Derbyn i Ysgolion 2024-2025- Gwybodaeth i Rieni

ADRAN A - Derbyn i Ysgolion Sir Gaerfyrddin

Ffeithiau Allweddol


• Nid oes hawl awtomatig i le mewn ysgol.
• Rhaid ichi gyflwyno cais i awdurdod derbyn er mwyn i'ch plentyn cael lle mewn ysgol.
• Mae Terfyn ar nifer ddisgyblion y gellir eu derbyn i ysgol mewn blwyddyn. Ar ôl cyrraedd y terfyn, ni chaniateir derbyn rhagor o ddisgyblion.
• Os oes gan eich plentyn anghenion dysgu ychwanegol fe'ch cynghorir i gysylltu â Phennaeth yr ysgol neu Swyddog Cynnydd Disgyblion yr Adran cyn cyflwyno cais.
• Gwnewch gais erbyn y dyddiadau cau - gweler yr Amserlen Derbyn i Ysgolion.
• Os byddwch yn cyflwyno cais ar ôl y dyddiadau hyn caiff ei drin fel cais hwyr a bydd yn cael ei ystyried ar ôl y rhai a dderbyniwyd cyn y dyddiad cau. Bydd hyn yn lleihau'r siawns o gael lle i’ch plentyn mewn ysgol o’ch dewis.
• Os cynigir lle i'ch plentyn, mae'n rhaid ichi dderbyn y lle erbyn y dyddiad a bennwyd neu bydd y cynnig yn cael ei dynnu'n ôl a chynigir y lle i ddisgybl arall.

1. Awdurdodau Derbyn

Rheolir y drefn o dderbyn plant i ysgolion gan Awdurdod Derbyn.

Ysgolion Cymunedol ac Ysgolion Gwirfoddol a Rheoledig yn Sir Gaerfyrddin

Yn achos ysgolion cymunedol (a adnabuwyd gynt fel ysgolion sirol) ac ysgolion
Gwirfoddol a Rheoledig yn Sir Gaerfyrddin, Awdurdod Lleol (ALl) Sir Gaerfyrddin
yw'r Awdurdod Derbyn. Mae manylion cyswllt Cyngor Sir Caerfyrddin fel a
ganlyn:
Yr Adran Addysg a Phlant
Neuadd y Sir
Caerfyrddin
SA31 1JP
Ffon: 01267 246449
E-bost: derbyniadau@sirgar.gov.uk

 

  • 1

    Ar gyfer ymholiadau ynghylch Ysgolion Eglwysig Gwirfoddol a Gynorthwyir cysylltwch â'r canlynol:

    Ysgolion yr Eglwys yng Nghymru

    Y Parchedig John Cecil,

    Cyfarwyddwr Addysg yr Esgobaeth,

    Y Ficerdy,

    Steynton,

    Aberdaugleddau,

    Sir Benfro SA73 1AW.

    Ffôn: 01646 692974

    E-bost: revjohncecil@btinternet.com

    Ysgolion Catholig

    Mr Paul White,

    Y Cyfarwyddwr Addysg Esgobaethol,

    Swyddfa Addysg yr Esgobaeth,

    Y Swyddfeydd,

    27 Stryd y Cwfaint,

    Greenhill,

    Abertawe SA1 2BX.

    Ffôn: 01792 652757 

    E-bost: education@menevia.org.uk

  • 2

    Y canlynol yw enwau, cyfeiriadau a rhifau ffôn yr awdurdodau addysg lleol cyfagos:

    CEREDIGION
    Cyfarwyddwr Strategol Dysgu a Phartneriaethau,
    Cyngor Sir Ceredigion,
    Canolfan Rheidol,
    Rhodfa Padarn,
    Llanbadarn Fawr,
    Aberystwyth SY23 3UE.
    Ffôn: 01970 633656

    ABERTAWE
    Y Cyfarwyddwr Pobl,
    Dinas a Sir Abertawe,
    Neuadd y Ddinas,
    Abertawe SA1 4PE.
    Ffôn: 01792 637521

    SIR BENFRO
    Y Cyfarwyddwr Plant ac Ysgolion Cyngor Sir Penfro,
    Neuadd y Sir,
    Hwlffordd SA61 1TP.
    Ffôn: 01437 764551

    POWYS
    Pennaeth y Gwasanaeth Ysgolion,
    Cyngor Sir Powys,
    Neuadd y Sir,
    Powys,
    Spa Road East,
    Llandrindod LD1 5LG.
    Ffôn: 01597 826422

    CASTELL-NEDD PORT TALBOT
    Y Cyfarwyddwr Addysg,
    Hamdden a Dysgu Gydol Oes,
    Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot,
    Y Ganolfan Ddinesig,
    Port Talbot SA13 1PJ.
    Ffôn: 01639 686868