Y Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol

Perthnasol i Flwyddyn Academaidd 2027/28

Cludiant am ddim i ddysgwyr o oedran ysgol gorfodol

Bydd dysgwyr yn gymwys i gael cludiant am ddim i'r ysgol os ydynt yn bodloni'r HOLL feini prawf canlynol:

  1. Yn breswylwyr yn Sir Gaerfyrddin (h.y. caiff y Dreth Gyngor ar gyfer y cyfeiriad cartref ei thalu i Sir Gaerfyrddin). Mae'r “cyfeiriad cartref” fel y'i diffinnir yn y llyfryn "Derbyn i Ysgolion - Gwybodaeth i Rieni” a gyhoeddwyd gan yr Awdurdod Lleol, Addysg ac Ysgolion - Cyngor Sir Caerfyrddin, ac mae “rhiant” fel y'i diffinnir yn Adran 576 o Ddeddf Addysg 1996. 2Sylwer bod y cyfeiriad cartref cofrestredig a chyfrifoldeb rhiant yn cael eu gwirio yn ystod y cam ymgeisio yn ôl y cofnodion a gedwir gan yr ysgol a'r Awdurdod Addysg.
  2. O oedran ysgol gorfodol. Yn unol â'r gyfraith mae'n rhaid i rieni a gwarcheidwaid drefnu bod eu plant yn derbyn addysg amser llawn ar ddechrau'r tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn 5 oed. Fodd bynnag, cynigir cludiant o ddyddiad eu pen-blwydd yn 5 oed. Nid oes hawl i gludiant i ddysgwyr o dan 5 oed.
  3. Mynychu'r ysgol ddalgylch ddynodedig am eu cyfeiriad, fel y'i diffinnir yn llyfryn Derbyn i'r Ysgol Sir Gaerfyrddin – Gwybodaeth i Rieni a byw dros y "pellter statudol" o'r ysgol (Cyfeiriwch at bwynt 4.3 am ganllawiau manwl).

Bydd disgyblion hefyd yn gymwys i gael cludiant am ddim i'r ysgol os ydynt yn bodloni UN o'r meini prawf canlynol:

  • Yn byw o fewn y "pellter statudol" o'r ysgol ddalgylch ddynodedig ond nid oes llwybr cerdded i'r ysgol ar gael. Cyfeiriwch at bwynt 4.3 i gael canllawiau manwl.
  • Yn byw o fewn y "pellter statudol" o'r ysgol ddalgylch ddynodedig ond bod cyflwr meddygol y dysgwr naill ai yn ei rwystro rhag gwneud defnydd o'r cludiant arferol neu fod ei gyflwr yn ei rwystro rhag cerdded y “pellter cerdded” diffiniedig. Cyfeiriwch at bwynt 4.9 a 4.10 i gael canllawiau manwl.
  • Yn byw y tu allan i'r dalgylch ond yn meddu ar anghenion dysgu ychwanegol. Cyfeiriwch at bwynt 4.7 i gael canllawiau manwl.
  • Yn meddu ar Gynllun Datblygu Unigol gan yr Awdurdod Lleol (nid yr Ysgol) / Datganiad o Anghenion Dysgu Ychwanegol gan yr Awdurdod Lleol. Cyfeiriwch at bwynt 4.7 i gael canllawiau manwl.
  • Yn mynychu Uned Cyfeirio Disgyblion. Cyfeiriwch at bwynt 4.8 i gael canllawiau manwl.
  • Yn Blentyn sy'n Derbyn Gofal a'r Awdurdod Lleol sydd â chyfrifoldeb rhiant corfforaethol. Cyfeiriwch at bwynt 4.4 i gael canllawiau manwl.
  • Yn byw y tu allan i'r dalgylch ond wedi newid cyfeiriad o'r tu mewn i'r dalgylch yn ystod blynyddoedd TGAU i'r tu allan i'r dalgylch. Cyfeiriwch at bwynt 4.2 i gael canllawiau manwl.
  • Yn byw y tu allan i'r dalgylch ond yn byw mewn mwy nag un cyfeiriad, gydag un o'r cyfeiriadau o fewn y dalgylch. Cyfeiriwch at bwynt 4.15 i gael canllawiau manwl.
  • Wedi cael ei wahardd yn barhaol o'i ysgol. Cyfeiriwch at bwynt 4.12 i gael canllawiau manwl.
  • Lle bo dysgwr yn methu sicrhau lle yn ysgol ei ddalgylch oherwydd bod yr ysgol yn llawn, a lle bo lle i'r dysgwr wedi cael ei wrthod yn ffurfiol drwy'r broses derbyn i ysgolion. Cyfeiriwch at bwynt 4.14 i gael canllawiau manwl.

2 At ddibenion y polisi hwn, mae i gyfrifoldeb rhiant yr ystyr a nodir yn Adran 3 o Ddeddf Plant 1989 ac mae'n cyfeirio at yr holl hawliau, dyletswyddau, pwerau, cyfrifoldebau ac awdurdod sydd gan riant mewn perthynas â phlentyn ac eiddo y plentyn. Pan fo'r polisi hwn yn cyfeirio at riant, mae'n cynnwys unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhieni dros y dysgwr yn unol â Deddf Plant 1989.