Derbyn i Ysgolion 2024-2025- Gwybodaeth i Rieni

Pryd i wneud cais

Amserlen Cyflwyno Ceisiadau Derbyn i Ysgolion ‐ Ysgolion Cymunedol ac Ysgolion Gwirfoddol a Reolir

Y Ddarpariaeth Ystod Dyddiad Geni Dechrau Ysgol Dyddiad Cau ar gyfer Cyflwyno Cais Dyddiad Llythyron Cynnig Llefydd Dyddiadau Cau am Apeliadau
Addysg Feithrin Plant 3 blwydd oed
(Rhan-Amser)
1 Medi 2021 tan 31 Awst 2022
Ionawr, Ebrill, Medi 2025 31 Gorffennaf 2024 Hydref 2024 Dim hawl i apelio

Addysg Plant 4 blwydd oed 4-11
(Amser Llawn)

1 Medi 2020 tan 31 Awst 2021 Medi 2024, Ionawr neu Ebrill 2025

31 Ionawr 2024

16 Ebrill 2024 neu'r diwrnod gwaith nesaf 30 Mai 2024
Ysgol Uwchradd - (Symud o'r Ysgol Gynradd i'r Ysgol Uwchradd) 1 Medi 2012 tan 31 Awst 2013 Medi 2024 20 Rhagfyr 2023 1 Mawrth 2024 neu'r diwrnod gwaith nesaf 12 Ebrill 2024

Ceisiadau Cynnar

Sylwch na ellir defnyddio ceisiadau cynnar yn faen prawf ar gyfer rhoi blaenoriaeth wrth ddyrannu llefydd. Mae'r holl geisiadau sy'n dod i law hyd at y dyddiad cau yn cael eu trin yn yr un modd.

Ceisiadau Hwyr

Ni fydd ceisiadau sy'n dod i law ar ôl y dyddiad cau yn cael eu hystyried nes bod y ceisiadau sydd wedi dod i law cyn y dyddiad cau wedi cael lleoedd. Mae ceisiadau a gyflwynir ar ôl y dyddiad cau yn llai tebygol o gael lle yn yr ysgol dewis cyntaf y gwnaeth y rhieni gais amdani.