi Hysbysiad a Chylch Gorchwyl.
- anfon copi o'r Hysbysiad a'r Cylch Gorchwyl hwn at holl Glercod Cynghorau Tref/Cymuned.
- anfon copi o'r Hysbysiad a'r Cylch Gorchwyl hwn at holl Aelodau lleol y Senedd.
Mae'r amserlen isod yn nodi dyddiadau ar gyfer 2 gyfnod o ymgynghori cyhoeddus. Bydd cyfnod cyntaf yr ymgynghoriad cyhoeddus yn dechrau ar 13 Mawrth 2023. Bydd adroddiad o'r argymhellion drafft yn cael ei ystyried gan y Cyngor Llawn ar 14 Mehefin 2023 ac yna bydd ail gyfnod o ymgynghori cyhoeddus yn dechrau ar 19 Mehefin 2023. Bydd adroddiad ar yr argymhellion terfynol yn cael ei ystyried yn ei gyfarfod ar 11 Hydref 2023.
Cam | Cam Gweithredu | Dyddiadau |
Adrodd i Rag-gyfarfod y Cabinet Y Cyngor Llawn |
Mae'r Cyngor yn cymeradwyo egwyddor yr Adolygiad Cymunedol a'i Gylch Gorchwyl. |
20 Chwefror 2023 08 Mawrth 2023 |
Ymgynghoriad Cyhoeddus 1 |
Cyfnod ymgynghori o chwe wythnos yn dechrau drwy gyhoeddi Cylch Gorchwyl yr Adolygiad. | 13 Mawrth 2023 |
Ymgynghoriad Cyhoeddus yn dod i ben. |
Archwilir ac ystyrir pob sylw |
24 Ebrill 2023 |
Ystyried cyflwyniadau/sylwadau a pharatoi adroddiad ar gyfer y cyngor llawn |
Argymhellion drafft i'w hystyried gan y Cyngor a'u cymeradwyo ar gyfer ymgynghori pellach. |
Rhag-gyfarfod y Cabinet 22 Mai 2023 Cyngor Llawn 14 Mehefin 2023 |
Ymgynghoriad Cyhoeddus 2 |
|
19 Mehefin 2023 |
Ymgynghoriad Cyhoeddus yn dod i ben. |
Archwilir ac ystyrir pob sylw |
31 Gorffennaf 2023 |
Ystyried cyflwyniadau/sylwadau a pharatoi adroddiad terfynol ar gyfer y cyngor llawn |
Y Cyngor i ystyried argymhellion terfynol. |
Rhag-gyfarfod y Cabinet 18 Medi 2023 Cyngor Llawn 11 Hydref 2023 |
Cyhoeddi argymhellion terfynol fel y cytunwyd arnynt gan y Cyngor Llawn |
Cyhoeddi argymhellion terfynol fel y cytunwyd arnynt gan y Cyngor Llawn a gwneud Gorchymyn |
16 Hydref 2023 |
Gorchymyn yn dod i rym |
Etholiadau llywodraeth leol nesaf |
Mai 2027 |
Cyngor a Democratiaeth
Y Cyngor
Cynghorwyr, ACau ac ASau
- Eich Cynghorydd Sir
- Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd a'r Cynllun Deiseb
- Lwfansau a buddiannau cynghorwyr
- Cynghorwyr Tref a Chymuned
- Aelodau Senedd Cymru
- Aelodau Seneddol
- Sut mae bod yn Gynghorydd
Adrannau'r Cyngor
Pwyllgorau a Chyfarfodydd
- Agendâu a chofnodion
- Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
- Dyddiadur y Cyngor
- Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
- Y Cabinet
- Penderfyniadau swyddogion
- Cynlluniau gwaith i'r dyfodol
- Pwyllgor Cynllunio
- Craffu
- Pwyllgor Safonau
- Cyngor Ymgynghorol Sefydlog dros Addysg Grefyddol (CYSAG)
Strategaethau a chynlluniau
Cyllideb y Cyngor
- Crynhoad Cyllideb
- Datganiad Cyfrifon
- Cronfa Bensiwn Dyfed
- Ein Rhanbarth ar Waith (ERW)
- Bargen Ddinesig Bae Abertawe
- Ffyrdd syml i arbed arian i'r Cyngor
Ymgynghori a Pherfformiad
- Ymgynghoriadau actif
- Rheoli Perfformiad
- Archwiliadau, Arolygiadau ac Adroddiadau
- Y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
- Amcanion lles
- Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2021-22
Canllawiau Brexit
Hysbysiadau cyhoeddus
Cyfamod Lluoedd Arfog
Iaith Gymraeg
Carbon Sero-net
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Etholiadau a Phleidleisio
- Etholiadau Lleol 2022
- Etholiadau Senedd Cymru
- Etholiadau'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu 2021
- Bod yn gymwys i bleidleisio
- Sut mae pleidleisio?
- Cofrestru i bleidleisio
- Diweddaru eich manylion ar y Gofrestr Etholiadol
- Diweddariad blynyddol o'r gofrestr pleidleiswyr
- Sut i optio allan o'r gofrestr agored
- Gweld y Gofrestr Etholiadol
- Is-etholiadau
- Fy Un Agosaf - Gwybodaeth etholiadol
- Etholiad Cyffredinol Seneddol 2019
- Help i Bleidleiswyr Anabl
- Adolygiad o Ffiniau Seneddol
- Deddf Etholiadau 2022 ac ID Pleidleisiwr
- Adolygiad Cymunedol 2023
Mwy ynghylch Cyngor a Democratiaeth