Anghenion dysgu ychwanegol: Y broses o wneud penderfyniadau

2. Beth i'w ddisgwyl mewn cyfarfod sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn?

Mae cyfarfod sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn ffordd o benderfynu a oes gan blentyn neu berson ifanc anghenion dysgu ychwanegol a pha gymorth y bydd ei angen arno. Mae barn y plentyn neu'r person ifanc yn ganolog i'r drafodaeth ac unrhyw benderfyniadau a wneir. Bydd hyn yn canolbwyntio ar eu dyheadau, gan wella'r hyn sy'n gweithio a newid yr hyn a allai fod yn well. Mae cyfarfodydd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn arfer da hyd yn oed pan nad ydynt yn gyfarfodydd adolygu ffurfiol.

Dylai cyfarfod sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn fod ag awyrgylch hamddenol, fel bod yr holl gyfranwyr yn teimlo'n gyfforddus a bod eu barn yn cael ei gwerthfawrogi. Mae popeth wedi'i osod i fod mor anffurfiol â phosibl. Bydd un person yn hwyluso a sicrhau bod pawb yn gallu cyfrannu. Rhaid cytuno ar y camau nesaf ar y cyd.

Bydd pobl sy'n cefnogi neu'n gweithio gyda'r plentyn neu'r person ifanc yn cael eu gwahodd i'r cyfarfod. Gall y plentyn neu'r person ifanc wahodd unrhyw un y mae'n dymuno ei fod yn mynychu.

Gwybodaeth i'w rhannu:

  • Yr hyn yr ydym yn ei hoffi ac yn ei edmygu am y plentyn / person ifanc
  • Dyheadau'r plentyn / person ifanc
  • Beth sy'n bwysig i
  • Beth sy'n bwysig ar gyfer
  • Y ffordd orau o gefnogi
  • Beth sy'n gweithio / allai fod yn well
  • Unrhyw gwestiynau i'w hystyried

Pan fydd yr holl wybodaeth wedi'i chasglu, bydd y trefnydd yn sicrhau y cytunir ar ganlyniadau a chymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Bydd rhywfaint o'r wybodaeth hon yn cael ei chynnwys ym Mhroffil Un Dudalen y dysgwr.

Dolenni Cyswllt: