Strategaeth Hybu’r Iaith Gymraeg2023 - 28

Cyflwyniad: Cyd-destun ieithyddol

Wrth lunio’r Strategaeth hon, rydyn ni newydd gael canlyniadau cychwynnol Cyfrifiad 2021. Mae nifer a chanran siaradwyr Cymraeg Sir Gaerfyrddin wedi disgyn unwaith yn rhagor.

Rydyn ni wedi colli 6,000 o siaradwyr Cymraeg, sy’n gyfystyr â 4 pwynt canran. Mae’r nifer sy’n ystyried eu hunain yn siaradwyr Cymraeg bellach yn 72,800 sy’n golygu fod y Sir wedi colli ei safle o fod yr awdurdod lleol gyda’r mwyaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Bellach, mae Gwynedd wedi cymryd y fantell honno.

Er bod Sir Gaerfyrddin wedi gweld y cwymp mwyaf yng nghanran y siaradwyr Cymraeg o gymharu a siroedd eraill Cymru, a hynny unwaith yn rhagor, mae’r gostyngiad yn y ganran yn llai o ostyngiad nag yn y Cyfrifiad diwethaf. Mae’r trai wedi arafu ac mae hynny’n galonogol, ond does dim amheuaeth bod angen gweithredu’n fwy egnïol fyth os ydyn ni am ddal ein gafael o fewn y Sir ar ardaloedd lle mae’r Gymraeg yn gyfrwng naturiol ein hymwneud â’n gilydd.

Mae’r canlyniadau cychwynnol yn nodi o’r 112 o ardaloedd bach yn Sir Gaerfyrddin, roedd canran y bobl tair oed neu’n hŷn a oedd yn gallu siarad Cymraeg yn amrywio o 62.2% (ardal o amgylch Brynaman) i 15.0% (ardal gyfagos i Lanelli). Ar yr olwg gyntaf, mae rhai wardiau wedi gweld cynnydd bychan yn nifer y siaradwyr Cymraeg, ac fe fydd yn ddadlennol dadansoddi achosion y twf hwnnw mewn ardaloedd fel Gorslas.

Ond mae’n wir dweud hefyd fod y lleihad mwyaf yn yr ardaloedd hynny sy’n gartref naturiol traddodiadol i’r Gymraeg, lle mae dwysedd y boblogaeth yn draddodiadol yn siaradwyr Cymraeg mewn ardaloedd fel Dyffryn Aman.

Mae’r Gymraeg yn dal i fod yn gryf yn yr ardaloedd yma, ond mae’n colli tir yn gyflym. Fe fydd dadansoddi’r rhesymau y tu ôl i’r dirywiad yma’n hanfodol ar gyfer gweithredu Strategaeth Hybu effeithiol ar gyfer y Sir. Bydd adnabod y tueddiadau trosglwyddo iaith a symudoledd poblogaeth, er enghraifft, yn gymorth i ni fedru adnabod pa gamau a fyddai’n arwain at newid arferion yn yr ardaloedd daearyddol yma.

O gymharu â’r sefyllfa ar draws Cymru, mae canlyniadau cychwynnol y Cyfrifiad yn awgrymu nad ydy’r casgliadau cychwynnol mor berthnasol i sefyllfa Sir Gâr. Nid yw’r lleihad sylweddol yn nifer y plant ieuengaf sy’n medru siarad Cymraeg, sy’n cael ei briodoli i raddau helaeth i gyfnod COVID-19 pan oedd methrinfeydd ac ysgolion ar gau, wedi digwydd yn Sir Gâr.

Mae’r lleihad yn ein niferoedd ni wedi amlygu ei hun yn yr oed 45+ ac mae’r ganran wedi gostwng fwyaf yn yr oed 50 hyd at 80 oed. Eto, bydd dadansoddiad pellach o symudoledd poblogaeth yn taflunio goleuni arwyddocaol ar y newid hwn.

Mae’r gwaith cynllunio ar gyfer y Strategaeth hon wedi cael ei gwblhau cyn i ganlyniadau’r Cyfrifiad gael eu cyhoeddi. Ac mae’n dderbyniol fod y gwaith o gynllunio wedi ei selio ar adroddiad y Strategaeth ddiwethaf, gyda’r manylder ystadegol ac ansoddol sydd ynddo, yn hytrach na ffigurau moel y cyfrifiad.

Mae yna gyfyngiadau i ddefnyddioldeb ffigurau’r Cyfrifiad gan ystyried effeithiau cyfrifo yn ystod cyfnodau clo COVID-19 a’r gwahaniaeth arwyddocaol sydd rhwng y ffigurau a ffigurau arolygon eraill megis cyfrifiad blynyddol y boblogaeth. Wedi dweud hynny, fe fydd yna sylw yn cael ei roi yn Strategaeth 2 i ddadansoddi’r ffigurau pan fyddant ar gael yn eu cyfanrwydd ac i gynllunio rhai blaenoriaethau o ganlyniad.

Mae Ystadegau Arolwg Blynyddol y Boblogaeth gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn rhoi darlun tra gwahanol i ni. Ym Mehefin 2011, cofnodir 82,300 (47.2%) o siaradwyr Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin, sy’n gosod y Sir yn ail i Wynedd o ran nifer. Yn ôl yr un ffynhonnell, ceir 94,000 o siaradwyr Cymraeg yn Sir Gâr ym Mehefin 2021, (52.5%), sy’n ein gosod gyda’r nifer uchaf o siaradwyr yng Nghymru. Felly, nid yn unig y mae’r ffigurau yma’n sylweddol uwch na ffigurau’r Cyfrifiad, ond maent hefyd yn dangos tuedd gwbl groes i’r Cyfrifiad o dwf mewn niferoedd a chanrannau yn Sir Gaerfyrddin, fel yn y siroedd eraill.

Gwyddwn am bwysigrwydd data ar ddefnydd Cymraeg yn ogystal ar gyfer cynllunio ieithyddol ystyrlon. Mae’n gwbl allweddol ein bod yn cynnal cymunedau lle mae’r Gymraeg yn norm cymunedol a chymdeithasol ac nid yw nifer y rhai sy’n medru’r Gymraeg ond hanner y darlun.

Yn ôl Arolygon Defnydd Iaith y Comisiynydd a’r Llywodraeth gostyngodd canran y siaradwyr Cymraeg sy’n defnyddio’r Gymraeg bob dydd yn Sir Gâr o 80% i 71% rhwng Arolwg 2004-06 ac Arolwg 2013-15. Roedd hyn yn debyg iawn i’r cyfartaledd cenedlaethol ac yn cyfateb i golledion canrannol y siroedd tebyg i ni o ran dwysedd siaradwyr Cymraeg.

Yn anffodus, gorffennwyd Arolwg Defnydd 2019-20 yn gynnar o achos y pandemig. Golygodd hyn fod y sampl draean yn is na’r arolygon blaenorol ac nid oedd modd dadansoddi canlyniadau’r arolwg yn ôl awdurdod lleol fel a wnaed yn yr arolygon blaenorol.

Roedd y canlyniadau cenedlaethol yn awgrymu fodd bynnag fod ‘dros hanner (56%) yn siarad yr iaith bob dydd (waeth beth fo lefelau eu rhuglder) o’i gymharu â 53% yn ôl Arolwg Defnydd Iaith 2013-15, a bron i un ym mhob pump yn siarad yr iaith bob wythnos (19%, union yr un ganran ag yn 2013-15)’.

Ymddengys felly fod y Gymraeg yn cael ei chynnal yn weddol lwyddiannus fel iaith gymunedol a chymdeithasol ar hyn o bryd. Yn amlwg, fe fyddai cael data ystyrlon a chymharol ar ddefnydd
iaith yn ddefnyddiol iawn i fesur effaith Strategaeth Hybu fel
hwn i’r dyfodol.

Ar ddechrau cyfnod Strategaeth Hybu Un, gwnaed ymdrech i ganfod mwy o ddata lleol ar agweddau ac ymwybyddiaeth o’r Gymraeg. Gweinyddwyd holiadur drwy’r mentrau iaith yn bennaf a roddodd ychydig o wybodaeth ddefnyddiol i ni.

Roedd yr adroddiad yn nodi fod 97% o’r ymatebwyr yn ystyried dwyieithrwydd yn fanteisiol ac mai ‘cyfleodd gwaith’ oedd fwyaf blaengar ym meddyliau pobl wrth feddwl am y manteision hynny. Canfuom mai dim ond hanner yr ymatebwyr oedd yn deall na fyddai disgyblion oedd yn derbyn addysg cyfrwng Saesneg yn y sir yn debygol o fod yn ddwyieithog cyn gadael yr ysgol.

Roedd hefyd modd cadarnhau fod ymwybyddiaeth yr ymatebwyr o’r cyrff sy’n hyrwyddo’r Gymraeg yn y sir yn gymharol uchel (rhwng 67% a 82 %). Er gwaethaf defnyddioldeb yr arolwg hwn, roedd y sampl yn rhy fach i fod yn gynrychiadol ac roedd yn rhaid derbyn, yn ogystal, fod yr ymatebwyr yn dod o gynulleidfaoedd arferol y mentrau iaith, yn hytrach na rhoi gwybodaeth i ni am drigolion y sir yn ehangach.

Er bod yna fwriad i ail-redeg yr arolwg ar ddiwedd cyfnod y strategaeth, penderfynwyd nad oedd adnodd ar gael i’w weinyddu, ac er y byddai wedi bod yn ddefnyddiol i ddeall a oedd ein hymgyrch i godi ymwybyddiaeth o addysg Gymraeg wedi cael effaith, penderfynwyd nad oedd y seilwaith angenrheidiol ar waith lle ar lefel sirol i ganfod data ystyrlon a chynrychioladol.

Erys felly’r bwlch yma o ran canfod effaith ymgyrchoedd ac ymyraethau’r strategaeth y tu hwnt i ffigurau’r Cyfrifiad ar allu ieithyddol ein trigolion.