Y Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol

Perthnasol i Flwyddyn Academaidd 2027/28

Atodiad 2: Amodau defnyddio cardiau teithio

Rhaid i ddysgwyr gyflwyno eu Cardiau Teithio dilys i'r gyrrwr ar ddechrau pob taith. Gellir gwrthod cludiant os na ddangosir cerdyn dilys. Nid oes modd trosglwyddo Cardiau Teithio, a dim ond y dysgwr a enwir ar y cerdyn all ei ddefnyddio, a hynny ar gyfer y llwybr penodol a'r teithiau a nodwyd.

Mae camddefnyddio neu ddefnydd twyllodrus o Gerdyn Teithio yn cael ei drin yn ddifrifol a gall arwain at:

  • Camau disgyblu gan yr ysgol neu'r coleg, a/neu
  • Atal rhag gwasanaethau trafnidiaeth neu dynnu'n ôl o drefniant trafnidiaeth penodol gan yr Awdurdod Lleol.

Rhaid i rieni a gwarcheidwaid hysbysu'r Tîm Teithio gan Ddysgwyr ar unwaith os bydd unrhyw fanylion ar y ffurflen gais wreiddiol yn newid, fel y gellir ailasesu cymhwysedd. Pan fo angen cerdyn newydd yn dilyn newid, rhaid dychwelyd y cerdyn gwreiddiol cyn y gellir cyflwyno cerdyn newydd. Os na fydd y cerdyn gwreiddiol yn cael ei ddychwelyd, bydd oedi o ran prosesu eich cais newydd.

Os nad oes angen Cerdyn Teithio mwyach, rhaid ei ddychwelyd i'r Tîm Teithio gan Ddysgwyr cyn gynted â phosibl fel y gellir neilltuo'r sedd i ddysgwr arall.

Os bydd Cerdyn Teithio yn cael ei golli neu ei ddifrodi, rhaid i rieni neu warcheidwaid wneud cais am Gerdyn Newydd.

Mae tâl o £6 yn cael ei godi am bob cerdyn sy'n cael ei ailgyflwyno. Gellir cyhoeddi trefniadau teithio dros dro lle bo'n bosibl.

Ymddygiad Dysgwyr - Rhaid i bob dysgwr sy'n defnyddio cludiant a ddarperir gan yr Awdurdod Lleol gadw at y Cod Ymddygiad Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol. Gall methu â chydymffurfio â'r Cod Ymddygiad arwain at gamau disgyblu, gan gynnwys tynnu'r cludiant yn ôl dros dro neu'n barhaol Cod Ymddygiad - Prif Ffrwd Cod Ymddygiad - ADY.