Strategaeth Hybu’r Iaith Gymraeg2023 - 28

Seiliau: Y Gwaith a wnaed yn Strategaeth Un

Wrth lunio Strategaeth Hybu Sir Gâr 2016-2021, sefydlwyd yfarfodydd rheolaidd o Fforwm Strategol Sirol y Gymraeg i ynorthwyo’r awdurdod lleol i gynllunio, gweithredu a chraffu ar y Strategaeth.

Adnabuwyd gwaith sylweddol y Mentrau Iaith yn ogystal â’r cyrff eraill sy’n hyrwyddo’r Gymraeg o fewn y sir fel asgwrn cefn y Strategaeth ac yna, yn ystod cyfnod y Strategaeth, cynhaliwyd 10 o gyfarfodydd gan edrych ar faes gwaith ar gyfer ei ddatblygu ym mhob cyfarfod. Ym mhob cyfarfod, cafwyd cyflwyniadau gan swyddogion o’r Cyngor Sir a chynrychiolwyr allweddol sy’n gweithredu yn y meysydd dan sylw. Yn dilyn y drafodaeth, lluniwyd camau gweithredu o’r newydd ar gyfer y maes gwaith. Gosodwyd y camau gweithredu mewn Cynllun Gweithredu a ddiweddarwyd fesul cyfarfod.

Parhaodd y Cynllun Gweithredu yn ddogfen fyw felly drwy gydol y cyfnod. Y tu ôl i gyfarfodydd Fforwm cynhaliwyd cyfarfodydd gydag adrannau amrywiol o fewn y Cyngor i gynllunio ar gyfer y Gymraeg wrth baratoi i gyflwyno i’r Fforwm ac yna yn dilyn y cyfarfod i gynnig ac i ymrwymo i gamau gweithredu newydd.

Ym Medi 2019, cychwynnodd Meri Huws gadeirio cyfarfodydd y Fforwm yn chwarterol, gan ddarparu sefydlogrwydd ac arweiniad i’r trafodaethau a’r cydgynllunio. Bu’n rhaid diwygio cynnwys yr amserlen o ganlyniad i COVID-19 wrth reswm. Roedd y cyfnod clo wedi bwrw nifer fawr o ddarparwyr gwasanaethau a gweithgarwch cymunedol yn drwm ac roedd yn rhaid oedi ar y gwaith craffu ar rai meysydd o ganlyniad. Nid ataliwyd y cyfarfodydd fodd bynnag. Trosglwyddwyd yn syth i blatfform digidol heb golli dim o fomentwm nac ymrwymiad yr aelodau.

Yr amcanion a adnabuwyd ar gyfer y strategaeth oedd:

  1. Caffael sgiliau
  2. Cynyddu hyder a defnydd
  3. Effeithio ar symudiadau poblogaeth
  4. Ardaloedd blaenoriaeth
  5. Marchnata a hyrwyddo

Y meysydd gwaith a adnabuwyd ar gyfer cyrraedd yr amcanion
hyn ac a ddarparodd ganolbwynt i weithredu’r Cynllun
Gweithredu ac i gyfarfodydd y fforwm oedd:

  • Cyn-oed ysgol
  • Cymraeg i Oedolion a Chymraeg yn y Gweithle
  • Hamdden
  • Ieuenctid
  • Tai
  • Cynllunio a chymathu mewnfudwyr (ac adroddiad
  • Symud Sir Gâr Wledig Ymlaen)
  • Adfywio
  • Sector preifat
  • Pobl ifanc a’r byd gwaith
  • Ardaloedd blaenoriaeth.

 

Lluniwyd adroddiad manwl i bwyso a mesur effaith y Strategaeth yn 2022 a daethpwyd i’r casgliad canlynol ar gynnydd a diffyg cynnydd yn erbyn yr amcanion.

Cynnydd da Diffyg cynnydd
Gwaith marchnata’r Gymraeg yn y maes gofal plant, trosglwyddo iaith ac addysg : creu adnoddau Dim digon o berchnogaeth o’r adnoddau hyrwyddo a dim prosesau sefydlog a chyson i’w dosbarthu
Nifer cynyddol o feithrinfeydd preifat cyfrwng Cymraeg Darpariaeth Gofal Plant / cyn oed ysgol. Cynnydd y lleoliadau Cymraeg wedi darfod, trafferthion recriwtio
Datblygiadau yn y maes dysgu Cymraeg i Oedolion, gan gynnwys gweithredu ar-lein, y Ganolfan yn casglu data defnyddiol a phrosbectws ar-lein ar y cyd, yn golygu bod negeseuon yn gallu bod yn fwy effeithiol a mynediad i wersi yn fwy llyfn Niferoedd dysgwyr Cymraeg i oedolion sy’n byw yn Sir Gâr yn gymharol isel yn dilyn COVID-19
Arlwy da o gyrsiau Cymraeg i athrawon ac arbenigedd mewn darpariaeth ddwys gan Brifysgol y Drindod Dewi Sant Dim digon o gydgynllunio rhwng y ddarpariaeth gymunedol a gwaith hyrwyddo’r Gymraeg i atgyfnerthu targedau’r Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (SCGA)
Arlwy da a mwy cydlynus o gyfleoedd anffurfiol i ddysgwyr Dim digon o’n hathrawon yn cymryd mantais o’r arlwy dysgu sydd ar gael
Polisïau cyrff cyhoeddus yn annog datblygu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Darpariaeth o gyrsiau Cymraeg yn y gweithleoedd amrywiol a phwrpasol Ymdrechion i hyrwyddo arlwy anffurfiol ar y cyd i ddysgwyr heb gynyddu niferoedd
Coleg Sir Gâr yn cynyddu nifer y cyrsiau gall myfyrwyr eu dilyn drwy gyfrwng y Gymraeg. Cydweithio rhwng Coleg Sir Gâr a’r Brifysgol ar ddatblygu llwybrau o astudio pellach i uwch trwy gyfrwng y Gymraeg Dim digon o gynnydd mewn sgiliau Cymraeg yn y gweithle
  Diffyg data ar bobl ifanc Sir Gâr mewn addysg uwch a phellach sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg
Cynnydd da Diffyg cynnydd
Y Mentrau wedi addasu eu ffyrdd o weithredu i ymateb i sefyllfa’r Pandemig. Hyblygrwydd a gwytnwch yn y cyrff sy’n darparu’n gymunedol, e.e. CFfI Effaith y pandemig ar aelodaeth yr Urdd.
Effaith y pandemig ar yr holl sefydliadau sy’n trefnu digwyddiadau i’r cyhoedd
Canolfan yr Egin yn fan deniadol i ymgynnull, rhyngweithio a defnyddio’r Gymraeg Effaith y pandemig ar weithgarwch yr Atom
Sefydlu canolfan newydd gyfoes, ganolog a hyfyw yn Llandeilo yn gyrchfan naturiol i’r Gymraeg Effaith y pandemig a materion staffio ar ddarpariaeth Menter Gwendraeth Elli, yn enwedig yn Llanelli
Cyfleoedd anffurfiol i ddefnyddio’r Gymraeg yng ngweithluoedd y Cyngor Sir ac eraill Diffyg cynnydd mewn gweinyddu yn Gymraeg er mwyn creu gweithleoedd lle mae defnyddio’r Gymraeg yn naturiol, sy’n caniatáu i bobl gynnal eu hyder yn eu sgiliau Cymraeg
Ymdrechion penodol wedi eu gwneud o fewn y maes hamdden gyda Theatrau Sir Gâr yn darparu llawer mwy o arlwy Cymraeg a chanolfannau hamdden y sir a’r marchnadoedd yn chwarae cerddoriaeth Gymraeg Ymdrechion i ganfod ffyrdd o farchnata gweithgareddau cymunedol Cymraeg ar y cyd ac yn fwy egnïol wedi pylu
  Y gwaith o ddatblygu gallu tiwtoriaid nofio i ddarparu’n Gymraeg a dwyieithog heb olygu cynnydd digonol mewn darpariaeth o wersi nofio Cymraeg. Dim system wedi ei sefydlu sy’n cynnig nac yn darparu gwersi Cymraeg yn ddigon cyson
  Gwaith Arweinwyr iaith o fewn adrannau ein cyrff cyhoeddus heb ddatblyg
Cynnydd da Diffyg cynnydd
Creu’r Pecyn Croeso Diffyg defnydd o’r pecyn croeso. Diffyg defnydd o’r pecyn croeso
Cychwyn ar y gwaith o gydlynu ymdrechion datblygu iaith a datblygu economi. Cychwyn cadarn o ran disgwyliadau achyfleoedd ieithyddol ym Mhentre Awel. Trafferthion recriwtio siaradwyr Cymraeg i’r gweithlu. Pobl ifanc ddim yn gwerthfawrogi mantais eu sgiliau Cymraeg ar gyfer y gweithle.
Polisïau a gweithredoedd yn y maes tai yn cynyddu darpariaeth tai fforddiadwy, yn ennyn pobl leol i’r ddarpariaeth ac yn lleihau nifer y tai gwag yn y sir gan greu amodau ffafriol i drigolion lleol i aros yn y sir.. Prosiect y Deg Tref ddim bob amser yn gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd i ddatblygu hyfywedd y Gymraeg yn y cymunedau wrth ddatblygu’r economi
Gwaith cynllunio iaith o fewn proses y CDLI, yn enwedig datblygu methodoleg newydd i fesur effaith defnydd tir ar y Gymraeg. Diffyg arweiniad cenedlaethol a gwybodaeth gadarn ar effaith adeiladu ar yr iaith Gymraeg o safbwynt niferoedd y lleoliadau a ganiateir ar gyfer adeiladu tai a’u lleoliadau daearyddol.
Cryfhau’r polisi enwi tai a strydoedd y Cyngor. Diffyg mcydlyniant (neu gorff arweiniol) ymdrechion i baratoi pobl ifanc y Sir i’r byd gwaith a dwyn perswâd arnynt i ddefnyddio a datblygu eu sgiliau iaith i’w defnyddio yn y gweithle, a’u hannog i ddatblygu gyrfaoedd mewn meysydd ble mae angen siaradwyr Cymraeg yn y gweithlu o fewn y sir.
Sefydlu ac ehangu prosiect Profi gan Fenter Gorllewin Sir Gâr.. Diffyg darpariaeth cyfrwng Cymraeg o fewn elfen astudio a chymhwyso prentisiaethau
Sefydlu darpariaeth prentisiaethau cyfrwng Cymraeg yr Urdd a meithrin yn y meysydd gofal plant, chwaraeon, ac awyr agored Diffyg gweithleoedd y Sir i ddarparu a hyrwyddo prentisiaethau cyfrwng Cymraeg
Cychwyn ar y gwaith o wella darpariaeth prentisiaethau cyfrwng Cymraeg yn y Sir. Diffyg corff arweiniol i gydlynu ymdrechion i wella sefyllfa prentisiaethau cyfrwng Cymraeg yn y sir
Ymdrechion Coleg Sir Gâr i fagu hyder pobl ifanc yn eu sgiliau Cymraeg o fewn meysydd astudio sy’n arwain at waith lle mae sgiliau Cymraeg yn benodol o angenrheidiol.. Ariannu Swyddogion Helo Blod Lleol yn dirwyn i ben.

Creu’r adnodd electronig ‘Y Gymraeg mewn Busnes’, a’i ddosbarthu drwy brosiectau fel rhai Menter a Busnes.

Gweithredu nifer o brosiectau penodol i gynyddu defnydd y Gymraeg yn y sector preifat.

 
Cyllid datblygu’r economi yn cael ei raeadru at brosiectau penodol i hyrwyddo’r Gymraeg.  
Cynnydd da Diffyg cynnydd
Denu cyllid i beilota prosiect yn yr Ardaloedd Blaenoriaeth Cyfnod byr y prosiect peilot
Cydweithio’r tair Menter ar gyflawni ac adrodd ar y prosiect Anhawster capasiti’r Mentrau i weithio’n ficro mewn ardaloedd penodol a darparu gweithgarwch ar draws yr ardal hefyd
  Diffyg hyblygrwydd cyrff hyrwyddo’r Gymraeg cenedlaethol i mymateb i ofynion sirol oherwydd cynlluniau a thargedau cenedlaethol
  Ffocysu ar ardaloedd digon penodol i symbylu newid
Gwaith cychwynnol Datblygu’r Gymraeg yn Llanelli: ymdrech i weithredu gyda sail tystiolaeth gadarn a gweithredu’n strategol a phartneriaethol  
Cynnydd da Cynnydd da
Yr holl adnoddau hyrwyddo’r Gymraeg a grëwyd Diffyg system effeithiol i ddosbarthu a defnyddio’r adnoddau a grëwyd
Rhai enghreifftiau da o ddosbarthu’r deunyddiau Diffyg ymgyrchoedd penodol ar gyfer hyrwyddo’r Gymraeg
Ymroddiad holl gyrff y Fforwm i drefnu gweithgarwch ar ddyddiau cenedlaethol hyrwyddo’r Gymraeg Diffyg dylanwad ar gyrff allanol i ddosbarthu deunyddiau hyrwyddo’r Gymraeg
Ymdrechion i greu sianeli i rannu adnoddau hyrwyddo Rhai cyrff yn dal i golli cyfle i ddosbarthu adnoddau a grëwyd gan gyrff erail

Rhaid cofio bod yna waith sylweddol wedi digwydd ers diwedd cyfnod y Strategaeth ddiwethaf yn ogystal, yn enwedig yn narpariaeth gymunedol ardal Llanelli, ac yn ailsefydlu darpariaeth gynhwysfawr i gefnogi defnydd plant a phobl ifanc o’r Gymraeg y tu allan i addysg ffurfiol wedi COVID-19.

Gwnaed hefyd waith partneriaeth effeithiol i gynyddu ymwneud trigolion y Sir yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023. Bydd y gwaith hwn yn cael ei adlewyrchu a’i ddatblygu yn Strategaeth Hybu 2023-2028.

Bu’r Fforwm hefyd yn ymdrechu i ddylanwadu ar y meysydd gwaith uchod drwy godi materion gyda chyrff eraill i geisio cael effaith ar yr elfennau o bolisi oedd y tu allan i gyrraedd y cyrff ar y Fforwm Sirol Strategol ar lefel sirol. Llythyrwyd yLlywodraeth a’r Comisiynydd am brentisiaethau cyfrwng Cymraeg, am weithdrefnau ymgynghori’r Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg, am reoliadau hysbysebu ac, yn fwy diweddar llythyrwyd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus sirol am y Cynllun Llesiant drafft.

Aeddfedodd y Fforwm felly i geisio dylanwadu ar lefel strategol i faterion sy’n effeithio ar y Gymraeg ac fe fydd yn parhau i wneud hyn yn Strategaeth Hybu 2023-28 wrth i faterion godi.