Trwyddedu Hebryngwyr

Diweddarwyd y dudalen ar: 04/09/2023

Mae hebryngwr yn rhywun sydd wedi'i drwyddedu gan awdurdod lleol i sicrhau  gofal a goruchwyliaeth briodol o blentyn/blant tra byddant yn cymryd rhan mewn perfformiad neu weithgaredd. Prif flaenoriaeth yr hebryngwr bob amser yw budd pennaf y plant yn ei ofal, gan gynnwys eu hiechyd, eu llesiant a'u haddysg, drwy gydol y perfformiad neu'r gweithgaredd.  

Mae angen hebryngwr os yw rhiant neu athro/athrawes y plentyn/plant yn methu â goruchwylio'r plentyn/plant drwy gydol y perfformiad, yr ymarfer neu'r gweithgaredd. Yn unol â'r gyfraith mae'n rhaid i blant oedran ysgol, hyd at a chan gynnwys Blwyddyn 11, sy'n cymryd rhan mewn ymarfer, perfformiad neu weithgaredd fod yng nghwmni hebryngwr cofrestredig. Gall hebryngwr oruchwylio hyd at 12 plentyn ar y tro. Gall y perfformiadau hyn gynnwys unrhyw waith teledu, theatr, ffilm neu berfformiad amatur yn ogystal â gweithgareddau chwaraeon neu waith modelu.

I gofrestru i fod yn hebryngwr bydd angen ichi wneud cais i'r awdurdod lleol lle'r ydych chi'n byw. Mae'n rhaid i ddarpar hebryngwyr:

  • Cwblhau'r Dogfennau Cais Hebryngwr (ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin – Ffurflen Gais Trwydded Hebryngwr / Ffurflen Caniatâd Ymgeisydd - Hebryngwr / Cod Ymddygiad – Hebryngwyr).
  • Darparu 2 ffotograff maint pasbort diweddar neu 1 hun-lun digidol (os ydych yn dychwelyd Dogfennau Cais drwy e-bost).
  • Bod ar gael i ddod i gyfweliad.
  • Darparu argymhellion boddhaol gan 2 Ganolwr.
  • Cwblhau Gwiriad Datgeliad Manwl (DBS). Cyfrifoldeb eich cyflogwr yw prosesu'r Cais DBS. Anfonir e-bost atoch gyda dolen i'ch ffurflen gais DBS. Yn achos ymgeiswyr sy'n gwneud cais i fod yn 'Hebryngwr Proffesiynol' codir tâl o £40 ar gyfer Datgeliad Manwl. Neu, os ydych wedi tanysgrifio i'r Gwasanaeth Diweddaru gan y DBS, rhoi caniatâd i gynnal Gwiriad Statws.
  • Mynychu Hyfforddiant Amddiffyn Plant Gorfodol a gynhelir gan yr Awdurdod Lleol.

Byddwch yn cael Trwydded Hebryngwr sy'n ddilys am dair blynedd o'r dyddiad cyhoeddi. Caiff y drwydded hon ei chydnabod gan bob awdurdod lleol arall ac felly bydd yn fodd ichi weithio fel Hebryngwr yn unrhyw ran o'r wlad.

Os hoffech wneud cais i fod yn Hebryngydd Cofrestredig gyda'r Awdurdod Lleol, cysylltwch â'r Tîm Lles Addysg ar EducationWelfare@sirgar.gov.uk. Bydd Swyddog Dyletswydd yn ymateb i'ch ymholiad cyn pen 5 diwrnod gwaith.