Grant cychwyn busnes

1. Cyflwyniad

Fel rhan o'u hymrwymiad parhaus i ddatblygu economaidd a chefnogi busnesau mae cyngor Sir Caerfyrddin yn darparu Grant Cychwyn Busnes Sir Gâr a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraethau'r DU.

 

Nod yr ymyrraeth grant yw cryfhau ecosystemau entrepreneuraidd lleol a chefnogi busnesau ar bob cam o'u datblygiad i ddechrau, cynnal, tyfu, ac arloesi, gan gynnwys trwy rwydweithiau lleol.

 

Nod y Gronfa Gychwyn yw cefnogi creu busnesau newydd yn y sir, gan arwain yn uniongyrchol at greu swyddi, gan wella'r economi leol yn uniongyrchol.

 

Bydd y grant ar agor ar gyfer gwneud cais rhwng 3 Mawrth 2025 a 30 Medi 2025 neu hyd nes y bydd y gronfa wedi'i dyrannu'n llawn.

 

Cynllun grant busnes fydd y Gronfa, a fydd yn cynnwys cefnogaeth at brosiectau gwariant cyfalaf a gwariant refeniw arbenigol (heb gynnwys costau rhedeg parhaus), lle mae swyddi newydd yn cael eu creu oherwydd y cymorth ariannol.