Y Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol

Perthnasol i Flwyddyn Academaidd 2027/28

Y weithdrefn apelio

Mae'r Awdurdod Lleol yn darparu proses apelio ddewisol ar gyfer ymgeiswyr sy'n dymuno herio penderfyniad ynghylch bod yn gymwys i gael cludiant o'r cartref i ysgol. Pennir manylion y broses apeliadau yn llawn yn Atodiad 5.

Gwrthodir cymorth trafnidiaeth ar gyfer:

  • Dysgwyr o dan 5 oed,
  • Dysgwyr dros 19 oed, neu
  • Ceisiadau am sedd wag

Nid oes hawl i cludiant. Fodd bynnag, gellir codi pryderon ynghylch cymhwyso'r polisi hwn drwy weithdrefn gwyno'r Cyngor.

Mae ymgeiswyr yn cadw'r hawl i gyfeirio eu hachos at yr Ombwdsmon Llywodraeth Leol. Dim ond materion yn ymwneud â'r broses a ddilynwyd gan yr Awdurdod Lleol y gall yr Ombwdsmon eu hystyried, ac nid canlyniad neu grebwyll proffesiynol yr Awdurdod Lleol wrth gymhwyso'r polisi cludiant. Dim ond ar ôl i broses apelio fewnol yr Awdurdod Lleol gael ei chwblhau y dylid gwneud atgyfeiriadau at yr Ombwdsmon.