Strategaeth Hybu’r Iaith Gymraeg2023 - 28

Rhagair gan y Cynghorydd Glynog Davies

Mae Canlyniadau Cyfrifiad 2021 wedi cynyddu pwysigrwydd llwyddiant y Strategaeth hon eto fyth.

Wrth i Sir Gâr golli’r ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg ar draws Cymru am yr ail ddegawd yn olynol, mae’n rhaid gweithredu’n gadarn ac yn hyderus er mwyn atal y trai niweidiol hwn.

Nid oedd yr holl waith cynllunio a gweithredu a wnaed ers cyhoeddi canlyniadau 2011 ac ers llunio Strategaeth Hybu’r Gymraeg 2016-21 yn ofer fodd bynnag. Yn wir, mae’r gweithredu pwrpasol a chydlynus wedi llwyddo i arafu’r gostyngiad yn sylweddol o 6% yng Nghyfrifiad 2011 i 4% yng Nghyfrifiad 2021. Ar ben hynny, mae profiad siaradwyr Cymraeg Sir Gâr o fyw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg yn profi y tu hwnt i unrhyw ddata moel fod y Gymraeg yn fyw ac yn hyfyw yn ein Sir. Defnyddir y Gymraeg gan ein trigolion yn helaeth ym mhob ward yn ein Sir ac ym mhob rhan o fywydau ein trigolion, o’n haddysg i’n bywydau hamdden a’n bywydau gwaith.

 

Mae defnydd y Gymraeg yn Sir Gâr a’i pharhad yn gwbl hanfodol i barhad y Gymraeg yng Nghymru.

 

Hyderaf ein bod mewn sefyllfa, o fod wedi gweithredu strategaeth hybu bwrpasol ers pum mlynedd a mwy, a hynny mewn partneriaeth weithredol gadarnhaol gyda phartneriaid lu, i weld gwahaniaeth mawr i hyfywedd y Gymraeg yn Sir Gâr yn ystod cyfnod y Strategaeth hon. Mae’r Strategaeth yn elwa o waelodlin clir a nodwyd yn adroddiad y Strategaeth gyntaf ac, yn fwy na dim, yn elwa o ddealltwriaeth ymarferol go iawn o’r hyn sydd angen ei wneud a sut i’w gyflawni, wedi gweithredu’r Strategaeth gyntaf mor egnïol. Mae ein dealltwriaeth o’r ffactorau sy’n effeithio ar y Gymraeg o fewn maes yr economi, ac o fewn ein gweithleoedd yn awr yn ddatblygedig ac fe fydd y Strategaeth hon yn datblygu’r Gymraeg yn y meysydd hynny.

Fe fydd hefyd yn parhau, wrth reswm, gyda’r gwaith o gynyddu defnydd y Gymraeg a wneir eisoes yn fywiog yn y sector addysg a’r sector gymunedol drwy’r mentrau iaith, y Ffermwyr Ifanc ac eraill.

Mae’r Strategaeth hon yn datgan nod, gweledigaeth, amcanion ac is-amcanion. Mae’r nod yn un uchelgeisiol ac yn lleisio yn benderfynol ein bod am i Sir Gâr barhau i fod yn gadarnle’r
Gymraeg.


Nod: Anelu at wneud y Gymraeg yn brif iaith y Sir. Ein nod yw adfer y Gymraeg yn iaith a siaredir ac a ddefnyddir gan fwyafrif ein trigolion yn gyson, ac ym mhob agwedd ar fywyd.

Mae’r weledigaeth yn lleisio ymhellach ein hawydd i weld y Gymraeg yn norm ym mhob agwedd ar fywyd. Nid cynyddu niferoedd ac annog defnydd yw ein dymuniad yn Sir Gâr ond, yn hytrach, croesawu pobl i’r Gymraeg yn hyderus a heb ymddiheuro:

Gweledigaeth: Rydym eisiau gweld cynnydd yng nghyfran trigolion Sir Gâr sy’n gallu siarad Cymraeg ac yn defnyddio’u Cymraeg yn gyson. Rydym eisiau gweld y Gymraeg yn norm gweithio a gweithredu yn sefydliadau cyhoeddus y Sir ac yn fwyfwy cyffredin ym musnesau’r Sir. Rydym eisiau i’n pobl ifanc weld dyfodol iddynt yn y Sir mewn cymunedau Cymraeg cynaliadwy a ffyniannus, yn economaidd, yn ddiwylliannol ac yn gymdeithasol.

Rydym eisiau i bawb fod yn falch o’r Gymraeg yn Sir Gâr

 

Nodir pedwar 4 amcan lefel uchel i’r Strategaeth hon ac iddynt is-amcanion i gyrraedd y nod ac fe fydd Cynllun Gweithredu’n cael ei lunio i yrru gweithredur Strategaeth yn ei blaen.

Amcan 1 - Cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg
Amcan 2 - Cynnal balchder a hyder trigolion y Sir yn y Gymraeg a’u defnydd ohoni
Amcan 3 - Y Gymraeg yn norm yn y gweithle a’r gweithlu
Amcan 4 - Cymunedau Cymraeg sy’n ffynnu

Rydym wedi adnabod naw maes gwaith ar gyfer y Cynllun Gweithredu a fydd yn rhoi fframwaith ymarferol i ni weithredu amcanion y Strategaeth ac fe fydd cynllunio a gweithredu o fewn pob maes gwaith yn eu tro yn cyflawni’r amcanion uchod.

Bydd y Cynllun Gweithredu yn cael ei baratoi maes o law wrth i ni ymgysylltu gyda phartneriaid a chymunedau ar draws y sir.

I gloi, hoffwn ddiolch i holl bartneriaid y Cyngor Sir am eu
cydweithio parod ar y Strategaeth Hybu gyntaf o’i bath i’r Sir
fod yn statudol gyfrifol amdani. Edrychaf ymlaen yn llawn
cyffro at gyfnod arall o bum mlynedd o gydweithio er budd y
Gymraeg.

 

Cyng. Glynog Davies
Aelod Cabinet dros Addysg a’r Iaith Gymraeg,
Cyngor Sir Gâr