Y Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol
Perthnasol i Flwyddyn Academaidd 2027/28
Yn yr adran hon
Cyflwyniad
Mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin ddyletswydd gyfreithiol i ddarparu cludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol i ddysgwyr o oedran ysgol gorfodol sy'n mynychu ysgol ddynodedig eu dalgylch ac sy'n byw y tu hwnt i'r pellter cerdded statudol, yn unol â Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008.1
Mae'r polisi hwn yn nodi'r cyfrifoldebau statudol sydd ar yr Awdurdod Lleol o ran darparu cludiant o'r cartref i'r ysgol a'r coleg i ddysgwyr sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin. O ran cyflawni'r dyletswyddau hyn, rhaid i'r Cyngor:
- Hyrwyddo a threfnu mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg, yn unol â'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg a rhwymedigaethau'r iaith Gymraeg.
- Hyrwyddo dulliau teithio cynaliadwy, gan gefnogi'r hierarchaeth trafnidiaeth genedlaethol, sy'n blaenoriaethu teithio llesol, trafnidiaeth gyhoeddus, trafnidiaeth a rennir, a dulliau allyriadau isel lle bo'n bosibl.
- Sicrhau bod y trefniadau teithio gan ddysgwyr yn ddiogel, yn effeithlon ac yn amgylcheddol gyfrifol, gan adlewyrchu ymrwymiadau ehangach y Cyngor i gynaliadwyedd ac annog newid tuag at deithio mwy gwyrdd.
Mae'r polisi hwn yn gywir ar 1 Hydref 2026 ac mae'n berthnasol i flwyddyn academaidd 2027/28. Mae'r polisi'n cael ei adolygu'n flynyddol yn unol ag unrhyw newidiadau deddfwriaethol perthnasol.
Dim ond pan fo dysgwr yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd a amlinellir yn y ddogfen hon y darperir cludiant am ddim. Dylai rhieni a gwarcheidwaid ddarllen y canllawiau hyn yn ofalus cyn cyflwyno cais. Peidiwch â chyflwyno cais arall os gwrthodwyd cais blaenorol oni bai bod eich amgylchiadau wedi newid (e.e., newid cyfeiriad neu newid ysgol).
Anogir rhieni a gwarcheidwaid sy'n ystyried gwneud cais am gludiant ysgol i ddarllen y wybodaeth Derbyn i Ysgolion ar wefan Cyngor Sir Caerfyrddin yn Addysg ac Ysgolion ac i gysylltu â'r Tîm Teithio gan Ddysgwyr os nad ydynt yn siŵr a ydynt yn gymwys i gael cludiant am ddim, gan gynnwys wrth gynllunio ar gyfer newid cyfeiriad neu newid ysgol, neu wrth bontio o addysg gynradd i addysg uwchradd.
1 Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008
