Newid o gopr i lais digidol

Diweddarwyd y dudalen ar: 12/04/2024

Mae gwasanaethau llinell dir traddodiadol, sy'n dibynnu ar gysylltiad copr, bellach yn newid i fersiwn ddigidol o'r enw Protocol Llais dros y Rhyngrwyd (VoIP). Os ydych yn defnyddio llinell dir ar gyfer eich cartref neu fusnes, peidiwch â phoeni, byddwch yn dal yn gallu ei defnyddio, fodd bynnag bydd angen i chi gysylltu â'ch darparwr fel y gallant ddweud wrthych sut i gadw'r un rhif ffôn ac esbonio a yw eich ffôn presennol yn dal yn addas i'w ddefnyddio.

 

Dyma'r prif bwyntiau i'w nodi:

  • Bydd eich ffôn cartref neu fusnes yn plygio i mewn i'ch llwybrydd yn lle'r soced ffôn.
  • Byddwch yn gallu defnyddio eich llinell dir gyda'ch band eang presennol, nid yw'n dibynnu ar gael band eang ffibr llawn.
  • Bydd y rhan fwyaf o ddyfeisiau llinell dir eisoes yn gydnaws yn ddigidol. Fodd bynnag, mae'n rhaid i chi bob amser wirio gyda darparwr eich dyfais i wneud yn siŵr eich bod yn dal yn gallu cysylltu â gwasanaethau llinell ofal neu deleofal dros eich ffôn cartref pan fyddwch wedi newid i'r digidol.
  • Os ydych yn dibynnu ar wasanaethau gofal drwy’r ffôn cartref bydd eich darparwr yn gallu rhoi gwybod i chi beth mae wedi’i roi ar waith ar gyfer sefyllfaoedd brys pan nad yw’r rhyngrwyd yn gweithio.
  • Mae'n bwysig sefydlu eich gwasanaeth Protocol Llais dros y Rhyngrwyd, cyn canslo'ch pecyn llinell dir cyfredol i wneud yn siŵr nad yw'ch rhif yn cael ei ryddhau a gallwch ei drosglwyddo i barhau i'w ddefnyddio.
  • Os oes gennych unrhyw amheuaeth am unrhyw beth, eich darparwr yw eich pwynt cyswllt cyntaf i'ch helpu.