Gwella eich Band Eang

Diweddarwyd y dudalen ar: 12/04/2024

Mae rhai camau syml y gallwch eu cymryd i wybod sut i gael band eang gwell.

Cam 1 – Cynnal prawf cyflymder band eang

Bydd cynnal prawf cyflymder yn rhoi gwybod i chi beth yw eich cyflymder band eang presennol yn ogystal â'ch cyflymder lawrlwytho a lanlwytho. Ar ôl i chi gael y wybodaeth hon, gallwch gymharu'r wybodaeth â pha gyflymder y gallech fod yn ei gael yn eich ardal a pha ddarparwyr sy'n ei gynnig.

Cyn cynnal prawf cyflymder, gwnewch yn siŵr nad oes unrhyw ddyfeisiau eraill yn defnyddio'r rhyngrwyd, megis teledu ffrydio byw, hapchwarae neu lawrlwytho. Bydd hyn yn sicrhau bod y prawf yn rhoi darlleniad mwy cywir i chi o'ch cyflymder presennol.

I gael y canlyniadau gorau, defnyddiwch liniadur neu gyfrifiadur sydd wedi'i gysylltu'n uniongyrchol â'r llwybrydd trwy gebl ethernet.

Gwnewch nodyn o'ch cyflymderau ar ôl i'r prawf gael ei gwblhau, fel y gallwch chi gymharu'n hawdd ar y cam nesaf.

GWIRIO CYFLYMDER EICH BAND EANG

Cam 2 – Dysgu a allwch chi gael cyflymder band eang cyflymach

Defnyddiwch y gwiriwr argaeledd band eang a ddarperir gan Ofcom sy'n rheoleiddio'r diwydiant.

Bydd angen i chi nodi eich cod post, yna gofynnir i chi ddewis eich cyfeiriad. Ar ôl i chi gyflwyno'r wybodaeth hon, dangosir i chi wedyn pa fath o wasanaethau band eang sydd ar gael yn eich ardal. O dan y wybodaeth hon fe welwch y darparwyr rhwydwaith sy'n gweithredu yn eich ardal ar hyn o bryd.

GWIRIWR ARGAELEDD BAND EANG 

Cam 3 - Y camau nesaf os na allwch gael mynediad at well band eang eto

Rydym yn gwybod nad yw hyn yn ddelfrydol a gall fod yn rhwystredig iawn. Fodd bynnag, mae ein timau’n gweithio’n agos gyda chyflenwyr i ddeall eu cynlluniau ar gyfer cyflwyno masnachol ac yn hwyluso hyn ar draws adrannau allweddol yn yr Awdurdod Lleol megis priffyrdd, cynllunio ac ati.

Maent hefyd yn cyfarfod yn rheolaidd â Llywodraeth Cymru a’r DU i gefnogi’r gwaith o gyflawni cynlluniau a ariennir megis Project Gigabit. Mae llawer o gymunedau a busnesau wedi elwa ar y canlynol:

  • Allwedd Band Eang Cymru - Mae'r cynllun hwn gan Lywodraeth Cymru yn darparu grantiau i ariannu neu ariannu'n rhannol gostau offer a gosod cysylltiadau band eang newydd ar gyfer cartrefi a busnesau yng Nghymru.
  • Cynlluniau Talebau Gigabit - Nid yw'r cynllun hwn ar gael ar hyn o bryd ar gyfer rhaglenni newydd. Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon cyn gynted ag y bydd ceisiadau'n ailagor. Os hoffech wybod mwy am sut y gallwch fanteisio ar y cyfle hwn pan fydd ar gael, mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth y DU. Gall eich Swyddog Ymgysylltu Band Eang lleol esbonio sut mae hyn yn gweithio.

Os hoffech wybod mwy, anfonwch e-bost at Aled Nicholas, eich Swyddog Ymgysylltu Band Eang lleol ar bandeang@sirgar.gov.uk. Gall Aled drafod eich opsiynau a thrafod datrysiadau amgen tra byddwch yn aros i'ch ardal gael ei huwchraddio.