Derbyn i Ysgolion 2024-2025- Gwybodaeth i Rieni

Apeliadau yn ymwneud â derbyn disgyblion i ysgolion cymunedol/ysgolion gwirfoddol a reolir cynradd neu uwchradd

Os na fydd rhieni'n llwyddo i gael lle i'w plentyn yn eu dewis ysgol, fe’u hysbysir drwy e-bost o’r rheswm/rhesymau dros hyn a hefyd am eu hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad a’r broses o wneud hynny.

Ar gyfer Ysgolion Cymunedol ac Ysgolion Gwirfoddol a Reolir bydd yr Awdurdod yn trefnu bod Panel Apêl Annibynnol yn ystyried yr apeliadau. Cynhelir y broses apeliadau yn unol â Chôd Apelau Derbyn i Ysgolion Llywodraeth Cymru.

Nid oes hawl i apelio yn achos gwrthod derbyn i ddarpariaeth Blynyddoedd Cynnar, lleoedd rhan-amser i blant 3 oed.

Bydd apeliadau'n cael eu cynnal yn unigol neu fel grŵp os oes mwy nag un apêl ar gyfer yr un ysgol, ac eithrio pan fydd y corff neu'r cyrff sy'n gyfrifol am wneud trefniadau apelio yn rhoi cyfarwyddyd fel arall. Bydd rhieni'n cael cyfle i gyflwyno eu hachos yn breifat naill ai'n uniongyrchol neu gyda chymorth cynrychiolydd a ddewisir ganddynt.

Bydd y Clerc yn hysbysu pob parti o benderfyniad y Panel, a fydd yn rhwymo’r Awdurdod, y Corff Llywodraethu a'r rhieni.

Rhaid i apêl gan rieni/Gwacheidwaid yn erbyn gwrthod lle mewn Ysgol Gymunedol neu Wirfoddol a Rheoledig gael ei chyflwyno drwy'r e-ffurflen apeliadau.

Os bydd angen tystiolaeth feddygol bydd angen ichi ddarparu copïau o adroddiadau sy'n ymwneud â'r diagnosis gan yr Ymgynghorydd a/neu'r Arbenigwr perthnasol. Bydd gan Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir eu trefniadau eu hunain ar gyfer cynnal apeliadau annibynnol. Yn ogystal â'r uchod, ni fydd unrhyw beth yn y broses hon yn atal rhiant â phlentyn sydd â datganiad o anghenion addysgol y gwrthodwyd lle i'r plentyn hwnnw yn yr ysgol a enwir yn y datganiad, rhag cael adolygiad o benderfyniad o'r fath gan Dribiwnlys AAA.

Nifer yr Apeliadau ar gyfer mynediad arferol i Ysgolion Sir Gaerfyrddin ar gyfer y flwyddyn academaidd 2022/23


Enw'r Ysgol Nifer yr Apeliadau ar gyfer 22/23 Apeliadau Llwyddiannus ar gyfer 22/23
Cynradd (N2)    
Bryn Teg 1 1
Brynaman 9 6
Cae'r Felin 1 0
Carreg Hirfaen 2 2
Cefneithin 7 3
Ffairfach 1 1
Gorslas 5 4
Johnstown 2 2
Llangunnor 2 1
Nantgaredig 2 2
Parcyrhun 3 3
Pontyberem 8 5
Rhydaman 3 2
Saron 7 4
Y Dderwen 1 1
Cyfanswm 54 37
Uwchradd (Blwyddyn 7)    
Bro Dinefwr 17 12
Bryngwyn 54 14
Coedcae 10 9
Dyffryn Aman 4 3
Dyffryn Taf 12 7
Cyfanswm 117 62