Derbyn i Ysgolion 2024-2025- Gwybodaeth i Rieni

Rhoi Llefydd - Y Meini Prawf Gor-alw

Y meini prawf ynghylch gor-alw o ran derbyn disgyblion i ysgolion cymunedol ac ysgolion meithrin, cynradd ac uwchradd gwirfoddol a reolir.

Os derbynnir mwy o geisiadau nag sydd o lefydd mewn ysgol benodol, neilltuir llefydd gan ddefnyddio'r meini prawf canlynol a restrir yn nhrefn blaenoriaeth:

  1. Plant sy'n derbyn gofal a phlant oedd yn arfer derbyn gofal.
  2. Plant sy'n byw yn nalgylch yr ysgol y bydd ganddynt frawd neu chwaer wedi'i gofrestru/chofrestru yno pan fydd y plentyn yn dechrau yn yr ysgol honno.
  3. Plant sy'n byw yn nalgylch yr ysgol sydd heb fod ganddynt frawd na chwaer wedi'i gofrestru/chofrestru yno pan fydd y plentyn yn dechrau yn yr ysgol honno.
  4. Plant sy'n byw y tu allan i ddalgylch yr ysgol AC sydd â brawd neu chwaer wedi'i gofrestru/chofrestru yno pan fydd y plentyn yn dechrau yn yr ysgol honno.
  5. Plant sy'n byw y tu allan i ddalgylch dynodedig yr ysgol ac na fydd ganddynt frawd na chwaer wedi'i gofrestru/chofrestru yno pan fydd y plentyn yn dechrau yn yr ysgol honno.

Dalier sylw: pan fo Datganiad o Anghenion Addysgol neu Gynlluniau Datblygu Unigol yn enwi ysgol benodol mae'n rhaid datgan hynny'n glir ar y ffurflen gais. Ymdrinnir â'r ceisiadau hyn ar wahân, cyn troi at y meini prawf gor-alw.

Ar gyfer ceisiadau am Le Amser Llawn mewn Ysgol Gynradd i blant 4 oed
Ni ellir defnyddio'r ddarpariaeth Feithrin neu flynyddoedd cynnar rhan-amser i blant 3 oed a ddyrannwyd yn faen prawf ar gyfer rhoi blaenoriaeth wrth ddyrannu lleoedd amser llawn mewn ysgol gynradd i blant 4 oed.

Ar gyfer ceisiadau am le mewn Ysgol Uwchradd ym Mlwyddyn 7
Ni ellir defnyddio'r ysgol gynradd y mae disgybl yn ei mynychu yn faen prawf ar gyfer rhoi blaenoriaeth wrth ddyrannu lle mewn ysgol uwchrad.

Nodiadau

Ym mhob un o'r categorïau uchod:

Meini Prawf o ran Pellter

Defnyddir y pellter o’r cartref i’r ysgol yn faen prawf ar gyfer penderfynu ar flaenoriaeth, a rhoddir blaenoriaeth a lle yn yr ysgol i’r sawl sy’n byw agosaf at yr ysgol dros y sawl sy’n byw ymhellach i ffwrdd. Mesurir y pellter gan ddefnyddio Google Maps.
Mesurir y pellter o gyfeiriad y cartref i'r ysgol ar hyd y llwybr agosaf o fynedfa agosaf yr ysgol i'r pwynt mynediad agosaf i gyfeiriad y cartref o'r briffordd neu lwybr troed.

Brodyr a Chwiorydd

Bydd plant yn cael eu hystyried yn frodyr neu’n chwiorydd os ydynt yn: Brawd neu chwaer llawn (plant sydd â dau riant yn gyffredin), hanner brawd neu chwaer (plant sydd ag un rhiant yn gyffredin), brawd neu chwaer a fabwysiadwyd neu a faethwyd, llysfrawd neu lyschwaer (plant sy'n perthyn oherwydd bod eu rhieni yn briod, yn cyd-fyw neu mewn partneriaeth sifil), ond ym mhob achos mae'n rhaid i'r plant fod yn byw yn yr un uned deuluol yn yr un cyfeiriad am y rhan fwyaf o'r wythnos. Lle rhennir y breswyliaeth 50/50, y cyfeiriad lle mae'r rhiant/gwarcheidwaid sy'n derbyn Budd- dal Plant yn byw sy'n cael ei ddefnyddio i brosesu'r cais ac mae'n rhaid i'r brawd neu'r chwaer fod wedi cofrestru ac yn mynychu'r ysgol pan fydd eich plentyn ar fin dechrau yn yr ysgol. Mae'r Awdurdod yn cadw'r hawl i ofyn am dystiolaeth os oes angen. Bydd methu â darparu tystiolaeth pan ofynnir yn arwain at eich cais yn cael ei raddio fel un lle nad oes brawd neu chwaer yn yr ysgol.

Plant Genedigaeth Luosog

O dan unrhyw amgylchiadau pan fydd un lle ar gael a phan fydd y plant cymwys nesaf yn efeilliaid/tripledi bydd yr Awdurdod Lleol yn derbyn y ddau / y ddwy / yr holl blant.

Plant Aelodau Lluoedd Arfog y DU

Bydd plant Aelodau Lluoedd Arfog y Deyrnas Unedig yn cael eu trin fel pe baent o fewn y dalgylch os yw eu ffurflen gais yn cynnwys llythyr swyddogol gan y Weinyddiaeth Amddiffyn yn nodi dyddiad dychwelyd pendant a chadarnhad o’r cyfeiriad newydd o fewn y dalgylch.

Y Nifer Derbyn – Terfyn ar nifer y disgyblion a dderbynnir i ysgol

Mae gan bob ysgol Nifer Derbyn (ND) sy’n nodi a chyfyngu ar faint o ddisgyblion y gellir eu derbyn ym mhob grŵp blwyddyn yn yr ysgol. Rhoddir y ND ar gyfer pob ysgol yn y rhestr o ysgolion yn y llyfryn hwn.

Pennwyd y ND ar gyfer pob ysgol trwy ddefnyddio’r fformiwla maint a bennwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae’r cyfrifiad yn seiliedig ar ganllawiau cenedlaethol (Mesur Capasiti Ysgolion yng Nghymru – Cylchlythyr 021/2011) ac mae’n ymwneud ag arwynebedd ffisegol adeiladau’r ysgol, y math o gyfleusterau sydd yn yr ysgol, ystod oed a nifer y grwpiau blwyddyn yn yr ysgol.

Gan fod y ND yn seiliedig ar allu’r ysgol i ddarparu lle a chyfleusterau addas ar gyfer disgyblion ni ddylid mynd heibio’r terfyn hwnnw.

Mae’r ND yn berthnasol i’r grŵp oed y derbynnir y disgyblion iddo yn yr ysgol, ac mae’n gosod terfyn ar nifer y disgyblion y gellir eu derbyn. Yn y flwyddyn dderbyn arferol rhaid i’r Awdurdod Derbyn dderbyn disgyblion hyd nes y cyrhaeddir y ND. Os yw nifer y ceisiadau a dderbynnir am lefydd mewn ysgol yn fwy na’r ND bydd yr Awdurdod yn blaenoriaethu’r ceisiadau a dderbyniodd yn unol â’r meini prawf ar gyfer gor-alw a nodir yn y ddogfen hon. Mewn amgylchiadau o’r fath mae’n bosib na fydd rhieni yn llwyddo i gael lle i’w plentyn yn eu dewis ysgol. Rhaid i lywodraethwyr ysgol a’r Awdurdod Lleol gadw golwg gyson ar y ND.

Trefniadau Derbyn Eraill

Sir Gâr ddwyieithog - Dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg

Gall rhieni fynegi eu bod yn ffafrio ysgol benodol o ran iaith. Fodd bynnag, mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymrwymo i ddatblygu ei system addysg ddwyieithog ymhellach yn unol â Chynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2022-2032. Credwn yn gryf fod bod yn ddwyieithog neu'n amlieithog yn fantais i'n plant a'n pobl ifanc. Mae ystyriaethau wedi'u gwneud ar gyfer disgyblion sy'n symud i'r sir heb fawr ddim Cymraeg neu ddim Cymraeg o gwbl. Gall disgyblion o bob oed gael cymorth ar gyfer darpariaeth Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin. Gellir cael rhagor o wybodaeth ar ein tudalenau Addysg ddwyieithog.

Ysgolion Dau Safle
Pan gyflwynir cais ar gyfer derbyn i ysgol sy'n gweithredu ar fwy nag un safle, bydd yr Awdurdod yn cymeradwyo derbyn i'r ysgol ac nid i safle penodol. Yr ysgol fydd yn penderfynu pa safle fydd y plentyn yn ei fynychu.

Plant Sipsiwn a Theithwyr
Bydd ceisiadau derbyn ar gyfer teuluoedd Sipsiwn a Theithwyr yn cael eu trin gyda’r bwriad o roi’r plant hyn, mor gyflym ag y bo modd, yn yr ysgol agosaf a mwyaf addas sydd ar gael.