Cwynion / Canmoliaeth

Diweddarwyd y dudalen ar: 14/12/2023

Pan fyddwch yn mynegi eich pryderon neu'n cwyno wrthym, byddwn fel arfer yn ymateb yn y ffordd a amlinellir isod. Fodd bynnag, weithiau efallai y bydd gennych hawl statudol i apelio (e.e., rhag gwrthod rhoi caniatâd cynllunio i chi) felly, yn hytrach nag ymchwilio i'ch pryder, byddwn yn esbonio i chi sut y gallwch apelio.

Mae gennym wybodaeth ar wahân sy'n esbonio ein gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â Chwynion a Chanmoliaeth Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol.

Os ydych chi'n dod atom am wasanaeth am y tro cyntaf, (e.e., adrodd am olau stryd diffygiol, gofyn am apwyntiad ac ati) yna nid yw'r polisi hwn yn berthnasol. Yn gyntaf dylech roi cyfle i ni ymateb i'ch cais, ac erbyn hyn gallwch ddweud wrthym am y rhan fwyaf o broblemau ar-lein.

Fel arfer, dim ond os byddwch chi'n dweud wrthym amdanyn nhw o fewn 6 mis y byddwn ni'n gallu edrych ar eich pryderon. Mae hyn oherwydd ei bod yn well ymchwilio i'ch pryderon tra bod y materion yn dal yn ffres ym meddwl pawb. Efallai y byddwn yn gallu edrych ar bryderon sy'n cael eu dwyn i'n sylw yn hwyrach na hyn, fel eithriad. Fodd bynnag, bydd yn rhaid i chi roi rhesymau cryf i ni pam nad ydych wedi gallu dod â hyn i'n sylw'n gynharach a bydd angen i ni gael digon o wybodaeth am y mater er mwyn caniatáu inni ei ystyried yn iawn.

Os hoffech gael cynrychiolydd ar wahân i'ch Cynghorydd Sir lleol, cyfreithiwr, Aelod o'r Senedd (MS) neu Aelod Seneddol (AS) i weithredu ar eich rhan, bydd gofyn cadarnhad eich bod wedi rhoi caniatâd i ddelio â'ch materion.

Os yw eich cwyn yn ymdrin â mwy nag un corff (e.e., Cymdeithas Dai a’r Cyngor ynghylch niwsans sŵn) byddwn fel arfer yn gweithio gyda nhw i benderfynu pwy ddylai arwain ar ddelio â'ch pryderon. Os yw'r gŵyn yn ymwneud â mudiad sy'n gweithio ar ein rhan, efallai y byddwch am godi'r mater yn anffurfiol gyda nhw'n gyntaf. Fodd bynnag, os ydych am fynegi eich pryder neu gŵyn yn ffurfiol, byddwn yn ymchwilio i hyn ein hunain ac yn ymateb i chi.

Os yw'n bosib, rydyn ni'n credu ei bod hi'n well delio â phethau yn syth. Os oes gennych gŵyn, codwch hi gyda'r person rydych yn delio â nhw. Byddan nhw'n ceisio ei ddatrys i chi yn fuan. Mae'r Tîm Cwynion yn cael gwybod am yr holl gwynion a byddwn yn cynorthwyo gyda chydlynu ymateb. Yn ystod y cam hwn, byddwn yn anelu at ddelio â'ch cwyn cyn gynted â phosibl ac o fewn 10 diwrnod gwaith. Os oes unrhyw wersi i'w dysgu o fynd i'r afael â'ch cwyn, bydd yr aelod o staff yn tynnu sylw y Tîm Cwynion at y gwersi. Os nad oes modd datrys eich cwyn ar pwynt yma, gallwch ofyn wedyn am ymchwiliad ffurfiol.

Os nad ydych yn hapus gyda’r ateb yng ngham 1, dylech gysylltu â'r Tîm Cwynion.

Os yw eich cwyn yn syml, byddwn fel arfer yn gofyn i rywun o'r maes gwasanaeth perthnasol edrych i mewn iddo ac ymateb i chi. Os yw'n fwy difrifol, gallwn ddefnyddio rhywun o lefydd eraill yn y Cyngor neu mewn rhai achosion gallem benodi ymchwilydd annibynnol.

Byddwn yn anelu at ddatrys / ymateb i bryderon o fewn 20 diwrnod gwaith. Fodd bynnag, os yw eich cwyn yn fwy cymhleth, bydd y swyddog ymchwilio ar gyfer eich achos yn eich diweddaru ac yn egluro pam ein bod yn credu y gallai gymryd mwy o amser i ymchwilio a dweud wrthych pa mor hir yr ydym yn disgwyl iddo ei gymryd.

Bydd y sawl sy'n ymchwilio i'ch pryderon yn ceisio sefydlu'r ffeithiau yn gyntaf. Bydd maint yr ymchwiliad hwn yn dibynnu ar ba mor gymhleth a pha mor ddifrifol yw'r materion rydych chi wedi'u codi. Mewn rhai achosion, efallai y byddwn yn gofyn i'ch cyfarfod i drafod eich pryderon.

Os ydym yn ymchwilio'n ffurfiol i'ch cwyn, byddwn yn rhoi gwybod i chi beth rydym wedi dod o hyd iddo. Byddwn yn esbonio sut a pham y daethom i'n casgliadau. Os ydyn ni'n gweld ein bod wedi gwneud camgymeriad, byddwn yn dweud wrthych beth a pham y digwyddodd. Os ydyn ni'n gweld bod bai yn ein systemau neu'r ffordd rydyn ni'n gwneud pethau, byddwn yn dweud wrthych beth yw’r mater a sut rydyn ni'n bwriadu newid pethau i'w atal rhag digwydd eto. Os na wnaethon ni rywbeth yn dda, byddwn ni'n anelu i'w gywiro.

Rydym yn cymryd eich cwynion o ddifri a gobeithiwn y bydd ein system yn eich helpu i ddatrys unrhyw broblemau yn gyflym ac yn llwyddiannus. Fodd bynnag, os na fyddwn yn llwyddo i ddatrys eich cwyn, mae'n bosib y byddwch yn cwyno i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Mae'r Ombwdsmon yn disgwyl i chi ddod â'ch pryderon i'n sylw ni yn gyntaf a rhoi cyfle i ni gywiro pethau. Mae'r Ombwdsmon yn annibynnol o holl gyrff y Llywodraeth.

Dyma fanylion cyswllt yr Ombwdsmon:

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, 1 Ffordd yr Hen Gae, Pen-coed, Pen-y-bont ar Ogwr, CF35 5LJ 

Ffôn: 0300 790 0203

E-bost: ask@ombudsman.wales

Gwefan: www.ombudsman.wales

Mae yna hefyd sefydliadau eraill sy'n ystyried cwynion, er enghraifft, Comisiynydd y Gymraeg. 

Gallwn eich cynghori am sefydliadau o'r fath.

Sefydlodd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 fframwaith cyfreithiol i osod dyletswyddau ar rai sefydliadau i gydymffurfio â safonau mewn perthynas â'r Gymraeg drwy is-ddeddfwriaeth (Safonau Rheoleiddio'r Gymraeg).

Bydd unrhyw gwynion mewn perthynas â'r Gymraeg neu wasanaethau a ddarperir drwy gyfrwng y Gymraeg yn dilyn yr un drefn a nodwyd trwy gydol y polisi hwn. Mae pob cwyn Cymraeg yn cael ei adrodd yn adroddiad blynyddol safonau'r Gymraeg y cyngor.

Mae modd gweld yr holl wybodaeth  sy'n ymwneud â gweithredu'r safonau a'r adroddiadau blynyddol gan Gyngor Sir Gâr ar-lein yma. 

Mae croeso i chi fynegi eich pryderon neu gwyno wrthym trwy gyfrwng y Gymraeg.

Cyflwyno cwyn neu canmoliaeth