Cyflymder y Rhyngrwyd

Diweddarwyd y dudalen ar: 18/04/2024

Mae yna wahanol ffactorau a fydd yn effeithio ar gyflymder eich cysylltiad. Dyma fideo byr i egluro hyn:

Os ydych chi eisoes wedi dewis pecyn sy’n addas i’ch anghenion, ond bod eich band eang yn dal yn araf, dyma ychydig o bethau i roi cynnig arnynt a allai fod o gymorth i chi.

Cam 1: Cynnal prawf cyflymder

Bydd cynnal prawf cyflymder yn rhoi gwybod i chi beth yw eich cyflymder band eang presennol yn ogystal â'ch cyflymder lawrlwytho a lanlwytho.

Cyn cynnal prawf cyflymder, gwnewch yn siŵr nad oes unrhyw ddyfeisiau eraill yn defnyddio'r rhyngrwyd, megis teledu ffrydio byw, hapchwarae neu lawrlwytho. Bydd hyn yn sicrhau bod y prawf yn rhoi darlleniad mwy cywir i chi o'ch cyflymder presennol.

I gael y canlyniadau gorau, defnyddiwch liniadur neu gyfrifiadur sydd wedi'i gysylltu'n uniongyrchol â'r llwybrydd trwy gebl ethernet. Os yw’r canlyniadau’n arafach na’r hyn y mae eich ISP yn ei gynnig, cysylltwch â nhw i weld a oes unrhyw broblemau neu waith yn cael ei wneud yn eich ardal a allai fod yn effeithio ar gyflymder eich cysylltiad.

Gwirio Cyflymder eich Band eang

 

Gwirio am y wybodaeth ddiweddaraf am borwr

Mae porwyr gwe yn diweddaru'n rheolaidd ac ar adegau na fydd neb o bosibl yn  sylwi arnynt, a all arafu eich cysylltiad. Bydd fersiynau mwy newydd yn gweithio'n gyflymach ac yn rhoi gwell diogelwch i chi.

Lawrlwythwch y fersiwn diweddaraf o'ch porwr gwe:

Lleoliad eich llwybrydd

Gall lleoliad eich llwybrydd gael effaith ar gyflymder eich cysylltiad. Gall dyfeisiau trydanol ymyrryd â'ch llwybrydd, felly mae'n well ei osod mor bell ag sy’n bosib o ddyfeisiau trydanol i osgoi ei arafu. Gall hyn gynnwys setiau teledu, cordiau pŵer AC, yn ogystal â dyfeisiau signalau diwifr fel ffonau diwifr a monitorau babanod. Bydd safle clir, uchel fel silff neu fwrdd yn eich helpu i osgoi ymyriadau a chynnal cyflymder gorau posibl eich rhyngrwyd.

Efallai y bydd oedran eich llwybrydd hefyd yn chwarae rhan. Po hynaf eich llwybrydd, y mwyaf tebygol yw ef o ddatgysylltu'n rheolaidd â'r rhyngrwyd. Bydd eich darparwr yn gallu eich cynghori  a oes angen i chi uwchraddio a chynnig yr opsiynau mwyaf diweddar sydd ar gael i chi.

Cyfrinair - diogelu eich band eang

Os na fyddwch chi'n cadw'ch llwybrydd diwifr yn ddiogel, gallai unrhyw un gerllaw fewngofnodi i'ch band eang. Gall hyn eich rhoi mewn perygl ar-lein yn ogystal ag arafu eich cyflymder rhyngrwyd. Gosodwch gyfrinair bob amser i ddiogelu eich llwybrydd. Dewiswch gyfrinair sy'n cynnwys cymysgedd o lythrennau mawr a bach, yn ogystal â rhifau.