Y Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol
Perthnasol i Flwyddyn Academaidd 2027/28
Yn yr adran hon
Datganiadau polisi
4.1 Dewis Rhieni neu Warcheidwaid a Dysgwyr - Mae'r Awdurdod Lleol yn cydnabod y gall rhieni/gwarcheidwaid a dysgwyr fynegi eu bod yn ffafrio ysgol benodol. Fodd bynnag, nid yw dewis rhieni yn golygu bod ganddynt hawl awtomatig i gludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol. Dim ond os yw'r dysgwr yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd a nodir yn Adran 1 o'r polisi hwn y darperir cymorth cludiant. Pan fydd rhieni neu warcheidwaid yn dewis ysgol heblaw'r ysgol ddalgylch ddynodedig, cyfrifoldeb y rhiant neu'r gwarcheidwad yw'r trefniadau cludiant a'r costau.
4.2 Newid Cyfeiriad - Rhaid i rieni a gwarcheidwaid roi gwybod i'r Awdurdod Lleol a'r ysgol yn syth am unrhyw newid yn eu cyfeiriad cartref. Gall newid cyfeiriad effeithio ar gymhwysedd dysgwr ar gyfer cludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol. Os nad yw dysgwr bellach yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd o ganlyniad i symud tŷ, bydd cymorth cludiant yn cael ei dynnu'n ôl.
Pan fydd dysgwr yn symud cartref yn ystod ei astudiaethau TGAU (ar ôl hanner tymor Hydref Blwyddyn 10), bydd yr Awdurdod Lleol yn darparu cymorth cludiant tan ddiwedd Blwyddyn 11, ar yr amod bod y dysgwr yn bodloni'r meini prawf oedran a phellter yn y cyfeiriad newydd ac yn arfer mynychu'r ysgol ddynodwyd gan yr Awdurdod Lleol. Bydd cludiant yn yr amgylchiadau hyn yn cael ei gynnig ar y cerbyd agosaf sydd ar gael ac o'r man casglu agosaf sydd ar gael.
4.3 Pellter Statudol - Fe'i diffinnir fel 2 filltir (3.218 cilometr) neu fwy ar gyfer ysgolion cynradd a 3 milltir (4.828 cilometr) neu fwy ar gyfer ysgolion uwchradd, a chaiff ei fesur yn ôl y llwybr agosaf sydd ar gael o'r pwynt agosaf lle bydd cyfeiriad yr ymgeisydd yn cysylltu â'r briffordd gyhoeddus i'r fynedfa agosaf i'r ysgol. Er y cyfeirir weithiau at y pellter fel “pellter cerdded”, nid yw hynny'n awgrymu bod disgwyl i'r dysgwr gerdded o reidrwydd, ond o fewn y pellter hwn disgwylir i riant/gwarcheidwad wneud ei drefniadau ei hun ar gyfer taith y dysgwr i'r ysgol ac yn ôl adref, ar ei gost ei hun.
Lle bo dysgwr o oedran ysgol statudol yn byw o fewn y pellter statudol ond nid oes llwybr cerdded ar gael, asesir y llwybr cerdded yn unol â chanllawiau Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) ynghylch asesu risg llwybrau cerdded i ysgolion. Cyfeiriwch at Atodiad 4 i gael canllawiau manwl.
4.4 Plant sy'n Derbyn Gofal - Pan fo dysgwr yn Blentyn sy'n Derbyn Gofal ac mae'r Awdurdod Lleol, yn ei rôl fel rhiant corfforaethol, yn penderfynu bod presenoldeb mewn ysgol benodol er budd pennaf y dysgwr, gellir darparu cymorth cludiant. Gall hyn gynnwys lleoliadau mewn ysgolion heblaw'r ysgol ddalgylch ar gyfer cyfeiriad presennol y dysgwr, lle mae parhad addysg, cynnal cysylltiadau rhwng brodyr a chwiorydd, neu gadw perthnasoedd rhwng cyfoedion yn flaenoriaeth.
Bydd dysgwyr yn cael eu hasesu yn erbyn y meini prawf pellter statudol, ac os ydynt yn gymwys, darperir cludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol a nodwyd gan yr Awdurdod Lleol fel y lleoliad mwyaf addas. Bydd y trefniadau hyn yn cael eu hadolygu'n flynyddol.
4.5 Dau gyfeiriad - Pan fo rhieni neu warcheidwaid yn rhannu cyfrifoldeb dros ddysgwr a bod y dysgwr yn byw mewn dau gyfeiriad rhieni, gall yr Awdurdod Lleol ddarparu cludiant o'r cartref i'r ysgol o'r ddau gyfeiriad, ar yr amod bod y dysgwr yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd safonol a'r amodau canlynol:
- Bod y ddau gyfeiriad wedi'u cadarnhau fel preswylfeydd parhaol;
- Bod y manylion preswylio yn gywir ac yn gyfredol ar systemau addysg yr Awdurdod Lleol; a
- Bod y dysgwr yn mynychu:
- yr ysgol ddalgylch ddynodedig ar gyfer ei brif cyfeiriad cartref, neu
- ysgol a glustnodwyd gan yr Awdurdod Lleol fel y lleoliad mwyaf addas.
Pan fo o leiaf un breswylfa yn Sir Gaerfyrddin, gall y dysgwr fod yn gymwys i gael Cerdyn Teithio o bob cyfeiriad cymwys. Rhaid i rieni neu warcheidwaid gysylltu â'r Tîm Teithio gan Ddysgwyr i gadarnhau cymhwysedd a chyflwyno'r cais gofynnol.
Pan fo gan ddysgwr ddau gartref mewn gwahanol Awdurdodau Lleol, bydd pob Awdurdod Lleol yn gyfrifol am ddarparu cludiant yn ystod y cyfnodau pan fo'r dysgwr yn byw yn ei ardal yn unig. Felly, efallai y bydd angen cyflwyno ceisiadau ar wahân i bob Awdurdod Lleol.
Darperir cludiant o unrhyw gyfeiriad sydd y tu allan i ddalgylch dynodedig yr ysgol o'r llwybr trafnidiaeth agosaf sydd ar gael i'r ysgol honno, a all fod yn fwy nag 1.5 milltir o'r cyfeiriad cartref. Bydd rhieni neu warcheidwaid yn gyfrifol am sicrhau bod y dysgwr yn teithio'n ddiogel i'r man casglu dynodedig. Gall mannau casglu newid yn ystod amser y dysgwr yn yr ysgol yn unol â chynllunio llwybrau a gofynion gweithredol.
4.6 Cymhwysedd Brodyr a Chwiorydd ar gyfer Cludiant - Mae cymhwysedd pob dysgwr ar gyfer cludiant ysgol am ddim yn cael ei asesu'n unigol yn erbyn y meini prawf safonol pan gaiff y cais ei wneud. O ganlyniad, gall fod achosion lle mae un brawd neu chwaer yn gymwys ar gyfer cludiant ond nid y llall, er enghraifft lle penderfynwyd bod y plentyn yn gymwys ar ôl apêl lwyddiannus neu lle mae trefniadau dalgylch wedi newid.
4.7 Anghenion Dysgu Ychwanegol - Pan fo gan ddysgwr Gynllun Datblygu Unigol Awdurdod Lleol neu Ddatganiad o Anghenion Dysgu Ychwanegol a gyhoeddwyd gan yr Awdurdod Lleol, neu os yw'n cael asesiad statudol oherwydd anawsterau dysgu a nodwyd, mae trafnidiaeth a bennir mewn IDP yn cael blaenoriaeth dros y polisi hwn.
Mewn achosion o'r fath, bydd dysgwyr yn cael eu hasesu i nodi'r math a'r lefel briodol o drafnidiaeth arbenigol sydd ei angen. Bydd y trefniadau cludiant hyn yn cael eu hadolygu'n flynyddol.
4.8 Uned Cyfeirio Disgyblion - Gall dysgwyr sy'n cael eu lleoli gan yr Awdurdod Lleol mewn Uned Cyfeirio Disgyblion gael cludiant os yw'r Awdurdod Lleol wedi penderfynu ei bod yn angenrheidiol iddynt gael mynediad i'w lleoliad. Bydd cymhwysedd yn dilyn yr egwyddorion yn Adran 1 a gall adlewyrchu pellter, anghenion diogelu, neu Anghenion Dysgu Ychwanegol.
4.9 Cyflyrau Meddygol - Gall dysgwyr fod yn gymwys i gael cymorth cludiant ar sail feddygol lle darperir tystiolaeth ategol briodol. Mae'r dystiolaeth dderbyniol yn cynnwys:
- Tystysgrif feddygol neu ddatganiad wedi'i lofnodi gan ymarferydd meddygol cymwys sy'n cadarnhau nad yw'r dysgwr yn gallu cerdded y pellter statudol ac sy'n esbonio sut mae'r cyflwr yn effeithio ar symudedd y dysgwr; NEU
Copi o'r Datganiad o Hawl i Lwfans Byw i'r Anabl, sy'n gorfod bod yn benodol ar gyfer y dysgwr (nid aelod o'r teulu) a chadarnhau anghenion sy'n gysylltiedig â symudedd; NEU
Copi o Fathodyn Glas y dysgwr, sy'n gorfod bod yn benodol ar gyfer y dysgwr (nid aelod o'r teulu) a chadarnhau anghenion sy'n gysylltiedig â symudedd.
Bydd cludiant a ddarperir ar sail feddygol yn cael ei adolygu'n rheolaidd ac yn dod i ben pan fydd y dysgwr yn gallu teithio'n annibynnol neu pan nad oes angen meddygol mwyach.
4.10 Cyflyrau Meddygol Dros Dro - Gall dysgwyr sydd â chyflyrau meddygol dros dro sy'n eu hatal rhag cerdded y pellter statudol fod yn gymwys i gael cymorth cludiant tymor byr, ar yr amod eu bod yn bodloni meini prawf oedran ac isafswm pellter perthnasol y polisi hwn.
Rhaid i geisiadau gael eu hategu gan dystiolaeth feddygol sy'n cadarnhau:
- Natur y cyflwr;
- Sut mae'r cyflwr yn effeithio ar symudedd;
- Hyd disgwyliedig y cyflwr; a
- Effaith debygol ar bresenoldeb ysgol heb gymorth cludiant ychwanegol.
Bydd cludiant a gynigir o achos rhesymau meddygol dros dro yn cael ei ganiatáu am gyfnod penodol a'i adolygu yn ôl yr angen. Daw'r cymorth i ben pan fydd symudedd y dysgwr wedi gwella'n ddigonol neu pan na fydd y cyflwr dros dro yn cyfiawnhau cludiant ychwanegol mwyach.
4.11 Symudiadau a Reolir - Nid yw Cludiant yn cael ei ddarparu'n awtomatig ar gyfer symudiadau a reolir; fodd bynnag, gall yr Awdurdod Lleol gynnig cymorth lle cytunir ar y symudiad yn ffurfiol ac yn ofynnol i gefnogi ymddygiad, cynhwysiant, diogelu neu sefydlogrwydd addysgol. Os daw'r symudiad wedi ei reoli yn drosglwyddiad parhaol, dim ond os yw'r dysgwr yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd safonol sy'n berthnasol i bob dysgwr y darperir cludiant parhaus. Rhaid trafod unrhyw newidiadau arfaethedig i leoliad dysgwr gyda'r Adran Drafnidiaeth ymlaen llaw i sicrhau bod trefniadau cludiant addas ar gael.
4.12 Wedi'i Wahardd yn Barhaol - Pan fo dysgwr wedi'i wahardd yn barhaol a'r Awdurdod Lleol wedyn yn dyrannu lleoliad addysgol arall, gan gytuno ar drefniadau cludiant ymlaen llaw, gellir darparu cludiant yn amodol ar y meini prawf oedran a phellter a nodir yn Adran 1. Lle caiff ei gymeradwyo, bydd cludiant yn cael ei gynnig fel arfer ar y cerbyd agosaf sydd ar gael ac o'r man casglu agosaf sydd ar gael. Dim ond tra bydd y lleoliad arall yn angenrheidiol y bydd y cymorth yn parhau, a bydd yn dod i ben os daw'r dysgwr yn gymwys i ddychwelyd i'w ysgol ddalgylch ddynodedig neu os na fydd yn bodloni'r meini prawf ar gyfer cymorth mwyach.
Gall yr Awdurdod Lleol ddarparu cludiant i leoliad arall lle ystyrir bod hynny'n angenrheidiol, hyd yn oed os nad honno yw'r ysgol ddalgylch agosaf neu ddynodedig. Rhaid trafod unrhyw newidiadau arfaethedig i leoliad dysgwr gyda'r Adran Drafnidiaeth ymlaen llaw er mwyn sicrhau y gellir gwneud trefniadau cludiant priodol.
4.13 Ad-drefnu Ysgolion -. Pan fydd ysgol yn cau neu'n destun ad-drefnu statudol yn dilyn proses ymgynghori ffurfiol, bydd yr Awdurdod Lleol yn nodi ysgolion dalgylch priodol eraill. Bydd cludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol wedyn yn cael ei ddarparu i'r ysgol addas agosaf a nodwyd gan yr Adran Addysg, cyn belled â bod y dysgwr yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd a nodir yn Adran 1.
4.14 Gor-alw mewn Ysgolion - Pan nad yw dysgwr yn gallu cael lle yn ei ysgol ddalgylch ddynodedig oherwydd bod yr ysgol yn llawn a bod lle i'r dysgwr wedi cael ei wrthod yn ffurfiol drwy'r broses derbyn i ysgolion, bydd yr Awdurdod Lleol yn nodi'r ysgol addas agosaf nesaf sydd ar gael. Gall dysgwyr y dyrennir lle iddynt yn yr ysgol arall hon gan yr Awdurdod Lleol fod yn gymwys i gael cludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol, ar yr amod eu bod yn bodloni'r meini prawf pellter statudol perthnasol.
Mae'r ddarpariaeth hon yn sicrhau nad yw dysgwyr dan anfantais pan fo gor-alw yn eu hysgol ddalgylch y tu allan i reolaeth rhieni neu warcheidwaid, cyhyd â bod cais derbyn i ysgol wedi'i gyflwyno erbyn y dyddiad cau penodol.
Pan fydd rhieni neu warcheidwaid yn dewis ysgol heblaw'r ysgol a ddyrannwyd oherwydd gor-alw, bydd hyn yn cael ei drin fel dewis rhieni. Mewn achosion o'r fath, ni ddarperir cymorth cludiant oni bai bod y dysgwr yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd safonol a nodir yn Adran 1 yn annibynnol.
4.15 Ysgolion sydd â sawl Safle - Pan fo ysgol yn gweithredu ar fwy nag un safle, darperir cludiant am ddim i'r prif safle gweinyddol yn unig oni bai bod yr Awdurdod Lleol yn nodi safle arall fel y lleoliad dynodedig ar gyfer amserlen y dysgwr. Cyfrifoldeb yr ysgol yw'r symud mewnol rhwng safleoedd yn ystod y diwrnod ysgol.
4.16 Tu Allan i Oriau Ysgol - Dim ond ar ddechrau a diwedd y diwrnod ysgol y darperir cludiant ysgol am ddim, yn unol â'r oriau ysgol swyddogol a gyhoeddwyd. Nid yw cludiant yn cael ei ddarparu ar gyfer gweithgareddau allgyrsiol, darpariaeth estynedig, clybiau brecwast, sesiynau adolygu, lleoliadau profiad gwaith, na digwyddiadau ar ôl ysgol. Rhieni neu warcheidwaid sy'n gyfrifol am drefnu a chyllido'r teithio ar gyfer gweithgareddau o'r fath, oni bai bod yr ysgol yn darparu dewisiadau eraill.
4.17 Cludiant ar gyfer Ymweliadau Addysgol neu Deithiau a Drefnir gan yr Ysgol – Cyfrifoldeb yr ysgol yw trefnu ac ariannu teithiau ysgol. Nid yw'r Awdurdod Lleol yn darparu nac yn ariannu cludiant ar gyfer teithiau ysgol.
4.18 Diwrnodau Sefydlu - Nid yw cludiant ar gyfer diwrnodau sefydlu mewn ysgolion yn cael ei ddarparu'n awtomatig. Gellir trefnu cludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol ar gyfer dysgwyr sydd wedi'u hystyried yn gymwys i gael cludiant ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd, yn unol â'r meini prawf a nodir yn Adran 1. Mae'n rhaid i ddysgwyr sy'n trosglwyddo o'r Ysgol Gynradd i'r Ysgol Uwchradd gyflwyno'r cais gofynnol am gludiant erbyn 1 Ionawr yn y flwyddyn drosglwyddo er mwyn cael eu hystyried ar gyfer diwrnodau sefydlu. Os cyflwynir ceisiadau yn hwyr, mae'n bosibl na fydd cludiant ar gael.
4.19 Cynorthwywyr Teithwyr - Nid yw darparu cynorthwyydd teithwyr yn awtomatig a chaiff hynny ei ystyried yn yr amgylchiadau canlynol yn unig:
- Bod hynny'n ofynnol yn ôl anghenion a aseswyd y dysgwr, fel y'u nodwyd trwy brosesau ADY neu asesiad risg; neu
- Fod yr Awdurdod Lleol yn penderfynu bod darpariaeth cynorthwyydd teithwyr yn hanfodol ar gyfer diogelwch.
Mae Cynorthwywyr Teithwyr yn cefnogi gweithrediad diogel y gwasanaeth ond nid ydynt yn gyfrifol am reoli ymddygiad y tu hwnt i oruchwyliaeth resymol.
4.20 Seddi Gwag - Cyfeiriwch at Atodiad 3 i gael canllawiau manwl.
4.21 Cyllidebau Teithio Personol - Gall yr Awdurdod Lleol, mewn amgylchiadau prin, gynnig Cyllideb Teithio Personol yn hytrach na darparu cludiant yn uniongyrchol. Gellir darparu Cyllideb Teithio Personol:
- Pan fo hyn yn cynrychioli gwell gwerth am arian na chomisiynu cludiant;
- Pan fo anghenion y dysgwr yn golygu bod cludiant uniongyrchol yn anaddas; neu
- Pan fo'n well gan y rhiant neu'r gwarcheidwad Gyllideb Teithio Personol a bod yr Awdurdod Lleol yn cytuno bod hynny'n briodol ac yn ddiogel.
Gall Cyllidebau Teithio Personol fod ar ffurf lwfans milltiroedd sefydlog neu grant ariannol er mwyn cynorthwyo â chludiant y dysgwr rhwng y cartref a'r ysgol, neu i fan casglu priodol os yw’r pellter i gwrdd â cherbyd addas yn fwy nag 1.5 milltir.
Er mwyn bod yn gymwys i gael Cyllideb Teithio Personol, rhaid i ddysgwr fodloni'r meini prawf ar gyfer cludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol fel y nodir yn y polisi hwn. Ni ddarperir Cyllidebau Teithio Personol pan fydd dysgwr yn mynychu ysgol nad yw'n ysgol ddalgylch a ddewiswyd ar sail dewis rhieni yn unig.
4.22 Peidio â Defnyddio'r Cludiant - Pan fydd dysgwr dro ar ôl tro yn methu â defnyddio'r cludiant a ddyrannwyd iddo heb hysbysu'r Tîm Teithio gan Ddysgwyr, gall yr Awdurdod Lleol dynnu'r sedd yn ôl dros dro a'i hailddyrannu i ddysgwr arall. Rhaid i rieni a gwarcheidwaid roi gwybod i'r Awdurdod Lleol ar unwaith os nad oes angen cludiant mwyach. Rhaid dychwelyd Cardiau Teithio nad oes eu hangen mwyach i'r Tîm Teithio gan Ddysgwyr fel y gellir ailddyrannu'r sedd i ddysgwr arall.
4.23 Hawl i Dynnu Cludiant yn ôl
Mae'r Awdurdod Lleol yn cadw'r hawl i dynnu'n ôl neu ddiwygio trefniadau trafnidiaeth os:
- Os nad yw dysgwr yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd mwyach;
- Mae trafnidiaeth yn cael ei gamddefnyddio neu mae ymddygiad dysgwr yn peri risg diogelwch iddyn nhw eu hunain, teithwyr eraill, neu staff trafnidiaeth;
- Mae sefyllfa seddi gwag yn newid ac ni ellir cadw sedd yn ôl disgresiwn mwyach;
- Rhieni neu warcheidwaid yn methu â chydymffurfio â gofynion y polisi hwn, gan gynnwys darparu gwybodaeth gywir a chyfredol; neu
Pan ddarperir cludiant fel trefniant yn ôl disgresiwn, gall yr Awdurdod Lleol dynnu'r lle yn ôl yn yr amgylchiadau a amlinellir uchod.
Pan fo gan ddysgwr hawl statudol i gludiant o'r cartref i'r ysgol, gall peidio â defnyddio trafnidiaeth arwain at dynnu sedd yn ôl ar lwybr neu drefniant cludiant penodol. Fodd bynnag, bydd hawl statudol y dysgwr yn parhau a gellir ailystyried trafnidiaeth yn dilyn cais pellach.
Bydd o leiaf saith diwrnod o rybudd ysgrifenedig fel arfer yn cael ei ddarparu cyn i gludiant gael ei dynnu'n ôl neu ei ddiwygio, ac eithrio lle mae angen gweithredu ar unwaith i fynd i'r afael â phryderon diogelwch.
Pan fydd trafnidiaeth yn cael ei dynnu'n ôl oherwydd ymddygiad neu bryderon sy'n gysylltiedig â diogelwch, gall yr Awdurdod Lleol ystyried trefniadau trafnidiaeth arall lle byddai tynnu'n ôl fel arall yn atal y dysgwr rhag cael mynediad rhesymol at addysg.
Mae rhieni a gwarcheidwaid yn parhau i fod yn gyfrifol am sicrhau bod y dysgwr yn mynychu'r ysgol.
4.24 Talu am Deithio ar Gludiant Ysgol - Nid yw'r Awdurdod Lleol yn cynnig yr opsiwn i rieni neu warcheidwaid dalu am gludiant i ddysgwyr nad oes ganddynt hawl i gludiant o dan y polisi hwn.
