Y Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol
Perthnasol i Flwyddyn Academaidd 2027/28
Yn yr adran hon
Darpariaeth ddewisol
Mae'r Awdurdod Lleol yn darparu sawl math o gludiant dewisol o'r cartref i'r ysgol, gan gynnwys cymorth i ddysgwyr ôl-16, cludiant i addysg sy'n seiliedig ar ffydd, a mynediad at seddi gwag ar wasanaethau trafnidiaeth dan gontract, fel y disgrifir yn y polisi hwn ac yn Atodiad 3. Nid yw'r trefniadau hyn yn hawliau statudol ac maent y tu allan i ddyletswyddau cyfreithiol yr Awdurdod Lleol. Felly, gall yr Awdurdod newid neu gyfyngu ar unrhyw elfen o drafnidiaeth ddewisol yn dilyn ymgynghori priodol lle bo angen.
Darpariaeth ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg
Mae'r Awdurdod Lleol yn cydnabod ei ddyletswyddau statudol a'i ymrwymiadau strategol i hyrwyddo mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg, fel y nodir yn y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (WESP) a Deddf y Gymraeg ac Addysg 2025.
I gefnogi'r ymrwymiadau hyn, darperir cludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol pan fo'r dysgwr yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd statudol perthnasol a nodir yn Adran 1 o'r polisi hwn.
Darpariaeth ar gyfer ysgolion Ffydd
Mae'r Awdurdod Lleol yn darparu cymorth cludiant dewisol i ddysgwyr ar sail crefydd, cyn belled â bod y dysgwr yn bodloni'r meini prawf perthnasol o ran oedran a phellter statudol.
Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir (o fewn y sir)
DIM OND i'r Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir canlynol yn Sir Gaerfyrddin y mae cymorth cludiant o dan yr adran hon yn berthnasol:
- Ysgol Model yr Eglwys yng Nghymru
- Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Penboyr
- Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Pentip
- Ysgol Gatholig y Santes Fair, Llanelli
- Ysgol Gatholig y Santes Fair, Caerfyrddin
Gellir darparu cymorth cludiant i ddysgwyr sy'n mynychu unrhyw un o'r ysgolion uchod os yw'r dysgwr:
- Yn bodloni'r meini prawf priodol o ran oedran ac isafswm pellter; a
- Nad yw'n byw mwy nag 8 milltir o'r ysgol - Wedi'i fesur fel y llwybr gyrru byrraf sydd ar gael o gyfeiriad cartref y dysgwr hyd at y fynedfa agosaf sydd ar gael i'r ysgol.
Ysgol Gyfun Gatholig Sant Ioan Llwyd, Llanelli
Gellir darparu cymorth cludiant lle bo'r dysgwr:
- Yn bodloni'r meini prawf safonol o ran oedran ac isafswm pellter; a
- Yn byw o fewn dalgylch dynodedig yr ysgol.
Gellir darparu cludiant hefyd i ddysgwyr sy'n byw y tu allan i ddalgylch yr ysgol, cyn belled â bod:
- Y dysgwr yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd safonol; a
- Y dysgwr yn gallu gwneud ei ffordd ei hun i'r man casglu agosaf o fewn y dalgylch dynodedig.
Ysgolion Gwirfoddol a Reolir (o fewn y sir)
DIM OND i'r Ysgolion Gwirfoddol a Reolir canlynol yn Sir Gaerfyrddin y mae cymorth cludiant o dan yr adran hon yn berthnasol:
- Ysgol Abergwili
- Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Talacharn
- Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llanddarog
- Ysgol Llanllwni
Gellir darparu cymorth cludiant lle bo'r dysgwr:
- Yn bodloni'r meini prawf safonol o ran oedran ac isafswm pellter; a
- Yn byw o fewn dalgylch dynodedig yr ysgol.
Nid yw'r darpariaethau hyn yn ofynion statudol ac maent yn gonsesiynau dewisol a gynigir gan yr Awdurdod Lleol. O'r herwydd, mae'r Awdurdod Lleol yn cadw'r hawl i dynnu'n ôl unrhyw elfen neu bob elfen o'r ddarpariaeth gonsesiynol hon ar unrhyw adeg, yn dilyn cyfnod priodol o ymgynghori.
Lle nad yw cludiant gan yr Awdurdod Lleol yn cael ei ddarparu, gall teuluoedd ystyried:
- Teithio llesol – Cerdded, beicio, neu fynd ar sgwter os yw'r llwybrau'n ddiogel.
- Trafnidiaeth gyhoeddus – Defnyddio gwasanaethau bws a threnau lleol
- Trefniadau preifat – Teithio mewn car, rhannu car gyda theuluoedd eraill, neu ddefnyddio trafnidiaeth breifat y gellir ei llogi.
Darpariaeth ar gyfer ysgolion Meithrin
Nid oes dyletswydd statudol ar yr Awdurdod Lleol i ddarparu cludiant i ddysgwyr sy'n iau na'r Oedran Ysgol Statudol, boed yn rhan-amser neu'n amser llawn, ac felly nid oes gan y grŵp oedran hwn hawl i gludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol.
Rhieni a gwarcheidwaid sy'n gyfrifol am drefnu ac ariannu teithio. Lle nad yw cludiant gan yr Awdurdod Lleol yn cael ei ddarparu, gall teuluoedd ystyried:
- Teithio llesol – Cerdded, beicio, neu fynd ar sgwter os yw'r llwybrau'n ddiogel.
- Trafnidiaeth gyhoeddus – Defnyddio gwasanaethau bws a threnau lleol
- Trefniadau preifat – Teithio mewn car, rhannu car gyda theuluoedd eraill, neu ddefnyddio trafnidiaeth breifat y gellir ei llogi.
Darpariaeth ar gyfer dysgwyr Ôl-16
Gall yr Awdurdod Lleol ddarparu cymorth cludiant dewisol i ddysgwyr 16–18 oed (a rhai 19 oed a ddechreuodd eu cwrs cyn troi'n 19 oed ac sydd dal yn mynychu'r un cwrs). Gellir ystyried cymorth yn yr amgylchiadau canlynol:
Darpariaeth Chweched Dosbarth - Lle bo dysgwr yn mynychu chweched dosbarth ei ysgol ddalgylch ddynodedig, cyn belled â'i fod:
- Yn bodloni'r meini prawf isafswm pellter; a
- Yn iau na 19 oed, neu'n 19 oed ond yn parhau ar gwrs a ddechreuodd cyn ei ben-blwydd yn 19 oed.
Colegau Addysg Bellach - lle bo dysgwr yn mynychu ei gampws coleg addysg bellach agosaf yn y sir, cyn belled â'i fod:
- Yn bodloni'r meini prawf isafswm pellter;
- Yn iau na 19 oed, neu'n 19 oed ond yn parhau ar gwrs a ddechreuodd cyn troi'n 19 oed; a
- Wedi'i gofrestru ar gwrs amser llawn.
Nid yw'r trefniadau cludiant ôl-16 hyn yn ofynnol yn statudol, a gall yr Awdurdod Lleol dynnu'n ôl neu newid unrhyw elfen gonsesiynol o'r polisi hwn ar unrhyw adeg, yn amodol ar ymgynghoriad priodol. Mae cymorth cludiant i ddysgwyr ôl-16 yn cael ei drefnu ar y sail bod dysgwyr yn gyfrifol am deithio'n annibynnol i'r pwynt addas agosaf ar y rhwydwaith cludiant craidd. Darperir rhagor o wybodaeth yn Atodiad 1.
Gall dysgwyr mewn addysg ôl-16 fod yn gymwys i gael cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru i helpu â chostau trafnidiaeth. Mae'r cynlluniau sydd ar gael yn cynnwys:
- Lwfans Cynhaliaeth Addysg - Cymorth ariannol i ddysgwyr cymwys o gartrefi incwm isel barhau ag addysg amser llawn neu hyfforddiant y tu hwnt i'r oedran addysg gorfodol.
- Grant Dysgu Cynulliad - Cymorth i ddysgwyr 19 oed neu hŷn sydd wedi'u cofrestru mewn Addysg Bellach.
- Cronfa Ariannol wrth Gefn - Darparu cyllid i sefydliadau Addysg Bellach ac Addysg Uwch yng Nghymru er mwyn cefnogi dysgwyr sy'n wynebu caledi ariannol.
- Cynllun Teithio i Bobl Ifanc - Teithio am bris gostyngol i bobl ifanc sy'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, ar yr amod eu bod yn gymwys a bod y gweithredwr yn rhan o'r cynllun.
