Y Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol

Perthnasol i Flwyddyn Academaidd 2027/28

Sut i wneud ymholiadau/cwynion am drefniadau teithio

Mae rhagor o wybodaeth am y polisi hwn ar gael gan Dîm Teithio gan Ddysgwyr yr Awdurdod Lleol. Dylid cyfeirio ymholiadau drwy e-bost at TeithioDysgwyr@sirgar.gov.uk a gellir dod o hyd i ragor o ganllawiau ar dudalennau Cludiant Ysgol gwefan Cyngor Sir Caerfyrddin Cais am Gludiant Ysgol.

Dylid cyflwyno cwynion sy'n ymwneud â'r gwasanaeth cludiant o'r cartref i'r ysgol trwy e-bost i TrafnidiaethGyhoeddus@sirgar.gov.uk.

Gall rhieni neu warcheidwaid sydd wedi cyflwyno cais am gludiant am ddim ac mae eu cais wedi cael ei wrthod, ofyn am adolygiad o'r penderfyniad. Darperir manylion am y broses adolygu fel rhan o'r e-bost sy'n hysbysu bod y cais wedi'i wrthod.