A ydych chi'n poeni am blentyn?

Diweddarwyd y dudalen ar: 08/03/2024

Os ydych chi'n amau fod risg i blentyn neu rywun ifanc:

  • Peidiwch byth â chymryd yn ganiataol y bydd rhywun arall yn rhoi gwybod am hynny
  • Peidiwch byth ag oedi cyn lleisio eich pryderon i rywun sydd mewn sefyllfa i sicrhau bod ymchwiliad priodol yn cael ei gynnal
  • Peidiwch â phoeni y gallech fod yn anghywir - mae'n well trafod eich pryderon â rhywun sydd â'r profiad i wneud asesiad 

Os ydych yn poeni am eich plentyn neu'r ffordd y mae rhywun arall yn trin plentyn, ceisiwch gyngor ynghylch y cymorth ymarferol ac emosiynol sydd ar gael. Mae croeso i berthnasau, aelodau o'r cyhoedd, a gweithwyr proffesiynol fynegi pryder ynghylch plant. Bydd eich pryderon yn cael eu cymryd o ddifrif bob amser, a gallwch ddisgwyl yr ymchwilir yn llawn iddynt. Os ydych yn ansicr, mae'n bosibl y byddwch yn dymuno trafod eich pryderon yn gyntaf gyda rhywun sy'n gweithio gyda phlant a theuluoedd e.e. ymwelydd iechyd, gweithiwr cymdeithasol, nyrs ysgol neu athro/athrawes (mae gan bob ysgol athro neu athrawes sy'n gyfrifol am amddiffyn plant).

Os bydd plentyn yn dweud wrthych ei fod yntau neu blentyn/rhywun ifanc arall yn cael ei gam-drin:

  • Dangoswch eich bod yn derbyn yr hyn mae'n ei ddweud ac yn cymryd ei honiadau o ddifrif
  • Ceisiwch annog y plentyn i siarad ond peidiwch ag awgrymu na gofyn cwestiynau arweiniol
  • Eglurwch beth rydych yn mynd i'w wneud (h.y. dilyn y cyngor a roddir yn yr adran hon)
  • Peidiwch ag addo cadw'r mater yn hollol gyfrinachol oherwydd bydd yn rhaid ichi ddatgelu gwybodaeth i'r rhai y mae angen iddynt wybod
  • Ysgrifennwch yr hyn y mae'r plentyn wedi'i ddweud wrthych, gan ddefnyddio'r union eiriau os yw'n bosibl
  • Peidiwch â herio'r camdriniwr honedig

 phwy y dylid cysylltu?

Os yw'r plentyn mewn perygl dybryd, cysylltwch â Heddlu Dyfed-Powys: 0845 330 2000. Fel arall, gallwch gysylltu â'r Heddlu drwy ffonio 101 a gofyn am gael eich cysylltu â'ch Gorsaf Heddlu leol. Mewn achos brys yn unig, ffoniwch 999.

Cysylltwch â’r Adran Gwasanaethau Plant, Tîm Cyfeirio Canolog ar 01554 742322. Mae’r Tîm yma yn ymdrin â Sir Gaerfyrddin gyfan a wedi eu lleoli yn Nhŷ Elwyn, Llanelli.

Amserau agor y swyddfa yw 8:45am - 5.00pm Dydd Llun i ddydd Iau a 8:45am - 4:30pm ar ddydd Gwener. Croesewir galwyr personol yn ystod oriau agor y swyddfa. Os bydd problem yn digwydd y tu allan i oriau swyddfa ac na allant aros tan y diwrnod gwaith nesaf ffoniwch ni ar 0300 333 2222. Mae'r rhif hwn ar agor gyda'r hwyr, ar benwythnosau ac ar Wyliau Banc.