Anghenion dysgu ychwanegol: Y broses o wneud penderfyniadau

5. Pwy sy'n gallu cefnogi gwneud penderfyniadau?

Rydym yn mabwysiadu dull partneriaeth o weithio gyda theuluoedd a dysgwyr. Mae ein Gwasanaeth Partneriaeth â Rhieni yn rhoi cymorth a chyngor i deuluoedd a dysgwyr sydd â phryderon. Mae cydweithredu'n bwysig er mwyn nodi anghenion a chynllunio i gefnogi plant a phobl ifanc ag ADY a gall gynnwys mewnbwn gan amrywiaeth o bartneriaid, megis Seicolegwyr Addysg a Phlant, Athrawon Ymgynghorol, gweithwyr iechyd proffesiynol ac ati.

Gall gwasanaethau arbenigol gynnig cyngor a chymorth i ysgolion gyda strategaethau ac awgrymu ymyriadau a darpariaeth. Mewn rhai achosion, bydd gwasanaethau arbenigol yn darparu'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol . Mae angen dull amlddisgyblaethol o nodi a chefnogi plant a phobl ifanc a allai fod ag anghenion dysgu ychwanegol. Gall gwasanaethau arbenigol:

  • cefnogi ysgolion i nodi a diwallu anghenion plant a phobl ifanc, megis darparu cyngor a chymorth ar strategaethau a gwahaniaethu;
  • darparu hyfforddiant ysgol gyfan ar ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc;
  • rhoi cyngor ar Gynlluniau Datblygu Unigol a thargedau;
  • cefnogi ysgolion ac awdurdodau lleol i nodi anghenion a rhoi cyngor ar ddarpariaeth ddysgu ychwanegol i'w ddarparu, neu sy'n cael ei ddarparu ar hyn o bryd;
  • darparu asesiadau mwy arbenigol o’r angen i bennu opsiynau cymorth;
  • rhoi cyngor ar offer arbenigol, gan gynnwys hyfforddiant i staff yr ysgol ar sut i'w ddefnyddio, ei gynnal a'i gadw, a sut i gefnogi'r plentyn neu'r person ifanc i'w ddefnyddio;
  • cefnogi teuluoedd i'w helpu i ddeall anghenion y dysgwr a'r ffordd orau o'i gefnogi;
  • meithrin gallu i wella'r hyn y gall ysgolion ei gyflawni;
  • darparu cyswllt â sefydliadau trydydd sector arbenigol;
  • darparu cymorth penodol yn ystod cyfnodau pontio.

Gwasanaeth Partneriaeth â Rhieni